Adran Wyth: Preifatrwydd

06 Ionawr 2021

Nod yr adran hon yw sicrhau bod darlledwyr yn osgoi tarfu heb gyfiawnhad ar breifatrwydd mewn rhaglenni ac mewn perthynas â dod o hyd i ddeunydd sy'n cael ei gynnwys mewn rhaglenni.

(Ymhlith yr eitemau deddfwriaeth perthnasol y mae, yn benodol, adrannau 3(2)(f) a 326 Deddf Cyfathrebiadau 2003, adrannau 107(1) a 130 Deddf Darlledu 1996 (fel y’i diwygiwyd), Erthyglau 8 a 10 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, a Siarter a Chytundeb y BBC.)

Mae’r adran hon a’r adran flaenorol ar degwch yn wahanol i adrannau eraill y Cod. Maent yn ymwneud â’r modd y mae darlledwyr yn trin yr unigolion neu sefydliadau y mae rhaglenni’n effeithio arnynt yn uniongyrchol, yn hytrach na’r hyn y mae’r cyhoedd yn ei weld a/neu ei glywed fel gwylwyr a gwrandawyr.

Yn ogystal â chynnwys egwyddor a rheol, mae’r adran hon yn cynnwys “arferion i’w dilyn” gan ddarlledwyr wrth ddelio ag unigolion neu sefydliadau sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni neu’n dod yn uniongyrchol p dan eu heffaith fel arall, neu wrth wneud rhaglenni. Ni  fydd dilyn yr arferion hyn yn fodd i osgoi mynd yn groes i’r adran hon o’r Cod o reidrwydd (Rheol 8.1). Fodd bynnag, ni fydd methiant i ddilyn yr arferion hyn ond yn groes i’r Cod os yw’n arwain at dresmasu ar breifatrwydd heb gyfiawnhad. Mae’n bwysig nodi nad yw’r Cod yn gallu nac yn ceisio nodi’r holl “arferion i’w dilyn” er mwyn osgoi tresmasu ar breifatrwydd heb gyfiawnhad.

Mae Deddf Darlledu 1996 (fel y’i diwygiwyd) yn mynnu bod Ofcom yn ystyried cwynion am dresmasu ar breifatrwydd heb gyfiawnhad mewn rhaglen neu mewn cysylltiad â chael deunydd sydd wedi’i gynnwys mewn rhaglen. Gallai hyn alw am rai penderfyniadau anodd yn y fan a’r lle wrth benderfynu a dresmasir ar breifatrwydd heb gyfiawnhad drwy ffilmio neu recordio ai beidio, yn enwedig wrth adrodd ar sefyllfaoedd o argyfwng (“arferion i’w dilyn” 8.5 i 8.8 ac 8.16 i 8.19). Rydym yn cydnabod y gall fod budd cyhoeddus pwysig mewn adrodd ar sefyllfa o argyfwng wrth iddi ddigwydd ac yn sylweddoli y gall darlledwyr fod o dan bwysau mewn man lle y mae trychineb neu argyfwng yn digwydd a all ei wneud yn anodd penderfynu ar y pryd a yw ffilmio neu recordio’n tresmasu ar breifatrwydd heb gyfiawnhad. Bydd Ofcom yn ystyried y ffactorau hyn wrth ddyfarnu ynghylch cwynion.

Lle y mae cyfeiriad at gydsyniad yn Adran Wyth, mae’n gyfeiriad at gydsyniad gwybodus.

Gweler “arfer i’w ddilyn” 7.3 yn Adran Saith: Tegwch.

Egwyddor

Sicrhau bod darlledwyr yn osgoi unrhyw dresmasu ar breifatrwydd heb gyfiawnhad mewn rhaglenni ac mewn cysylltiad â chael deunydd sydd wedi’i gynnwys mewn rhaglenni.

Rheol

8.1  Os ceir unrhyw dresmasu ar breifatrwydd mewn rhaglenni, neu mewn cysylltiad â chael deunydd sydd wedi’i gynnwys mewn rhaglenni, rhaid bod â chyfiawnhad dros hynny.

Ystyr “â chyfiawnhad”

Yn yr adran hon, mae ystyr penodol i “â chyfiawnhad”. Mae’n golygu, lle y mae darlledwyr yn dymuno dangos bod cyfiawnhad dros dresmasu ar breifatrwydd, y dylent allu dangos pam y mae cyfiawnhad dros hynny o dan amgylchiadau penodol yr achos. Os mai’r rheswm am hynny yw ei fod er budd y cyhoedd, dylai’r darlledwr allu dangos bod y budd cyhoeddus yn bwysicach na’r hawl i breifatrwydd. Enghreifftiau posibl o’r budd cyhoeddus yw datgelu neu ddarganfod troseddu, diogelu iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd, datgelu honiadau camarweiniol gan unigolion neu sefydliadauneu ddatgelu diffug cymhwystra sy’n effeithio ar y cyhoedd.

