(Ymhlith yr eitemau deddfwriaeth perthnasol y mae, yn benodol, adrannau 3(4)(g) ac (l) a 319(2)(a), (f) ac (l) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, Erthyglau 10 a 14 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, a Siarter a Chytundeb y BBC.)
Rhaid darllen yr adran hon ar y cyd ag Adran Un: Diogelu’r Rhai dan Ddeunaw Oed. Mae’r rheolau yn yr adran hon wedi’u bwriadu nid yn unig i roi amddiffyniad digonol i oedolion ond hefyd i amddiffyn pobl dan ddeunaw oed.
Sicrhau y cymhwysir safonau a dderbynnir yn gyffredinol at gynnwys gwasanaethau teledu a radio fel y rhoddir amddiffyniad digonol i aelodau o’r cyhoedd rhag cynnwys deunydd niweidiol a/neu dramgwyddus mewn gwasanaethau o’r fath.
2.1 Rhaid cymhwyso safonau a dderbynnir yn gyffredinol at gynnwys gwasanaethau teledu a radio a Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alwad y BBC fel y rhoddir amddiffyniad digonol i aelodau o’r cyhoedd rhag cynnwys deunydd niweidiol a/neu dramgwyddus mewn gwasanaethau o’r fath.
2.2 Rhaid i raglenni neu eitemau ffeithiol neu bortreadau o faterion ffeithiol beidio â chamarwain y gynulleidfa’n sylweddol. (Nodyn i Reol 2.2: Mae newyddion wedi’i reoleiddio dan Adran Pump o’r Cod.)
2.3 Wrth gymhwyso safonau a dderbynnir yn gyffredinol, rhaid i ddarlledwyr sicrhau bod deunydd a allai achosi tramgwydd wedi’i gyfiawnhau gan y cyd-destun (gweler ystyr “cyd-destun” isod). Gall deunydd o’r fath gynnwys y canlynol ond heb ei gyfyngu iddynt: iaith dramgwyddus, trais, rhyw, trais rhywiol, difrïo, gofid, amharu ar urddas pobl, iaith neu driniaeth wahaniaethol (er enghraifft, ar sail oed, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol, a phriodas a phartneriaeth sifil). Dylid hefyd ddarlledu gwybodaeth briodol os byddai o gymorth i osgoi neu leihau tramgwydd.
Ystyr “cyd-destun”:
Mae cyd-destun yn cynnwys (ond heb fod wedi’i gyfyngu i’r canlynol):
Nid yw amser ac amserlennu darllediadau yn berthnasol wrth ddarparu rhaglenni ar-alwad ond, i raglenni a ddarperir ar gyfer Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alwad y BBC mae cyd-destun hefyd yn cynnwys (ond heb ei gyfyngu i) natur y mynediad i'r cynnwys e.e. a oes mesurau ar waith i atal plant rhag gwylio a/neu wrando ar y cynnwys.
2.4 Rhaid i raglenni beidio â chynnwys deunydd (boed mewn rhaglenni unigol neu mewn rhaglenni o’u cymryd gyda’i gilydd) sydd, o ystyried y cyd-destun, yn cymeradwyo neu’n ‘glamoreiddio’ ymddygiad treisiol, peryglus neu dra gwrthgymdeithasol ac sy’n debygol o gymell eraill i efelychu ymddygiad o’r fath. (Gweler Rheolau 1.11 i 1.13 yn Adran Un: Diogelu’r Rhai dan Ddeunaw Oed.)
2.5 Rhaid peidio â chynnwys dulliau hunanladdiad a hunan-niwed mewn rhaglenni oni bai fod cyfiawnhad golygyddol drostynt a bod y cyd-destun hefyd yn eu cyfiawnhau. (Gweler Rheol 1.13 yn Adran Un: Diogelu’r Rhai dan Ddeunaw Oed.)
2.6 Rhaid ymdrin â gwrthrychedd priodol ag unrhyw arddangosiadau o ddadreibio, yr ocwlt, y goruwchnaturiol, dewiniaeth, neu arferion sy’n gysylltiedig ag unrhyw un o’r rhain yr honnir eu bod yn rhai go iawn (yn hytrach nag adloniant).
(Gweler Rheol 1.27 yn Adran Un: Diogelu’r Rhai dan Ddeunaw Oed, ynghylch cyfyngiadau ar amserlennu.)
2.7 Os gwneir arddangosiad o ddadreibio, yr ocwlt, y goruwchnaturiol, dewiniaeth, neu arferion sy’n gysylltiedig ag unrhyw un o’r rhain i ddibenion adloniant, rhaid egluro hyn i wylwyr a gwrandawyr.
