Adran pump: Didueddrwydd dyladwy a chywirdeb dyladwy

24 Ebrill 2024

Mae'r adran hon yn ymwneud â'r cysyniad o "ddidueddrwydd dyladwy" fel y bo'n berthnasol i raglenni newyddion a rhaglenni eraill.

Arweiniad Adran Pump blaenorol a oedd mewn grym tan 23 Ebrill 2024.

(Ymhlith yr eitemau deddfwriaeth perthnasol y mae, yn benodol, adrannau 319(2)(c) a (d), 319(8) a 320 Deddf Cyfathrebiadau 2003, Erthygl 7 y Confensiwn Ewropeaidd ar Deledu Trawsffiniol (ar gyfer gwasanaethau ECTT yn unig) Siarter a Chytundeb y BBC ac Erthygl 10 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.)

Egwyddorion

Sicrhau y bydd newyddion, ar ba bynnag ffurf, yn cael eu hadrodd gyda chywirdeb dyladwy a’u cyflwyno gyda didueddrwydd dyladwy.

Sicrhau y cydymffurfir â gofynion arbennig y Ddeddf o ran didueddrwydd.

Rheolau

Ystyr "didueddrwydd dyladwy"

Mae “Dyladwy” yn gymhwysiad pwysig i’r cysyniad o ddidueddrwydd. Mae didueddrwydd ei hun yn golygu peidio â ffafrio un ochr dros y llall. Mae “Dyladwy” yn golygu digonol neu’n briodol i’r pwnc a natur y rhaglen. Felly nid yw “didueddrwydd dyladwy” yn golygu bod rhaid rhannu amser yn gyfartal rhwng pob barn, neu fod rhaid cynrychioli pob dadl a phob nodwedd o bob dadl. Gall yr ymagwedd at ddidueddrwydd dyladwy amrywio’n unol â natur y pwnc, y math o raglen a sianel, disgwyliad tebygol y gynulleidfa ynglŷn â chynnwys, ac i ba raddau y mae’r cynnwys a’r ymagwedd yn cael eu cyfleu i’r gynulleidfa. Mae cyd-destun, fel y’i ddiffinnir yn Adran dau: Niwed a thramgwydd y Cod, yn bwysig.

Didueddrwydd dyladwy a chywirdeb dyladwy mewn newyddion

5.1  Rhaid adrodd newyddion, ar ba bynnag ffurf, gyda chywirdeb dyladwy a’u cyflwyno gyda didueddrwydd dyladwy.

5.2  Fel arfer dylid cydnabod camgymeriadau o bwys mewn newyddion a’u cywiro ar yr awyr yn gyflym (neu, yn achos gwasanaethau rhaglenni ar-alw cyhoeddus (ODPS) y BBC yn y DU, eu cywiro yn gyflym). Dylid amserlennu cywiriadau’n briodol (neu, yn achos gwasanaethau rhaglenni ar-alw cyhoeddus (ODPS) y BBC yn y DU, dylid eu gwneud yn amlwg i wylwyr mewn ffordd briodol).

5.3  Ni cheir defnyddio unrhyw wleidydd fel darllenydd newyddion, cyfwelydd neu ohebydd mewn unrhyw raglenni newyddion oni bai fod cyfiawnhad golygyddol dros hynny mewn achosion eithriadol. Mewn achos o’r fath, rhaid egluro teyrngarwch gwleidyddol y person hwnnw i’r gynulleidfa.

Gofynion didueddrwydd arbennig: rhaglenni newyddion a rhaglenni eraill

Materion gwleidyddol neu ddiwydiannol sy’n bwnc llosg a materion sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol

Ystyr “materion gwleidyddol neu ddiwydiannol sy’n bwnc llosg a materion sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol"

Mae materion gwleidyddol neu ddiwydiannol sy’n bwnc llosg yn faterion gwleidyddol neu ddiwydiannol y mae gwleidyddion, diwydiannau a/neu’r cyfryngau yn eu cyd-drafod. Nid oes angen i faterion sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol fod yn destun cyd-drafod ond gallant fod yn gysylltiedig â pholisi sy’n cael ei drafod neu sydd eisoes wedi’i benderfynu gan lywodraeth leol, rhanbarthol neu genedlaethol neu gan gyrff sydd o dan fandad y cyrff cyhoeddus hynny i wneud polisi ar eu rhan, er enghraifft sefydliadau anllywodraethol, sefydliadau rhyngwladol perthnasol, etc.