Arferion i’w dilyn (8.2 i 8.22)

Bywydau preifat, lleoedd cyhoeddus a disgwyliad dilys o breifatrwydd

Ystyr “disgwyliad dilys o breifatrwydd”

Bydd disgwyliadau dilys o breifatrwydd yn amrywio yn ôl lle a natur yr wybodaeth, gweithgarwch neu gyflwr sydd dan sylw, y graddau y mae yn y parth cyhoeddus (os ydyw o gwbl) ac a yw’r unigolyn dan sylw eisoes yn llygad y cyhoedd. Gellir cael amgylchiadau lle y gall pobl fod â disgwyliad rhesymol o breifatrwydd hyd yn oed mewn man cyhoeddus. Gallai rhai gweithgareddau a chyflyrau fod o’r fath natur breifat fel y byddai ffilmio neu recordio, hyd yn oed mewn man cyhoeddus, yn gallu golygu tresmasu ar breifatrwydd. Mae pobl sy’n destun ymchwiliad neu yn llygad y cyhoedd, a’u teulu a ffrindiau agos, yn cadw’r hawl i fywyd preifat, er y gall ymddygiad preifat arwain at ystyriaethau sydd o ddiddordeb dilys i’r cyhoedd.

8.2  Ni ddylid datgelu gwybodaeth sy’n dangos lleoliad cartref rhywun neu gartref ei deulu heb ganiatâd, oni bai fod cyfiawnhad dros hynny.

8.3  Os caiff pobl eu hunain yng nghanol digwyddiadau sy’n destun sylw yn y newyddion, maent yn dal i fod â hawl i breifatrwydd wrth wneud rhaglen ac wrth ei darlledu, oni bai fod cyfiawnhad dros dresmasu ar yr hawl honno. Mae hyn yn berthnasol i adeg y digwyddiadau hyn ac i unrhyw raglenni diweddarach sy’n rhoi sylw eto i’r digwyddiadau hynny.

8.4  Dylai darlledwyr sicrhau nad yw geiriau, delweddau neu weithredoedd a gaiff eu ffilmio neu eu recordio mewn man cyhoeddus, neu eu darlledu ohono, yn rhai sydd mor breifat fel bod angen cael cydsyniad ymlaen llaw cyn darlledu gan yr unigolyn neu sefydliad sy’n gysylltiedig, oni bai fod cyfiawnhad dros ddarlledu heb gael cydsyniad ganddynt.

Cydsyniad

8.5  Os oes unrhyw dresmasu ar breifatrwydd wrth wneud rhaglen, dylid cael cydsyniad gan yr unigolyn a/neu’r sefydliad ar gyfer hynny neu dylai fod cyfiawnhad drosto fel arall.

8.6  Os byddai darlledu rhaglen yn tresmasu ar breifatrwydd person neu sefydliad, dylid cael cydsyniad cyn darlledu’r deunydd perthnasol, oni bai fod cyfiawnhad dros dresmasu ar breifatrwydd. (Bernir bod y rhai sy’n galw rhaglenni ffonio i mewn wedi rhoi cydsyniad i ddarlledu eu cyfraniad.)

8.7  Os tresmasir ar breifatrwydd unigolyn neu sefydliad, a bod y rheiny yn gofyn am atal y ffilmio, y recordio neu’r darlledu byw, dylai’r darlledwr wneud hynny, oni bai fod cyfiawnhad dros fwrw 'mlaen.

8.8  Os bydd ffilmio neu recordio mewn sefydliadau, cyrff neu asiantaethau eraill, dylid cael caniatâd gan yr awdurdod neu reolwr perthnasol, oni bai fod cyfiawnhad dros ffilmio neu recordio heb gael caniatâd. Fel arfer ni fyddai angen cael cydsyniad unigol gan weithwyr neu eraill sy’n ymddangos yn ddamweiniol neu os ydynt i bob pwrpas yn aelodau di-enw o’r cyhoedd.

Fodd bynnag, mewn mannau a allai fod yn sensitif fel ambiwlansiau, ysbytai, ysgolion, carchardai neu orsafoedd heddlu, dylid cael cydsyniad ar wahân fel arfer cyn ffilmio neu recordio ac ar gyfer darlledu gan y rhai hynny sydd mewn sefyllfaoedd sensitif (oni bai fod cyfiawnhad dros beidio â chael cydsyniad). Os na fydd modd adnabod yr unigolyn yn y rhaglen, ni fydd angen cael cydsyniad ar wahân ar gyfer darlledu.

