Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Atodiad 2: Rhannau o Gyfarwyddeb Gwasanaethau Cyfryngau Clyweledol yr UE (Cyfarwyddeb 2010/13/EU)

03 Ebrill 2017

Erthygl 1

At ddibenion y Gyfarwyddeb hon, defnyddir y diffiniadau canlynol:

  • (a) ystyr ‘gwasanaeth cyfryngau clywedol’ yw
    • gwasanaeth fel y'i diffinnir gan Erthyglau 56 a 57 y Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd y mae gan ddarparwr gwasanaeth cyfryngau gyfrifoldeb golygyddol drosto gyda’r prif bwrpas o ddarparu rhaglenni er mwyn hysbysu, diddanu neu addysgu, i'r cyhoedd drwy rwydweithiau cyfathrebu electronig o fewn ystyr pwynt (a) o Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 2002/21/EC. Mae gwasanaeth cyfryngau clywedol o'r fath naill ai'n ddarllediad teledu fel y'i diffinnir ym mhwynt (d) y paragraff hwn neu’n wasanaeth cyfryngau clywedol ar-alw fel y'i diffinnir ym mhwynt (e) y paragraff hwn;
    • (ii) cyfathrebiad masnachol clywedol;
  • (b)ystyr ‘rhaglen' yw set o ddelweddau symudol gyda sain neu hebddo sy’n cyfateb i un eitem mewn rhestr neu gatalog a sefydlwyd gan ddarparwr gwasanaeth cyfryngau a’i ffurf a chynnwys yn debyg i ffurf a chynnwys darllediadau teledu. Mae enghreifftiau o raglenni'n cynnwys ffilmiau, digwyddiadau chwaraeon, comedïau sefyllfa, rhaglenni dogfen, rhaglenni plant a drama wreiddiol;
  • (c)ystyr ‘cyfrifoldeb golygyddol’ yw bod â rheolaeth effeithiol dros ddewis y rhaglenni a hefyd dros eu trefnu naill ai mewn rhestr gronolegol, yn achos darllediadau teledu, neu mewn catalog, yn achos gwasanaethau cyfryngau clywedol ar-alw. Nid yw cyfrifoldeb golygyddol o reidrwydd yn awgrymu atebolrwydd cyfreithiol dan gyfraith gwlad am y cynnwys neu'r gwasanaethau a ddarperir;
  • (d)ystyr ‘darparwr gwasanaeth cyfryngau’ yw’r unigolyn naturiol neu gyfreithiol sydd â chyfrifoldeb golygyddol dros y dewis o gynnwys clywedol y gwasanaeth cyfryngau clywedol ac yn penderfynu sut y caiff ei drefnu;
  • (e)ystyr ‘darlledu ar y teledu’ neu ‘ddarllediad teledu’ (h.y. gwasanaeth cyfryngau clywedol llinol) yw gwasanaeth cyfryngau clywedol a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth cyfryngau er mwyn gallu gwylio’r rhaglenni ar y pryd ar sail amserlen rhaglenni;
  • (f)ystyr ‘darlledwr’ yw darparwr gwasanaeth cyfryngau o ddarllediadau teledu;
