Amrywiaeth a chyfle cyfartal mewn teledu a radio
Am y tro cyntaf rydym wedi cyfuno ein tasg o fonitro amrywiaeth a chyfle cyfartal yn y diwydiannau teledu a radio mewn adroddiad sengl (PDF, 2.4 MB). Dyma'r bedwaredd flwyddyn i ni adrodd ar y cynnydd a wnaed gan ddarlledwyr teledu a'r drydedd flwyddyn ar gyfer radio.
Mae'n ddyletswydd ar Ofcom i hyrwyddo cyfle cyfartal mewn perthynas â chyflogaeth yn y sector darlledu. Gallwn ofyn i ddarlledwyr ddarparu gwybodaeth am eu polisïau cyfle cyfartal a chyfansoddiad eu gweithlu.
Mae ein hadroddiad ar gyfer 2020 yn cyflwyno ein canfyddiadau allweddol ar amrywiaeth y darlledwyr rydym yn eu rheoleiddio, gan gynnwys yr wyth prif sefydliad teledu a radio. Er ei fod y tu hwnt i'r cyfnod adrodd rydym wedi cymryd effaith enfawr Covid-19 i ystyriaeth, a'r protestiadau gwrth-hiliaeth, a fydd yn siapio ymagwedd y darlledwyr at gynyddu amrywiaeth y gweithlu yn y dyfodol. Rydym hefyd yn gosod ein disgwyliadau a blaenoriaethau ar gyfer darlledwyr dros y flwyddyn i ddod, a sut y bydd Ofcom yn cefnogi'r diwydiant i fod yn fwy amrywiol a chynhwysol.
Eleni, mae ein hadroddiad yn cynnwys tri theclyn rhyngweithiol sy'n darparu gwybodaeth fanylach ar:
- data gweithlu ar draws diwydiannau teledu a radio y DU
- data gweithlu yr wyth prif ddarlledwr; a
- gwybodaeth ansoddol a ddarparwyd gan y darlledwyr ar y gwaith y maent wedi ymgymryd ag ef i gynyddu amrywiaeth a chynhwysiad yn eu sefydliadau.
Mae'r holl ddata ar gyfer y cyfnod Ebrill 2019 i Fawrth 2020.
Rhagair i'r adroddiad
Mae Prif Weithredwr Ofcom, Y Fonesig Melanie Dawes, yn siarad am bwysigrwydd cynyddu amrywiaeth y gweithlu darlledu a pham mae gweithio ar y cyd yn allweddol i roi hwb i newid.
Darllen yr adroddiad llawn
Diversity and equal opportunities in television and radio: 2020 report (PDF, 2.5 MB)
Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar amrywiaeth y darlledwyr teledu a radio yn 2019/20, gan amlygu tueddiadau a'r camau y maent wedi'u cymryd i wella amrywiaeth a chynhwysiad. Mae'n cynnwys gwybodaeth fanylach ar yr wyth darlledwr teledu a radio sydd â'r cyfrannau gwylio a gwrando uchaf (Teledu'r BBC, Channel 4, ITV, Sky, Viacom, Bauer Radio, Radio'r BBC a Global).
Diversity and equal opportunities in television and radio: 2020 methodology (PDF, 351.8 KB)
Diversity and equal opportunities in television and radio: 2020 full questionnaire (PDF, 2.6 MB)
Data rhyngweithiol
Employee diversity profiles for the UK radio and TV industries, 2018-2020
Employee diversity profiles for eight major UK broadcasters, 2018-2020
Qualitative responses from broadcasters to questions on diversity and inclusion, 2020