Cywain gwybodaeth, sain neu ddelweddau ac ailddefnyddio deunyddiau

8.9  Rhaid i’r dull o ddod o hyd i ddeunydd fod yn gymesur yn yr holl amgylchiadau ac yn benodol yn ôl cynnwys y rhaglen.

8.10  Dylai darlledwyr sicrhau na fydd ailddefnyddio deunydd, h.y. defnyddio deunydd a filmiwyd neu a recordiwyd yn wreiddiol at un diben a’i ddefnyddio wedyn mewn rhaglen at ddiben arall neu ei ddefnyddio mewn rhaglen ddiweddarach neu un wahanol, yn arwain at dresmasu ar breifatrwydd heb gyfiawnhad. Mae hyn yn berthnasol i ddeunydd a gafwyd gan eraill a deunydd y darlledwr ei hun.

8.11  Ni ddylid ffilmio neu recordio’n ddirybudd ar gyfer rhaglenni ffeithiol oni bai fod cais am gyfweliad wedi’i wrthod neu iddi fod yn amhosibl gwneud cais am gyfweliad, neu fod rheswm da dros gredu y caiff ymchwiliad ei lesteirio os cysylltir â’r gwrthrych yn agored, a bod cyfiawnhad dros ffilmio neu recordio’n ddirybudd. Fodd bynnag, bydd darlledwyr fel arfer yn cael cyfweld, ffilmio neu recordio pobl sydd yn y newyddion heb roi rhybudd ymlaen llaw pan fyddant mewn mannau cyhoeddus.

(Gweler “arfer i’w dilyn” 8.15).

Ystyr “ffilmio neu recordio’n ddirybudd”

Ffilmio neu recordio’n ddirybudd yw ffilmio neu recordio cyfweliad neu geisio cyfweld rhywun, neu gyhoeddi bod galwad yn cael ei ffilmio neu ei recordio at ddibenion darlledu, heb roi rhybudd ymlaen llaw. Fodd bynnag, nid yw’n cynnwys barn y bobl neu ‘vox-pops’ (samplu barn aelodau’r cyhoedd ar hap).

8.12 Gall darlledwyr recordio galwadau ffôn rhwng y darlledwr a’r parti arall os ydynt wedi dweud pwy ydynt ar ddechrau’r alwad, wedi egluro pwrpas yr alwad ac wedi dweud bod yr alwad yn cael ei recordio ac y bydd, o bosib, yn cael ei darlledu (os felly y mae) oni bai fod cyfiawnhad dros beidio â dilyn un neu ragor o’r arferion hyn. Os daw’n amlwg yn ddiweddarach y bydd galwad sydd wedi’i recordio’n cael ei darlledu (ond bod hynny heb ei egluro i’r parti arall ar adeg yr alwad), rhaid i’r darlledwr gael cydsyniad cyn darlledu gan y parti arall, oni bai fod cyfiawnhad dros beidio â gwneud hynny.

(Gweler “arferion i’w dilyn” 7.14 ac 8.13 i 8.15.)

8.13  Dim ond os oes cyfiawnhad dros hynny y dylid ffilmio neu recordio’n llechwraidd. Fel arfer, ni fydd cyfiawnhad dros hynny oni bai fod:

  • tystiolaeth prima facie o stori sydd er budd y cyhoedd; a
  • bod lle rhesymol i amau y gellid cael tystiolaeth berthnasol bellach; a
  • bod hynny’n angenrheidiol er mwyn hygrededd a dilysrwydd y rhaglen.

(Gweler “arferion i’w dilyn” 7.14, 8.12, 8.14 ac 8.15.)

Ystyr “ffilmio neu recordio’n llechwraidd”

Mae ffilmio neu recordio’n llechwraidd yn cynnwys defnyddio lensys hir neu declynnau recordio, yn ogystal â gadael camera neu declyn recordio heb neb i ofalu amdano ar eiddo preifat heb gael cydsyniad llawn a gwybodus y preswylwyr neu eu hasiant. Yn ogystal â hynny, gallai gynnwys recordio sgyrsiau ffôn yn ddiarwybod i’r parti arall, neu barhau i recordio’n fwriadol pan fo’r parti arall yn credu ei fod wedi gorffen.

8.14  Pan geir deunydd drwy ffilmio neu recordio’n llechwraidd, ni ddylid ond ei ddarlledu os oes cyfiawnhad dros hynny.

(Gweler hefyd “arferion i’w dilyn” 7.14 ac 8.12 i 8.13 ac 8.15.)

