Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Adran Saith: Tegwch

03 Ebrill 2017

(Ymhlith yr eitemau deddfwriaeth perthnasol y mae, yn benodol, adrannau 3(2)(f) a 326 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 ac adrannau 107(1) a 130 o Ddeddf Darlledu 1996 (fel y’i diwygiwyd), Erthygl 28 o’r Gyfarwyddeb Gwasanaethau Cyfryngau Clywedol, Erthygl 10 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, a Siarter a Chytundeb y BBC.)

Rhagair

Mae’r adran hon a’r adran sy’n dilyn ar breifatrwydd yn wahanol i adrannau eraill y Cod. Maent yn ymwneud â’r modd y mae darlledwyr yn trin yr unigolion neu gyrff y mae rhaglenni’n effeithio arnynt yn uniongyrchol, yn hytrach na’r hyn y mae’r cyhoedd yn ei weld a/neu ei glywed fel gwylwyr a gwrandawyr.

Yn ogystal ag egwyddor a rheol, mae’r adran hon yn cynnwys “arferion i’w dilyn” gan ddarlledwyr wrth ddelio ag unigolion a chyrff sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni neu’n dod yn uniongyrchol dan eu heffaith fel arall fel y’u darlledwyd. Ni fydd dilyn yr arferion hyn yn fodd i osgoi mynd yn groes i’r adran hon o’r cod o reidrwydd (Rheol 7.1). Fodd bynnag, ni fydd methiant i ddilyn yr arferion hyn ond yn groes i’r Cod os yw’n arwain at annhegwch ag unigolyn neu gorff yn y rhaglen. Mae’n bwysig nodi nad yw’r Cod yn gallu nac yn ceisio nodi’r holl “arferion i’w dilyn” er mwyn osgoi triniaeth annheg.

Mae’r darpariaethau canlynol yn yr adran nesaf ar breifatrwydd hefyd yn berthnasol i’r adran hon:

  • yr esboniad o fudd cyhoeddus sydd yn ystyr “gyda chyfiawnhad” dan Reol 8.1 yn Adran Wyth: Preifatrwydd;
  • *   ystyr ffilmio neu recordio dirgel sydd dan “arferion i’w dilyn” dan 8.13 yn Adran Wyth: Preifatrwydd.

Egwyddor

Sicrhau bod darlledwyr yn osgoi trin unigolion neu gyrff yn anghyfiawn neu’n annheg mewn rhaglenni.

Rheol

7.1 Rhaid i ddarlledwyr osgoi trin unigolion neu gyrff yn anghyfiawn neu’n annheg mewn rhaglenni.

Arferion i’w dilyn (7.2 i 7.14 isod)

Delio â chyfranwyr yn deg a chael cydsyniad gwybodus

7.2    Fel arfer dylai darlledwyr a gwneuthurwyr rhaglenni ddelio’n deg â chyfranwyr posibl i raglenni oni bai fod cyfiawnhad dros wneud fel arall mewn achosion eithriadol.

7.3    Os gwahoddir rhywun i gyfrannu at raglen (heblaw pan yw’r deunydd yn ddibwys neu’r rhan y mae’n ei chymryd ynddi’n fach) dylid gwneud y canlynol fel arfer ar adeg briodol:

  • ei hysbysu am natur a phwrpas y rhaglen, beth sydd dan sylw yn y rhaglen a rhoi eglurhad clir iddo am y rheswm dros ofyn iddo gymryd rhan a pha bryd (os yw’n hysbys) ac ym mhle y mae’n debygol o gael ei darlledu gyntaf;
  • rhoi gwybod iddo am y math o gyfraniad a ddisgwylir ganddo, er enghraifft, un byw, wedi’i recordio ymlaen llaw, cyfweliad, trafodaeth, wedi’i olygu, heb ei olygu, ayb.;
  • ei hysbysu am y meysydd y bydd y cwestiynau’n ymwneud â hwy ac, os yw’n bosibl, natur y cyfraniadau tebygol eraill;
  • rhoi gwybod iddo am unrhyw newidiadau pwysig yn y rhaglen wrth iddi ddatblygu a allai effeithio’n rhesymol ar ei gydsyniad gwreiddiol i gymryd rhan, ac a allai achosi annhegwch sylweddol;
  • ei hysbysu am natur ei hawliau a’i rwymedigaethau contractiol a’r rheini sydd gan wneuthurwr y rhaglen a’r darlledwr mewn cysylltiad â’i gyfraniad;
  • rhoi gwybodaeth glir iddo, os cynigir cyfle iddo weld y rhaglen cyn ei darlledu, ynghylch a fydd yn gallu peri unrhyw newidiadau ynddi.

Drwy gymryd y camau hyn, mae’n debygol y bydd y cydsyniad a roddir yn ‘gydsyniad gwybodus’ (a elwir yn yr adran hon ac yng ngweddill y Cod yn “gydsyniad”).

Gallai fod yn deg atal y cwbl neu rywfaint o’r wybodaeth hon os oes cyfiawnhad dros wneud hynny er lles y cyhoedd neu dan ddarpariaethau eraill yn yr adran hon o’r Cod.

