Darparwyr gwasanaethau rhaglenni ar alw (ODPS)

Mae Ofcom yn rheoleiddio cynnwys golygyddol (rhaglennu) ar wasanaethau 'fideo ar-alw' (neu ODPS) y DU. Mae gwasanaethau fideo ar-alw yn cynnwys gwasanaethau teledu dal i fyny, ffilmiau ar-lein a'r sawl sy'n cynnig llyfrgell o ddeunydd archif.

Mae yna feini prawf ar gyfer penderfynu a yw gwasanaeth yn dod o dan y diffiniad o OPDS ac a oes angen felly iddo hysbysu Ofcom a chydymffurfio â'n rheolau. Mae'r meini prawf hyn a'r gofynion o ran safonau cynnwys wedi'u disgrifio yn Adran 4A Deddf Cyfathrebiadau 2003 ("y Ddeddf").

Ar 1 Tachwedd 2020, daeth y Rheoliadau Gwasanaethau Cyfryngau Clyweled (“AVMS”) i rym. Mae'r Rheoliadau'n diwygio Rhan 4A y Ddeddf. Mae ein canllaw newydd ar bwy sydd angen rhoi gwybod  fel darparwr ODPS ar fesurau i ddiogelu defnyddwyr rhag cynnwys niweidiol sy'n adlewyrchu'r newidiadau hyn ar gael isod.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut mae Ofcom yn rheoleiddio ODPS, cysylltwch â ni yn:vod@ofcom.org.uk

Mae'r cynnwys isod ar gael yn Saesneg.

Featured content