Gwahardd barnau neu safbwyntiau

(Mae Rheol 5.4 yn berthnasol i wasanaethau teledu a radio (heblaw gwasanaethau cyfyngedig) ac i wasanaethau rhaglenni ar-alw cyhoeddus (ODPS) y BBC.)

5.4  Rhaid i raglenni ar y gwasanaethau (sydd wedi’u rhestru uchod) wahardd pob mynegiant o farnau a safbwyntiau gan y sawl sy’n darparu’r gwasanaeth am faterion gwleidyddol a diwydiannol sy’n bwnc llosg a materion sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol (oni bai fod y person hwnnw’n siarad mewn fforwm deddfwriaethol neu mewn llys barn). Mae barnau a safbwyntiau sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau rhaglenni wedi’u heithrio rhag y gofyniad hwn hefyd.

Cynnal didueddrwydd dyladwy

(Mae Rheolau 5.5 i 5.12 yn berthnasol i wasanaethau rhaglenni teledu, gwasanaethau teletestun, gwasanaethau rhaglenni radio cenedlaethol a  sain digidol  cenedlaethol, holl wasanaethau radio’r BBC a gwasanaethau rhaglenni ar-alw cyhoeddus (ODPS) y BBC.)

5.5  Rhaid i unrhyw un sy’n darparu gwasanaeth (sydd wedi’i restru uchod) gynnal didueddrwydd dyladwy ar faterion gwleidyddol a diwydiannol sy’n bwnc llosg a materion sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol. Gellir sicrhau hyn o fewn rhaglen neu drwy gyfres o raglenni wedi’u cymryd gyda’i gilydd.

Ystyrof “cyfres o raglenni wedi’u cymryd gyda’i gilydd"

Mae hyn yn golygu mwy nag un raglen â chysylltiad golygyddol rhyngddynt ar yr un gwasanaeth, sy’n delio â’r un mater neu faterion cysylltiedig o fewn cyfnod amser priodol ac wedi’u hanelu at gynulleidfa debyg. Gall cyfres gynnwys, er enghraifft, edefyn, neu ddwy raglen (fel drama a chyd-drafodaeth am y ddrama) neu ‘glwstwr’ neu ‘gyfres’ o raglenni ar yr un pwnc.

5.6  Fel arfer dylid egluro i’r gynulleidfa ar yr awyr fod rhaglenni sy’n ymdrin â’r un deunydd pwnc yn cael eu darlledu (fel rhan o gyfres lle y mae’r darlledwr yn bwriadu sicrhau didueddrwydd dyladwy)[1].

5.7  Rhaid peidio â chamliwio safbwyntiau a ffeithiau. Hefyd, mae'n rhaid cyflwyno safbwyntiau gyda phwys dyladwy dros gyfnodau priodol.

5.8  Rhaid egluro i’r gynulleidfa unrhyw fuddiant personol sydd gan ohebydd neu gyflwynydd a fyddai’n codi amheuaeth ynghylch didueddrwydd dyladwy y rhaglen.

5.9  Mae cyflwynwyr a gohebwyr (heblaw cyflwynwyr newyddion a gohebwyr mewn rhaglenni newyddion), cyflwynwyr rhaglenni neu eitemau “barn bersonol” neu “awdurol”, a chadeiryddion rhaglenni trafod yn cael mynegi eu barn eu hunain am faterion gwleidyddol neu ddiwydiannol sy’n bwnc llosg neu faterion sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol. Fodd bynnag, rhaid tynnu sylw digonol at safbwyntiau eraill un ai yn y rhaglen, neu mewn cyfres o raglenni wedi’u cymryd gyda’i gilydd. Yn ogystal â hynny, rhaid i gyflwynwyr beidio â manteisio ar ymddangosiadau rheolaidd i hyrwyddo eu barn mewn modd sy’n groes i’r gofyniad am ddidueddrwydd dyladwy. Yn achos rhaglenni ffonio i mewn i siarad â chyflwynwyr, rhaid cymell barnau gwahanol a pheidio â’u gwahardd.

5.10  Rhaid hysbysu’r gynulleidfa’n glir ar y dechrau os yw rhaglen neu eitem yn un awdurol neu’n cyflwyno barn bersonol. Mae hyn yn ofyniad sylfaenol ac mae’n bosibl na fydd yn ddigonol ym mhob amgylchiad. (Mae cyflwynwyr ‘personoliaeth’ ar raglenni ffonio i mewn ar y radio wedi’u heithrio rhag y ddarpariaeth hon oni bai fod eu statws o ran datgan barn bersonol yn aneglur.)