8.15  Gellir cael cyfiawnhad dros ffilmio neu recordio’n llechwraidd, ffilmio neu recordio’n ddirybudd neu alwadau ‘cynhyrfu’ wedi’u recordio er mwyn cael deunydd at ddibenion difyrrwch os yw’n rhan annatod o’r difyrrwch ac os nad yw’n golygu tresmasu'n sylweddol ar breifatrwydd i’r graddau ei fod yn achosi annifyrrwch, gofid neu embaras sylweddol. Ni ddylid darlledu’r deunydd a gafwyd o ganlyniad i wneud hyn heb gael cydsyniad y rhai dan sylw. Fodd bynnag, os na ellir adnabod yr unigolyn a/neu gorff yn y rhaglen, ni fydd angen cael cydsyniad ar gyfer darlledu.

(Gweler “arferion i’w dilyn” 7.14 ac 8.11 i 8.14.)

Dioddefaint a gofid

8.16  Ni ddylai darlledwyr dynnu neu ddarlledu deunydd gweledol neu sain o bobl sydd wedi’u dal mewn argyfwng, y rhai sydd wedi bod mewn damwain neu’r rhai sy’n dioddef oherwydd trychineb personol, hyd yn oed mewn man cyhoeddus, os yw hynny’n arwain at dresmasu ar breifatrwydd, oni bai fod cyfiawnhad dros hynny neu fod y bobl sy’n gysylltiedig wedi rhoi eu cydsyniad.

8.17  Ni ddylid pwyso ar bobl sydd mewn gofid i gymryd rhan mewn rhaglen neu roi cyfweliadau, oni bai fod cyfiawnhad dros hynny.

8.18  Dylai darlledwyr ofalu na fyddant yn datgelu pwy yw rhywun sydd wedi marw neu wedi dioddef oherwydd damwain neu drosedd treisgar, oni bai a hyd nes ei bod yn amlwg bod y berthynas agosaf wedi’i hysbysu am y digwyddiad neu oni bai fod cyfiawnhad dros hynny.

8.19  Dylai darlledwyr geisio lleihau’r gofid posibl i ddioddefwyr a/neu berthnasau wrth wneud neu ddarlledu rhaglenni sydd â’r amcan o edrych ar ddigwyddiadau yn y gorffennol sy’n cynnwys trawma i unigolion (gan gynnwys troseddu) oni bai fod cyfiawnhad dros wneud fel arall. Mae hyn yn berthnasol i ail-greu dramatig a dramâu ffeithiol, yn ogystal â rhaglenni ffeithiol.

Yn benodol, i’r graddau y mae hynny’n rhesymol ymarferol, dylid hysbysu dioddefwyr byw a/neu deuluoedd agos y rhai y mae eu profiad wedi’i gynnwys yn y rhaglen, am y cynlluniau ar gyfer y rhaglen a’r bwriad i’w darlledu, hyd yn oed os yw’r digwyddiadau neu’r deunydd sydd i’w ddarlledu wedi bod yn y parth cyhoeddus yn y gorffennol.

Pobl o dan un ar bymtheg oed a phobl sy’n agored i niwed

8.20  Dylai darlledwyr roi sylw penodol i breifatrwydd pobl sydd o dan un ar bymtheg oed. Ni fyddant yn colli eu hawl i breifatrwydd oherwydd enwogrwydd neu enw drwg eu rhieni, er enghraifft, neu oherwydd digwyddiadau yn eu hysgolion.

8.21  Os bydd rhaglen yn cynnwys unigolyn o dan un ar bymtheg oed neu rywun sy’n agored i niwed mewn modd sy’n tresmasu ar breifatrwydd, mae'n rhaid cael cydsyniad gan:

  • riant, gwarcheidwad neu berson arall sy’n ddeunaw oed neu’n hŷn yn lle rhiant; a
  • lle bynnag y bo modd, yr unigolyn sydd dan sylw;
  • oni bai fod y cynnwys yn ddibwys neu’n annadleuol a’r rhan a gymerir yn fach, neu fod cyfiawnhad dros fwrw 'mlaen heb gael cydsyniad.

8.22  Ni ddylid holi pobl o dan un ar bymtheg oed a phobl sy’n agored i niwed am faterion preifat heb gael cydsyniad gan riant, gwarcheidwad neu berson arall sy’n ddeunaw oed neu’n hŷn yn lle rhiant (yn achos pobl o dan un ar bymtheg oed), neu gan berson sydd â’r prif gyfrifoldeb dros ei ofal (yn achos rhywun sy’n agored i niwed), oni bai fod cyfiawnhad dros fwrw 'mlaen heb gael cydsyniad.

Ystyr “pobl sy’n agored i niwed”

Mae hyn yn amrywio, ond gall gynnwys pobl sydd ag anawsterau dysgu, pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, pobl mewn profedigaeth, pobl sydd wedi cael anaf i’w hymennydd neu sydd â mathau o ddementia, pobl sydd wedi’u trawmateiddio neu bobl sy’n wael eu hiechyd neu â salwch terfynol.