Hygyrchedd a gwaith Ewropeaidd

04 Rhagfyr 2015

O 1 Ionawr 2016, Ofcom fydd unig reoleiddiwr cynnwys golygyddol (rhaglennu) ar wasanaethau fideo 'ar-alw' y DU. Yn flaenorol arweiniodd ein cyd-reoleiddiwr, yr Awdurdod Teledu Ar-alw (ATVOD), ar hyn o beth.

Mae'n ofynnol i Ofcom annog darparwyr gwasanaeth i sicrhau y gwneir eu gwasanaethau'n fwy hygyrch yn gynyddol i bobl gydag anableddau sy'n effeithio ar eu golwg neu eu clyw neu'r ddau. Mae Ofcom yn croesawu'r rhwymedigaeth hon ac yn ymrwymedig i chwarae ran arwyddocaol wrth annog hygyrchedd ar adeg allweddol mewn datblygu a defnyddio gwasanaethau ar-alw.

Mae Ofcom yn annog darparwyr gwasanaethau Ar-alw, pan fo'n ymarferol a thrwy foddau priodol, i gynhyrchu a darparu mynediad i waith Ewropeaidd.