  • (g)ystyr ‘gwasanaeth cyfryngau clywedol ar-alw' (h.y. gwasanaeth cyfryngau clywedol heb fod yn llinol) yw gwasanaeth cyfryngau clywedol a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth cyfryngau ar gyfer gweld rhaglenni ar amser a ddewisir gan y defnyddiwr ac ar ei gais unigol ef ar sail catalog rhaglenni a ddewisir gan y darparwr gwasanaeth cyfryngau;
  • (h)ystyr ‘cyfathrebiad masnachol clywedol’ yw delweddau gyda sain neu hebddo sydd â’r nod o hyrwyddo, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, y nwyddau, y gwasanaethau neu’r ddelwedd o endid naturiol neu gyfreithiol sy'n cyflawni gweithgarwch economaidd. Mae delweddau o'r fath yn mynd gyda rhaglen neu'n cael eu cynnwys mewn rhaglen yn gyfnewid am dâl neu gydnabyddiaeth debyg neu at ddibenion hunanhyrwyddo. Y mae cyfathrebiadau masnachol clywedol yn cynnwys, ymysg pethau eraill, hysbysebion teledu, nawdd, telesiopa, a gosod cynnyrch;
  • (i)ystyr “hysbysebion teledu” yw unrhyw fath o gyhoeddiad a ddarlledir boed yn gyfnewid am dâl neu gydnabyddiaeth debyg neu a ddarlledir at ddibenion hunanhyrwyddo gan fenter gyhoeddus neu breifat neu berson naturiol mewn cysylltiad â masnach, busnes, crefft neu broffesiwn er mwyn hyrwyddo cyflenwi nwyddau neu wasanaethau, gan gynnwys eiddo ansymudol, hawliau a rhwymedigaethau, yn gyfnewid am dâl;
  • (j)ystyr ‘cyfathrebiad masnachol clywedol dirgel’ yw portread mewn geiriau neu luniau o nwyddau, gwasanaethau, enw, nod masnach neu weithgareddau cynhyrchydd nwyddau neu ddarparwr gwasanaethau mewn rhaglenni os yw’n fwriad gan y darparwr gwasanaeth cyfryngau i bortreadu o’r fath fod er mwyn hysbysebu, ac os gallai gamarwain y cyhoedd ynghylch ei natur. Ystyrir yn benodol bod portreadu o’r fath yn fwriadol os caiff ei wneud yn gyfnewid am dâl neu am gydnabyddiaeth debyg;
  • (k)ystyr ‘nawdd’ yw unrhyw gyfraniad gan fenter gyhoeddus neu breifat neu berson naturiol nad ydynt yn gysylltiedig â darparu gwasanaethau cyfryngau clywedol neu â chynhyrchu gweithiau clywedol, i ariannu gwasanaethau cyfryngau clywedol neu raglenni gyda’r bwriad o hyrwyddo’u henw, eu nod masnach, eu delwedd, eu gweithgareddau neu eu cynhyrchion;
  • (l)ystyr ‘telesiopa' yw cynigion uniongyrchol yn cael eu darlledu i’r cyhoedd gyda’r bwriad o gyflenwi nwyddau neu wasanaethau, gan gynnwys eiddo ansymudol, hawliau a rhwymedigaethau, yn gyfnewid am dâl;
    (m)ystyr ‘gosod cynnyrch’ yw unrhyw ffurf ar gyfathrebiad masnachol clywedol lle mae cynnyrch, gwasanaeth neu'u nod masnach yn cael ei gynnwys ynddo, neu y mae cyfeiriad atynt ynddo, ac yn cael ei ddangos mewn rhaglen, yn gyfnewid am dâl neu gydnabyddiaeth debyg...

