Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Amddiffyn plant


Mae pob un ohonom ni am i'n plant elwa i'r eithaf o'r cyfoeth o dechnoleg sydd ar gael heddiw. 

Mae'r rhyngrwyd, teledu digidol, ffonau symudol a mathau eraill o dechnoleg yn gweddnewid popeth - o'r ffordd maen nhw'n dysgu ac yn chwarae i'r ffordd maen nhw'n cysylltu â'i gilydd.

ParentPort logoYdych chi'n poeni am rywbeth arall heblaw am raglenni Teledu, Radio neu Fideo ar raglenni ar-alwad? 

Mae ParentPort yn wefan sydd wedi'i sefydlu gan Ofcom a rheoleiddwyr eraill y cyfryngau ar gyfer rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr. Mae'n cynnwys gwybodaeth am safonau yn y cyfryngau er mwyn diogelwch plant ac yn esbonio sut mae gwneud cwyn neu anfon eich safbwyntiau at y rheoleiddiwr cywir.

Ewch i ParentPort

Ond mae rhieni am sicrhau bod plant yn cael eu gwarchod rhag deunydd na fyddem yn dymuno iddynt ei weld neu ei glywed.

Diogelu plant

Mae diogelu plant rhag deunydd niweidiol neu anaddas ar y teledu, radio neu wasanaethau fideo ar-alwad ymhlith dyletswyddau pwysicaf Ofcom ac rydyn ni'n ystyried y mater hwn yn un difrifol iawn.

Mae'r adran hon yn disgrifio sut rydyn ni'n gwneud hynny -drwy ein Cod Darlledu a'n rheolau ynghylch fideo ar-alwad. Rydym yn rhoi mwy o wybodaeth am yr ymchwil rydyn ni'n ei wneud gyda rhieni a gwylwyr a gwrandawyr eraill yn rheolaidd.

Mae'r ymchwil hwn yn ein helpu ni i ddeall barn cynulleidfaoedd am yr hyn sy'n briodol, yn ogystal â'u barn am faterion penodol, megis a yw trothwy'r teledu ar yr amser iawn.

Sut mae codau a rheolau Ofcom yn helpu i ddiogelu plant (Saesneg yn unig)

Barn rhieni a phobl ifanc am raglenni teledu a'r trothwy (Saesneg yn unig).