Adolygiadau Ofcom o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus


Mae gan ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus (PSB yn Saesneg) draddodiad hir a balch yn y DU yn cyflwyno newyddion sy’n ddiduedd ac y gellid ymddiried ynddo, rhaglenni sydd wedi’u cynhyrchu yn y DU a chynnwys unigryw.

Y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yw’r rhai hynny sy’n darparu gwasanaethau Channel 3, Channel 4, Channel 5, S4C a’r BBC. Er bod holl sianelau teledu gwasanaeth cyhoeddus y BBC yn sianelau darlledu gwasanaeth cyhoeddus, dim ond y prif sianelau o bob un o’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill sydd â’r statws hwn.

Mae’r adolygiadau a’r adroddiadau isod yn darparu gwybodaeth ynglŷn â sut mae’r darlledwyr teledu gwasanaeth cyhoeddus yn perfformio o ran darparu darlledu gwasanaeth cyhoeddus (DGC).