Darpariaethau sy’n berthnasol i’r holl wasanaethau cyfryngau clywedol

Erthygl 6

Rhaid i Aelod-wladwriaethau sicrhau drwy ddulliau priodol nad yw gwasanaethau cyfryngau clywedol a ddarperir gan ddarparwyr gwasanaethau cyfryngau dan eu hawdurdodaeth yn cynnwys unrhyw anogaeth i gasáu ar sail hil, rhyw, crefydd neu genedligrwydd.

Article 9

1.Rhaid i Aelod-wladwriaethau sicrhau bod cyfathrebiadau masnachol clywedol a ddarperir gan ddarparwyr gwasanaeth cyfryngau dan eu hawdurdodaeth yn cydymffurfio â’r gofynion canlynol:

  • (a)rhaid iddi fod yn hawdd adnabod cyfathrebiadau masnachol clywedol. Rhaid gwahardd cyfathrebiadau masnachol clywedol dirgel;
  • (b)rhaid i gyfathrebiadau masnachol clywedol beidio â defnyddio technegau isganfyddol;
  • (c)rhaid i gyfathrebiadau masnachol clywedol beidio â:
    • (i) niweidio'r parch at urddas dynol
    • (ii) yn cynnwys neu’n hybu unrhyw wahaniaethu ar sail rhyw, tarddiad hiliol neu ethnig, cenedligrwydd, crefydd neu gred, anabledd, oed neu gyfeiriadedd rhywiol;
    • (iii) annog ymddygiad sy’n niweidiol i iechyd neu ddiogelwch;
    • (iv)  annog ymddygiad sy’n hynod niweidiol i’r gwaith o ddiogelu'r amgylchedd;
  • (d)  gwaherddir pob ffurf ar gyfathrebiadau masnachol clywedol ar gyfer sigaréts a chynnyrch tybaco arall;
  • (e)  ni chaiff cyfathrebiadau masnachol clywedol ar gyfer diodydd meddwol gael eu hanelu’n benodol at bobl ifanc dan oed ac ni chânt annog yfed eithafol ar y cyfryw ddiodydd;
  • (f)  gwaherddir cyfathrebiadau masnachol clywedol ar gyfer cynhyrchion meddyginiaethol a thriniaeth feddygol sydd ond ar gael ar bresgripsiwn yn yr Aelod-wladwriaeth y mae'r darparwr gwasanaeth cyfryngau'n dod o fewn ei hawdurdodaeth;
  • (g)  ni chaiff cyfathrebiadau masnachol clywedol achosi niwed corfforol na moesol i bobl ifanc dan oed. Felly, ni chânt yn uniongyrchol gymell pobl ifanc dan oed i brynu neu logi cynnyrch neu wasanaeth drwy fanteisio ar eu diffyg profiad neu eu parodrwydd i gredu, na'u hannog yn uniongyrchol i ddarbwyllo’u rhieni neu eraill i brynu'r nwyddau neu wasanaethau sy'n cael eu hysbysebu, manteisio ar yr ymddiriedaeth arbennig sydd gan bobl ifanc dan oed yn eu rhieni, athrawon neu bobl eraill, nac yn afresymol ddangos pobl ifanc dan oed mewn sefyllfaoedd peryglus.

2. Rhaid i Aelod-wladwriaethau a’r Comisiwn annog darparwyr gwasanaethau cyfryngau i ddatblygu codau ymddygiad mewn cysylltiad â chyfathrebiadau masnachol clywedol amhriodol, sy’n cyd-daro â rhaglenni plant neu wedi'u cynnwys ynddynt, o fwydydd neu ddiodydd sy’n cynnwys maetholion a sylweddau ag effaith faethol neu ffisiolegol, yn arbennig cynnyrch megis braster, asidau trawsfrasterog, halen/sodiwm a siwgrau, nad yw gormod ohonynt yn y diet yn cael ei argymell.

Erthygl 10

1.Rhaid i wasanaethau cyfryngau clywedol neu raglenni a noddir fodloni’r gofynion canlynol:

  • (a)ni cheir dylanwadu dan unrhyw amgylchiadau ar eu cynnwys, ac yn achos darllediadau ar y teledu, ar eu hamserlennu mewn modd a fydd yn effeithio ar gyfrifoldeb ac annibyniaeth olygyddol y darparwr gwasanaeth cyfryngau;
  • (b)rhaid iddynt beidio ag annog prynu neu rentu nwyddau neu wasanaethau yn uniongyrchol, yn arbennig drwy gyfeiriadau hyrwyddol arbennig at y cynhyrchion neu’r gwasanaethau hynny;
  • (c)rhaid hysbysu'r gwylwyr yn glir am fodolaeth cytundeb nawdd. Rhaid dangos yn glir bod rhaglenni’n cael eu noddi drwy gyfrwng enw, logo a/neu unrhyw symbol arall sydd gan y noddwr megis cyfeiriad at ei gynnyrch neu wasanaeth(au) neu arwydd amlwg o hynny mewn ffordd briodol ar gyfer rhaglenni ar ddechrau, yn ystod a/neu ar ddiwedd y rhaglenni.

