Sut mae Ofcom yn rheoleiddio Channel 4

Cyhoeddwyd: 3 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd diwethaf: 7 Gorffennaf 2026

Rôl Channel 4

Mae Corfforaeth Channel 4 (C4C) yn gorff cyhoeddus, nid er elw, a ariennir gan refeniw masnachol. Lansiwyd ei brif wasanaeth, Channel 4, ym 1982 i ehangu dewis gwylwyr, darparu ar gyfer cynulleidfaoedd nad ydynt yn cael eu gwasanaethu gan ddarlledwyr eraill a chefnogi arloesedd a thwf sector cynhyrchu annibynnol y DU. Mae C4C yn gweithredu portffolio o sianeli teledu llinol gan gynnwys E4, E4 Extra, More4 a Film4. Mae hefyd yn darparu gwasanaeth ffrydio Channel 4 ac yn ffrydio ei gynnwys ar blatfformau digidol eraill.

Mae gan Channel 4 gylch gwaith unigryw ac mae hefyd yn cyfrannu at gyflawni dibenion ehangach y Darlledwyr Gwasanaethau Cyhoeddus (PSB). Estynnodd Deddf yr Economi Ddigidol 2010 rwymedigaethau C4C drwy gyflwyno dyletswyddau cynnwys cyfryngau y gall eu cyflawni ar draws ei gyfres lawn o wasanaethau.  Caniataodd Deddf y Cyfryngau 2024 i C4C wneud cynnwys ar gyfer ei sianel flaenllaw, Channel 4, a bod yn berchen ar yr eiddo deallusol ar gyfer yr allbwn hwn.

Sut mae Ofcom yn rheoleiddio Channel 4

Mae Ofcom yn defnyddio ystod o offerynnau rheoleiddio i ddwyn C4C i gyfrif am gyflawni ei gylch gwaith a’i ddyletswyddau chynnwys cyfryngau. Mae'r rhain yn cynnwys trwydded Channel 4, sy'n nodi rhwymedigaethau craidd C4C, yn ogystal â gofynion i gynhyrchu set o ddogfennau cynllunio ac adrodd blynyddol y mae Ofcom yn eu monitro. Mae'r rhain yn cynnwys: Datganiad o Bolisi Rhaglen (SoPP), Datganiad o Bolisi Cynnwys y Cyfryngau (SMCP) a Datganiad o Bolisi Comisiynu (SoCP). Mae Ofcom hefyd yn asesu cyflawniad C4C drwy asesiadau cyfnodol mwy manwl, gan gynnwys Adolygiad Pum Mlynedd C4C ac Adolygiadau Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSM).

Lle mae Ofcom yn penderfynu bod C4C wedi methu mewn unrhyw ffordd â chyflawni ei gylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus neu gyflawni un neu ragor o'i ddyletswyddau cynnwys cyfryngau neu gomisiynu (gan gynnwys ei ddyletswyddau mewn perthynas â pharatoi SMCP neu SoCP), ac o'r farn bod y methiant yn ddifrifol ac nad yw'n cael ei esgusodi gan amodau economaidd neu farchnad,  mae gan Ofcom y pŵer i gyfarwyddo C4C i gymryd camau cywirol, gan gynnwys diwygio ei SMCP, SoCP neu SoPP. Os yw C4C yn methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd o'r fath mewn perthynas â methiant i gyflawni un neu fwy o'i ddyletswyddau cynnwys cyfryngau neu gomisiynu rhaglenni, mae gan Ofcom y pŵer i amrywio trwydded Channel 4 fel y mae'n ei ystyried yn briodol i unioni methiant C4C.

Cwyno am rywbeth rydych chi wedi'i weld ar un o sianeli Channel 4 

Gallwch wneud cwyn am raglen rydych chi wedi'i gwylio ar un o sianeli Channel 4.

Cyhoeddiadau diweddaraf

Wedi'i Gyhoeddi 7 Gorffennaf 2026

Llythyr Ofcom at Gorfforaeth Channel 4 ar ei Datganiad o Bolisi Cynnwys y Cyfryngau 2025 (PDF, 377.0 KB)

O dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, rhaid i C4C baratoi datganiad blynyddol o bolisi cynnwys cyfryngau (SMCP) sy'n nodi ei gynlluniau ar gyfer cyflawni ei ddyletswyddau cynnwys cyfryngau i'r flwyddyn nesaf ac adrodd ar ei berfformiad dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r ddogfen hon yn cynrychioli ymateb Ofcom i'r SMCP 2025, gan nodi ein barn ar gyflawni cylch gwaith a dyletswyddau C4C dros y flwyddyn ddiwethaf yn ogystal â'i strategaeth ar gyfer y dyfodol.

Dogfennau rheoleiddiol allweddol

Cyhoeddiadau Allweddol

Rate this page

Was this page helpful?