2.8 Rhaid peidio â chynnwys cyngor newid bywyd sydd wedi’i anelu at unigolion mewn arddangosiadau o ddadreibio, yr ocwlt, y goruwchnaturiol, dewiniaeth, neu arferion sy’n gysylltiedig ag unrhyw un o’r rhain (pa un a honnir bod arddangosiadau o’r fath yn rhai go iawn neu eu bod i ddibenion adloniant).
(Mae rhaglenni crefyddol wedi’u heithrio rhag y rheol hon ond rhaid iddynt gydymffurfio, pa un bynnag, â’r darpariaethau yn Adran Pedwar: Crefydd. Nid yw ffilmiau, dramâu a ffuglen yn dod o dan y rheol hon fel arfer.)
Ystyr “newid bywyd”::
Mae cyngor newid bywyd yn cynnwys cyngor uniongyrchol i unigolion y gallent weithredu ar ei sail neu ddibynnu arno’n rhesymol ynghylch iechyd, materion ariannol, cyflogaeth neu berthnasoedd.
2.9 Os bydd darlledwyr yn darlledu deunydd sy’n cynnwys arddangosiadau o dechnegau hypnoteiddio, rhaid iddynt arfer cyfrifoldeb priodol er mwyn atal hypnosis a/neu adweithiau niweidiol ymysg gwylwyr a gwrandawyr. Rhaid i’r hypnotydd beidio â darlledu geiriau ei act arferol yn llawn na chael ei ddangos yn perfformio’n syth i’r camera.
2.10 Rhaid darlledu newyddion dynwaredol (er enghraifft, mewn dramâu neu mewn rhaglenni dogfen) yn y fath fodd fel nad oes posibilrwydd rhesymol y bydd y gynulleidfa’n cael ei chamarwain i gredu eu bod yn gwylio neu’n gwrando ar newyddion go iawn.
2.11 Rhaid i ddarlledwyr beidio â defnyddio technegau sy’n manteisio ar y posibilrwydd o gyfleu neges i wylwyr neu wrandawyr, neu o ddylanwadu ar eu meddwl fel arall heb iddynt fod yn ymwybodol, neu’n llwyr ymwybodol, o’r hyn sydd wedi digwydd.
2.12 Rhaid i ddarlledwyr teledu ofalu am gadw lefel isel o risg i wylwyr sydd ag epilepsi ffotosensitif. Mewn achosion lle nad yw’n rhesymol ymarferol dilyn arweiniad Ofcom (gweler gwefan Ofcom), a lle y gall darlledwyr ddangos bod cyfiawnhad golygyddol dros ddarlledu patrymau a/neu oleuadau sy’n fflachio, dylid rhoi rhybudd digonol i wylwyr ar lafar a hefyd, os yw’n briodol, ar ffurf testun ar ddechrau’r rhaglen neu’r eitem mewn rhaglen.
2.13 Rhaid i gystadlaethau a phleidleisio a ddarlledir gael eu cynnal yn deg.
2.14 Rhaid i ddarlledwyr sicrhau nad yw gwylwyr a gwrandawyr yn cael eu camarwain yn sylweddol am unrhyw bleidleisio neu gystadleuaeth a ddarlledir.
2.15 Rhaid i ddarlledwyr lunio rheolau ar gyfer pleidlais neu gystadleuaeth a ddarlledir. Rhaid i’r rheolau hyn fod yn glir a rhaid rhoi gwybod amdanynt mewn modd priodol. Yn benodol, rhaid datgan yr amodau pwysig a all effeithio ar benderfyniad gwrandäwr neu wyliwr i gyfrannu ar yr adeg y darlledir gwahoddiad i gyfrannu.
2.16 Rhaid disgrifio gwobrau cystadlaethau a ddarlledir yn gywir. (Gweler hefyd Rheol 1.30 yn Adran Un: Diogelu’r Rhai dan Ddeunaw Oed, sy'n ymdrin â darparu gwobrau priodol i blant.)
Nodyn:
Mewn amgylchiadau lle gall y gynulleidfa gymryd rhan a rhyngweithio gyda rhaglenni (gan gynnwys pleidleisio a chystadlaethau a ddarlledir) ac y gall hynny olygu cost i’r gwyliwr, dylai darlledwyr teledu hefyd gyfeirio at Reolau 9.26 i 9.30. Dylai darlledwyr radio gyfeirio at Reolau 10.9 a 10.10.
Ystyr “cystadleuaeth a ddarlledir":
Cystadleuaeth neu gyfle i ennill gwobr ar raglen lle mae gwylwyr neu wrandawyr yn cael eu gwahodd i gystadlu drwy unrhyw ffordd am y cyfle i ennill gwobr.
Ystyr “pleidleisio”:
Mae’n digwydd mewn rhaglen lle mae gwylwyr neu wrandawyr yn cael eu gwahodd i gofrestru pleidlais drwy unrhyw ffordd er mwyn penderfynu neu ddylanwadu ar ganlyniad cystadleuaeth, ar unrhyw gam.