2.Ni chaiff mentrau sy’n cynhyrchu neu’n gwerthu sigaréts neu gynhyrchion tybaco eraill fel eu prif weithgarwch noddi rhaglenni na gwasanaethau cyfryngau clywedol.

3.Caiff nawdd i raglenni neu wasanaethau cyfryngau clywedol gan fentrau y mae eu gweithgareddau’n cynnwys cynhyrchu neu werthu cynhyrchion meddyginiaethol a thriniaeth feddygol hyrwyddo enw neu ddelwedd y fenter, ond ni chaiff hyrwyddo cynhyrchion meddyginiaethol neu driniaethau meddygol penodol sydd ar gael ar bresgripsiwn yn unig yn yr Aelod-wladwriaeth y mae’r darparwr gwasanaeth cyfryngau o fewn ei hawdurdodaeth.

4.Ni cheir noddi rhaglenni newyddion a materion cyfoes. Caiff Aelod-wladwriaethau ddewis gwahardd logos nawdd rhag cael eu dangos yn ystod rhaglenni plant, rhaglenni dogfen a rhaglenni crefyddol.

Erthygl 11

1.Bydd paragraffau 2, 3 a 4 yn berthnasol i raglenni a gynhyrchir ar ôl 19 Rhagfyr 2009 yn unig.

2.Gwaherddir gosod cynnyrch.

3.Gan randdirymu paragraff 2, caniateir gosod cynnyrch yn yr achosion canlynol, oni bai i Aelod-wladwriaeth benderfynu fel arall:

  • (a)mewn gweithiau sinematograffig, ffilmiau a chyfresi a wneir ar gyfer gwasanaethau cyfryngau clywedol, rhaglenni chwaraeon a rhaglenni adloniant ysgafn;
  • (b)lle na wneir dim taliad ond, yn hytrach, lle darperir nwyddau neu wasanaethau penodol yn rhad ac am ddim megis gwobrau neu bropiau cynhyrchu; gyda’r bwriad o’u cynnwys mewn rhaglen.

Ni fydd y rhanddirymiad y darperir ar ei gyfer ym mhwynt (a) yn berthnasol i raglenni plant.

Rhaid i raglenni sy'n cynnwys gosod cynnyrch fodloni'r holl ofynion canlynol o leiaf:

  • (a)ni cheir dylanwadu dan unrhyw amgylchiadau ar eu cynnwys, ac yn achos darllediadau ar y teledu, ar eu hamserlennu mewn modd a fydd yn effeithio ar gyfrifoldeb ac annibyniaeth olygyddol y darparwr gwasanaeth cyfryngau;
  • (b)rhaid iddynt beidio ag annog prynu neu rentu nwyddau neu wasanaethau yn uniongyrchol, yn arbennig drwy gyfeiriadau hyrwyddol arbennig at y cynhyrchion neu’r gwasanaethau hynny;
  • (c)rhaid iddynt beidio â rhoi amlygrwydd amhriodol i’r cynnyrch dan sylw;
  • (d)rhaid hysbysu'r gwylwyr yn glir am fodolaeth gosod cynnyrch. Rhaid dangos yn briodol bod rhaglenni’n cynnwys gosod cynnyrch ar ddechrau ac ar ddiwedd y rhaglen, a phan fydd y rhaglen yn ailddechrau ar ôl egwyl hysbysebion, er mwyn osgoi unrhyw ddryswch ar ran y gwyliwr.