Ystyr “barn bersonol” ac “awdurol”

Rhaglenni “barn bersonol” yw rhaglenni sy’n cyflwyno barn neu safbwynt penodol. Gall rhaglenni barn bersonol amrywio o fynegi barnau tueddol iawn yn echblyg, er enghraifft gan rywun sy’n aelod o grŵp lobïo ac yn ymgyrchu ar y pwnc, i farn “awdurol” ystyriol newyddiadurwr, sylwebydd neu academydd sydd ag arbenigedd neu fedrusrwydd proffesiynol mewn maes sy’n ei alluogi i fynegi barn nad yw o reidrwydd yn un brif ffrwd.

Materion gwleidyddol neu ddiwydiannol sy’n bwnc llosg sylweddol a materion o bwys sylweddol sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol

5.11  Yn ogystal â’r rheolau uchod, rhaid i’r sawl sy’n darparu gwasanaeth (sydd wedi’i restru uchod) gadw didueddrwydd dyladwy ar faterion gwleidyddol a diwydiannol sy’n bwnc llosg sylweddol a materion o bwys sylweddol sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol ym mhob rhaglen neu mewn rhaglenni sy’n amserol ac wedi’u cysylltu’n glir.

Ystyr “materion gwleidyddol a diwydiannol sy’n bwnc llosg sylweddol a materion o bwys sylweddol sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol”

Bydd y rhain yn amrywio yn ôl y digwyddiad ond yn gyffredinol maent yn faterion gwleidyddol neu ddiwydiannol sy’n bwnc llosg neu’n faterion polisi cyhoeddus cyfredol sydd o bwys cenedlaethol, ac yn aml yn rhyngwladol, neu sydd ag arwyddocâd tebyg o fewn ardal ddarlledu fwy cyfyngedig.

5.12  Wrth ymdrin â materion gwleidyddol a diwydiannol sy’n bwnc llosg sylweddol a materion o bwys sylweddol sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol, mae'n rhaid cynnwys ystod briodol eang o safbwyntiau arwyddocaol a rhoi pwys dyladwy iddynt ym mhob rhaglen neu mewn rhaglenni sy’n amserol ac wedi’u cysylltu’n glir. Rhaid peidio â chamliwio safbwyntiau a ffeithiau.

Atal amlygrwydd gormodol i farnau a safbwyntiau ar faterion gwleidyddol neu ddiwydiannol sy’n bwnc llosg a materion sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol

(Mae Rheol 5.13 yn berthnasol i wasanaethau radio lleol (yn cynnwys gwasanaethau radio cymunedol), gwasanaethau rhaglenni sain digidol lleol (yn cynnwys gwasanaethau rhaglenni sain digidol cymunedol) a gwasanaethau cynnwys trwyddedadwy ar y radio.) Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, nid yw’n berthnasol i unrhyw rai o wasanaethau’r BBC.)

5.13  Ni ddylai darlledwyr roi amlygrwydd gormodol i farnau a safbwyntiau pobl neu gyrff penodol ar faterion gwleidyddol neu ddiwydiannol sy’n bwnc llosg a materion sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol yn yr holl raglenni sydd wedi’u cynnwys mewn unrhyw wasanaeth (sydd wedi’i restru uchod) wedi’u cymryd gyda’i gilydd.

Ystyr "amlygrwydd gormodol i farnau a safbwyntiau"

Mae amlygrwydd gormodol yn anghydbwysedd arwyddocaol o ran barnau a fynegir wrth ymdrin â materion gwleidyddol neu ddiwydiannol sy'n bwnc llosg neu faterion sy'n ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol.

Ystyr "rhaglenni sydd wedi’u cynnwys mewn unrhyw wasanaeth... Wedi’u cymryd gyda’i gilydd"

Mae rhaglenni sydd wedi’u cynnwys mewn unrhyw wasanaeth o’u cymryd gyda’i gilydd.yn golygu'r holl raglenni ar wasanaeth sy'n ymdrin â'r un mater neu faterion cysylltiedig o fewn cyfnod amser priodol.


[1] Ar gyfer gwasanaethau rhaglenni ar-alw cyhoeddus (ODPS) y BBC dylai hyn gael ei wneud yn amlwg i’r gynulleidfa drwy hysbysu’r gynulleidfa'n briodol.