7.4    Os yw cyfrannwr dan un ar bymtheg oed, dylid cael cydsyniad fel arfer gan riant neu warcheidwad, neu gan rywun arall sy’n ddeunaw oed neu’n hŷn yn lle rhiant. Yn benodol, ni ddylid gofyn i rai dan un ar bymtheg oed am eu barn am faterion sy’n debygol o fod y tu hwnt i’w gallu i ateb yn briodol heb gael cydsyniad o’r fath.

7.5    Yn achos rhai dros un ar bymtheg oed nad ydynt mewn sefyllfa i roi cydsyniad, dylai rhywun sy’n ddeunaw oed neu’n hŷn sydd â’r prif gyfrifoldeb dros ei ofal roi cydsyniad ar eu rhan fel arfer. Yn benodol, ni ddylid gofyn i rai nad ydynt mewn sefyllfa i roi cydsyniad am eu barn am faterion sy’n debygol o fod y tu hwnt i’w gallu i ateb yn briodol heb gael cydsyniad o’r fath.

7.6    Os yw rhaglen wedi’i golygu, dylid cyfleu cyfraniadau’n deg.

7.7    Fel arfer dylid anrhydeddu gwarantiadau a roddir i gyfranwyr, er enghraifft, ynghylch cynnwys rhaglen, cyfrinachedd neu anhysbysrwydd.

7.8    Dylai darlledwyr sicrhau na fydd ail ddefnydd o ddeunydd, h.y. defnyddio deunydd a gafodd ei ffilmio neu ei recordio’n wreiddiol at un diben a’i ddefnyddio wedyn at ddiben arall neu ei ddefnyddio mewn rhaglen ddiweddarach neu un wahanol, yn creu annhegwch. Mae hyn yn berthnasol i ddeunydd a gafwyd gan eraill a deunydd y darlledwr ei hun.

Cyfle i gyfrannu ac ystyriaeth briodol i ffeithiau

7.9    Cyn darlledu rhaglen ffeithiol, gan gynnwys rhaglenni sy’n edrych ar ddigwyddiadau yn y gorffennol, dylai darlledwyr gymryd gofal rhesymol i’w bodloni eu hunain:

  • nad yw ffeithiau perthnasol wedi’u cyflwyno, eu diystyru neu eu gadael allan mewn modd sy’n annheg ag unigolyn neu gorff;
  • bod unrhyw un y byddai ei adael allan yn gallu bod yn annheg ag unigolyn neu gorff wedi cael cynnig cyfle i gyfrannu.

7.10  7.10Ni ddylai rhaglenni – fel dramâu a dramâu sydd â sail ffeithiol – bortreadu ffeithiau, digwyddiadau, unigolion neu gyrff mewn modd sy’n annheg ag unigolyn neu gorff.

7.11  Os bydd rhaglen yn gwneud honiadau am ddrwgweithredu neu anghymhwyster neu’n gwneud honiadau sylweddol eraill, dylid fel arfer roi cyfle priodol ac amserol i ymateb i’r rhai dan sylw.

7.12  Os bydd rhywun y cysylltwyd ag ef i ofyn iddo gyfrannu i raglen yn dewis peidio â gwneud sylw neu’n gwrthod ymddangos mewn darllediad, dylai’r darllediad egluro bod yr unigolyn dan sylw wedi dewis peidio ag ymddangos a dylai roi ei eglurhad os byddai’n annheg peidio â gwneud hynny.

7.13  Os yw’n briodol cyfleu barn person neu gorff nad yw’n cymryd rhan yn y rhaglen, rhaid gwneud hynny mewn modd teg.

Twyll, dal pobl a galwadau ‘cynhyrfu’

7.14  Fel arfer ni ddylai darlledwyr neu wneuthurwyr rhaglenni gael neu geisio gwybodaeth, deunydd clywedol, lluniau neu gytundeb i gyfrannu drwy gamliwio neu dwyll. (Mae twyll yn cynnwys ffilmio neu recordio dirgel.) Ond:

  • mae’n bosibl y byddai cyfiawnhad dros ddefnyddio deunydd a gafwyd drwy gamliwio neu dwyll os yw er lles y cyhoedd ac os na ellir ei gael yn rhesymol fel arall;
  • os nad oes cyfiawnhad digonol ar sail budd cyhoeddus, er enghraifft, rhai galwadau cynhyrfu na ofynnwyd amdanynt neu drefniadau i ddal pobl er mwyn difyrrwch, dylid cael cydsyniad gan yr unigolyn a/neu gorff dan sylw cyn darlledu’r deunydd;
  • os na ellir adnabod yr unigolyn a/neu gorff yn y rhaglen, ni fydd angen cael cydsyniad i ddarlledu;
  • gellir defnyddio deunydd sy’n cynnwys pobl enwog a’r rheini sydd yn llygad y cyhoedd heb gael cydsyniad i ddarlledu, ond ni ddylid ei ddefnyddio heb fod cyfiawnhad ar sail budd cyhoeddus os yw’n debygol o’u gwneud yn destun gwawd cyhoeddus neu o beri gofid personol nad oes modd ei gyfiawnhau. (Fel arfer, felly, dylid recordio cyfraniadau o’r fath cyn eu darlledu.)

(Gweler “arferion i’w dilyn” 8.11 i 8.15 yn Adran Wyth: Preifatrwydd.)