Fel eithriad, caiff Aelod-wladwriaethau ddewis hepgor y gofynion ym mhwynt (d) ar yr amod nad yw'r rhaglen dan sylw wedi'i gynhyrchu na'i gomisiynu gan y darparwr gwasanaeth cyfryngau ei hun neu gwmni sydd wedi'i gysylltu â’r darparwr gwasanaeth cyfryngau.

4.Beth bynnag fo’r sefyllfa, rhaid i raglenni beidio â chynnwys gosod cynnyrch yng nghyswllt:

  • (a)cynhyrchion tybaco neu sigaréts neu osod cynnyrch gan fentrau sy'n cynhyrchu sigaréts neu gynhyrchion tybaco eraill fel eu prif weithgarwch; neu
  • (b)cynhyrchion meddyginiaethol neu driniaethau meddygol penodol sydd ar gael ar bresgripsiwn yn unig yn yr Aelod-wladwriaeth y mae'r darparwr gwasanaeth cyfryngau'n dod o dan ei hawdurdodaeth.

Hysbysebion teledu a thelesiopa

Erthygl 19

1.Rhaid iddi fod yn hawdd adnabod a gwahaniaethu rhwng hysbysebion teledu/telesiopa a chynnwys golygyddol. Heb iddo leihau effaith y defnydd o dechnegau hysbysebu newydd, rhaid cadw hysbysebion teledu a thelesiopa’n gwbl ar wahân i rannau eraill y  rhaglen drwy ddulliau gweledol a/neu acwstig a/neu ofodol.

2.Yr unig eithriadau fydd sbotiau telesiopa a hysbysebu ar eu pennau’u hunain, ac eithrio wrth ddarlledu digwyddiadau chwaraeon.

Erthygl 20

1.Rhaid i Aelod-wladwriaethau sicrhau, lle caiff hysbysebion teledu neu delesiopa eu cynnwys yn ystod rhaglenni, na niweidir didwylledd y rhaglenni, gan ystyried egwyliau naturiol yn y rhaglen a hyd a natur y rhaglen dan sylw, na hawliau deiliaid yr hawliau.

2.2.Mae modd torri ar draws ffilmiau a wneir ar gyfer teledu (heb gynnwys cyfresi, rhaglenni dogfen a dramâu cyfres), gweithiau sinematograffig a rhaglenni newyddion gyda hysbysebion teledu a/neu delesiopa unwaith ar gyfer pob cyfnod wedi’i amserlennu o 30 munud o leiaf. Gellir torri ar draws rhaglenni plant gyda hysbysebion teledu a/neu delesiopa unwaith ar gyfer pob cyfnod wedi'i amserlennu o 30 munud o leiaf, gyhyd â bod hyd y rhaglen yn fwy na 30 munud. Ni cheir cynnwys hysbysebion teledu na thelesiopa yn ystod gwasanaethau crefyddol.

Erthygl 23

1.Ni chaiff canran y sbotiau ar gyfer hysbysebion teledu a thelesiopa o fewn un awr cloc benodol fod yn fwy nag 20%.

2.Ni fydd paragraff 1 yn berthnasol i gyhoeddiadau a wneir gan y darlledwr mewn cysylltiad â’i raglenni ei hun a chynhyrchion ategol sy’n deillio’n uniongyrchol o’r rhaglenni hynny, cyhoeddiadau nawdd a gosod cynnyrch.

Erthygl 25

Bydd y Gyfarwyddeb yn berthnasol mutatis mutandis i sianeli teledu sydd wedi'u neilltuo’n gyfan gwbl i hysbysebu a thelesiopa yn ogystal ag i sianeli teledu sydd wedi’u neilltuo’n gyfan gwbl i hunanhyrwyddo.

Ond, ni fydd pennod VI nac Erthyglau 20 a 23 yn berthnasol i'r sianeli hyn.

