Hyb amrywiaeth a chydraddoldeb
Rydym o'r gred y dylai rhaglenni teledu adlewyrchu profiadau pawb yn ein cymdeithas, ni waeth beth yw eu cefndir. I helpu cyflawni hyn, rydym yn edrych ar amrywiaeth, cynhwysiad a hygyrchedd, o flaen ac y tu ôl i'r camera.
Rydym hefyd yn gweithio'n galed i wella amrywiaeth a chynhwysiad yn ein sefydliad ni.
Mae'r adran hon o'n gwefan yn cynnwys ein hadroddiadau ac ymchwil berthnasol ar amrywiaeth a chynhwysiad mewn darlledu. Gallwch chi ddod o hyd i adnoddau defnyddiol hefyd, gan gynnwys ein harweiniad i ddarlledwyr a dolenni i sefydliadau allanol sy'n gweithio i wella amrywiaeth a chynhwysiad yn y sector cyfryngau.
Byddwn yn diweddaru'r hyb hwn yn rheolaidd gyda'r datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant.
Dros bawb: Amrywiaeth mewn darlledu 2021
Gwnaeth y digwyddiad rhithwir yma ystyried gorffennol, presennol a dyfodol amrywiaeth mewn darlledu yn y DU. Roedd yn cynnwys trafodaethau, cyfweliadau a sesiynau hyfforddi, oll yn edrych ar ddulliau ymarferol i wneud darlledu'n sector sy'n fwy cynhwysol ac amrywiol. Drwy gydol y dydd gwnaethom glywed lleisiau o feysydd teledu a radio, o bobl ar ddechrau eu gyrfaoedd i enwau adnabyddus.
Gallwch wylio sesiynau llawn o'r diwrnod drwy glicio ar y dolenni isod.
Dyma restr llawn o'r sesiynau o'r diwrnod. Cliciwch ar y ddolen a bydd y fideo ar gyfer y sesiwn honno yn agor. Nodwch fod sesiwn S4C ar gael yn Gymraeg a'r sesiynau eraill ar gael yn Saesneg.
- The last 5 years: what have we learnt?
- New Amsterdam: Freema Agyeman and David Schulner’s reflections on making the diverse US drama
- Weaving D&I into our DNA: ‘In discussion with Simone and Sarah from Bauer
- Representing, recruiting, and portrayal from across the Nations and Regions
- Medru Hansh: astudiaeth achos S4C
- In conversation with June Sarpong
- The Power of Staff Networks
- Viacom - The Benefits of Disability ERGs
- The Future of Media: how we’re making it more diverse
- How to build a more inclusive leadership in UK TV
- The anatomy of newsroom diversity – tick box vs reality?
- One workforce: Cross sector collaboration
Rôl Ofcom
Pam mae amrywiaeth yn bwysig
Clywed myfyrdodau cynulleidfaoedd a'r diwydiant
Y sefyllfa bresennol
Gweld ein holl adroddiadau monitro ar amrywiaeth a chyfle cyfartal yn y diwydiannau teledu a radio
Gwneud cynnydd
Darllen ein harweiniad i ddarlledwyr, a chael mwy o wybodaeth am weithgareddau diweddar i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiad yn y sector cyfryngau