Digwyddiadau rhestredig


Mae “Digwyddiadau rhestredig” Ofcom yn sicrhau bod digwyddiadau chwaraeon o bwys ar gael am ddim i bob cynulleidfa, yn arbennig y rheini nad ydynt yn gallu fforddio gwylio chwaraeon tu i wal dalu.

Mae Deddf Darlledu 1996 yn rhoi’r pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon lunio rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon o “ddiddordeb cenedlaethol”. Os yw darlledwr am ddangos darllediad byw o un o’r digwyddiadau hyn, mae’n rhaid iddo wneud cais yn gyntaf am gydsyniad Ofcom. Caiff ein meini prawf ar gyfer rhoi cydsyniad eu hesbonio yn ein Cod ar chwaraeon a digwyddiadau rhestredig a dynodedig eraill.

Ceisiadau am ddigwyddiadau rhestredig a gymeradwywyd

Rhestr yw hon o’r ceisiadau am ddigwyddiadau rhestredig y mae Ofcom wedi’u cymeradwyo yn y 12 mis diwethaf.

Mae gwybodaeth hŷn ar gael ar yr Archifau Cenedlaethol.

Gwasanaethau sy’n cymhwyso

O bryd i’w gilydd, mae disgwyl i Ofcom gyhoeddi rhestr o sianeli teledu y mae’n ymddangos eu bod yn bodloni rhai meini prawf cymhwyso – sef eu bod am ddim i’w gwylio ac yn cael eu derbyn gan 95% o boblogaeth y DU. Gelwir y sianeli teledu hynny sy’n bodloni’r ddau faen prawf hyn yn ‘wasanaethau sy’n cymhwyso’.

O 24 Ionawr 2022, mae’r rhestr o wasanaethau sy’n cymhwyso yn cynnwys:

  • BBC One
  • BBC Two
  • BBC Three (from 1 February 2022)
  • BBC Four
  • BBC News
  • BBC Parliament
  • CBBC
  • CBeebies
  • Channel 3 network (broadcast as ITV, STV, UTV)
  • ITV2
  • ITV3
  • ITV4
  • Channel 4
  • Film 4
  • More 4
  • Channel 5