Gwarchod pobl ifanc dan oed mewn darllediadau teledu

Erthygl 27

1.Rhaid i Aelod-wladwriaethau gymryd mesurau priodol i sicrhau nad yw darllediadau teledu gan ddarlledwyr dan eu hawdurdodaeth yn cynnwys unrhyw raglenni a allai amharu’n ddifrifol ar ddatblygiad corfforol, meddyliol neu foesol plant dan oed, yn enwedig rhaglenni sy’n cynnwys pornograffi neu drais di-alw-amdano.

2.Rhaid i’r mesurau y darparwyd ar eu cyfer ym mharagraff 1 ymestyn hefyd i raglenni eraill sy’n debygol o amharu ar ddatblygiad corfforol, meddyliol neu foesol plant dan oed, ac eithrio lle y sicrheir, drwy ddewis amser y darllediad neu drwy unrhyw ddull technegol, na fydd plant dan oed yn ardal y darllediad yn clywed neu’n gweld darllediadau o’r fath fel arfer.

3.Yn ogystal, pan ddarlledir rhaglenni o’r fath ar ffurf heb ei hamgodio, rhaid i Aelod-wladwriaethau sicrhau bod rhybudd clywedol yn cael ei roi cyn y rhaglenni, neu y cânt eu hadnabod oherwydd presenoldeb symbol gweledol drwy gydol y rhaglenni.

Hawl i ateb mewn darllediadau teledu

Erthygl 28

1.Heb amharu ar ddarpariaethau eraill a fabwysiadwyd gan yr Aelod-wladwriaethau dan y gyfraith sifil, y gyfraith weinyddol neu gyfraith troseddau, rhaid i unrhyw berson naturiol neu gyfreithiol, beth bynnag yw ei genedligrwydd, y mae ei fuddiannau dilys, yn enwedig ei gymeriad a’i enw da, wedi’u niweidio oherwydd datgan ffeithiau anghywir mewn rhaglen deledu, gael yr hawl i ateb neu rwymedïau cyfwerth. Rhaid i Aelod-wladwriaethau sicrhau na rwystrir yr arfer ar yr hawl i ateb neu rwymedïau cyfwerth drwy osod telerau neu amodau afresymol. Rhaid darlledu’r ateb cyn pen cyfnod rhesymol ar ôl cadarnhau’r cais, ac ar amser ac mewn modd sy’n briodol i’r darllediad y mae’r cais yn cyfeirio ato.

2.Rhaid i hawl i ateb neu rwymedïau cyfwerth fodoli mewn perthynas â’r holl ddarlledwyr sydd dan awdurdodaeth Aelod-wladwriaeth.3.Rhaid i Aelod-wladwriaethau fabwysiadu’r mesurau y mae eu hangen i sefydlu’r hawl i ateb neu i’r rhwymedïau cyfwerth a rhaid iddynt bennu’r weithdrefn sydd i’w dilyn i arfer yr hawl honno. Yn benodol, rhaid iddynt sicrhau y caniateir cyfnod amser digonol a bod y gweithdrefnau’n gyfryw fel bod personau naturiol neu gyfreithiol sy’n preswylio neu sydd wedi ymsefydlu mewn Aelod-wladwriaethau eraill yn gallu arfer yr hawl i ateb neu i’r rhwymedïau cyfwerth yn briodol.4.Ceir gwrthod cais i arfer yr hawl i ateb neu i’r rhwymedïau cyfwerth os nad oes cyfiawnhad dros ateb o’r fath yn unol â’r amodau sydd wedi’u pennu ym mharagraff 1, os byddai’n golygu gweithred gosbadwy, os byddai’n gwneud y darlledwr yn atebol i achos dan y gyfraith sifil, neu os byddai’n groes i safonau gwedduster cyhoeddus.

5.Rhaid darparu ar gyfer gweithdrefnau lle y gall anghydfodau ynghylch arfer yr hawl i ateb neu’r rhwymedïau cyfwerth fod yn destun adolygiad barnwrol.