Adran pedwar: Crefydd

05 Ionawr 2021

Mae'r adran hon yn ymwneud â chyfrifoldebau darlledwyr mewn perthynas â chynnwys rhaglenni crefyddol.

(Ymhlith yr eitemau deddfwriaeth perthnasol y mae, yn benodol, adrannau 319(2)(e) a 319(6) Deddf Cyfathrebiadau 2003, ac Erthyglau 9, 10 a 14 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, a Siarter a Chytundeb y BBC.)

Mae’r rheolau yn yr adran hon yn berthnasol i raglenni crefyddol.

Egwyddorion

Sicrhau bod darlledwyr yn gweithredu cyfrifoldeb priodol mewn perthynas â chynnwys rhaglenni sy’n rhaglenni crefyddol.

Sicrhau nad yw rhaglenni crefyddol yn cynnwys unrhyw gamfanteisio ar unrhyw deimladau sydd gan y gynulleidfa ynghylch rhaglen o’r fath.

Sicrhau nad yw rhaglenni crefyddol yn cynnwys unrhyw ymdriniaeth ddifrïol â barnau a chredoau crefyddol y rhai sy’n perthyn i grefydd neu enwad crefyddol penodol.

Rheolau

4.1  Rhaid i ddarlledwyr gweithredu cyfrifoldeb priodol mewn cysylltiad â chynnwys rhaglenni sy’n rhaglenni crefyddol.

Ystyr “rhaglen grefyddol”

Mae rhaglen grefyddol yn rhaglen sy’n delio â materion crefyddol fel pwnc canolog y rhaglen, neu fel rhan bwysig ohoni.

4.2  Rhaid peidio ag ymdrin yn ddifrïol â barnau a chredoau crefyddol y rhai sy’n perthyn i grefydd neu enwad crefyddol penodol.

4.3  Os yw crefydd neu enwad crefyddol yn destun, neu’n un o destunau, rhaglen grefyddol, rhaid i enw’r grefydd a/neu’r enwad fod yn glir i’r gynulleidfa.

4.4  Rhaid i raglenni crefyddol beidio â cheisio hyrwyddo barnau neu gredoau crefyddol yn llechwraidd.

4.5  Rhaid i raglenni crefyddol ar wasanaethau teledu neu wasanaeth rhaglenni ar-alw (ODPS) y BBC ymwrthod rhag ceisio recriwtiaid. Nid yw hyn yn berthnasol i wasanaethau teledu crefyddol arbenigol. Mae rhaglenni crefyddol ar wasanaethau radio’n cael ceisio recriwtiaid.

Ystyr “ceisio recriwtiaid”

Ystyr ceisio recriwtiaid yw apelio’n uniongyrchol i aelodau’r gynulleidfa i ymuno â chrefydd neu enwad crefyddol.

4.6  Rhaid i raglenni crefyddol beidio â chamfanteisio ar unrhyw deimladau sydd gan y gynulleidfa.

(Yng nghyswllt apeliadau elusennol mewn rhaglenni ac apeliadau am nawdd gan ddarlledwyr, dylai darlledwyr teledu gyfeirio at Reolau 9.33 a 9.34 a 9.36 i 9.39. Dylai darlledwyr radio gyfeirio at Reolau 10.11 a 10.12).

4.7  Os yw rhaglen grefyddol yn cynnwys honiadau bod rhywun byw (neu grŵp) yn meddu ar bwerau neu alluoedd arbennig, rhaid iddi drin honiadau o’r fath â gwrthrychedd priodol a rhaid iddi beidio â darlledu honiadau o’r fath ar adegau pan ellid disgwyl i niferoedd sylweddol o blant fod yn gwylio (yn achos teledu), neu pan fydd plant yn neilltuol o debygol o fod yn gwrando (yn achos radio), neu pan fydd y cynnwys yn debygol o gael ei gyrchu gan blant (yn achos gwasanaeth rhaglenni ar-alw (ODPS) y BBC).

(Ar gyfer ystyr “yn debyg o gael ei ddefnyddio gan blant” gweler Adran Un: Diogelu pobl dan ddeunaw oed.)