Mae'r Gronfa Radio Cymunedol yn helpu i ariannu costau craidd rhedeg gorsafoedd radio cymunedol a drwyddedir gan Ofcom. Ar gyfer 2020-21, mae grantiau wedi cael eu darparu fel arian parod brys i gefnogi gorsafoedd sy'n wynebu anhawster ariannol difrifol oherwydd yr argyfwng coronafeirws ("Covid-19"), Oherwydd effaith barhaus Covid-19, mae DCMS bellach wedi darparu £200,000 ychwanegol ar gyfer trydedd rownd ariannu yn 2020-21 i gefnogi gorsafoedd radio cymunedol sy'n cymryd camau i fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd yn eu cymunedau.
Dim ond i drwyddedeion radio cymunedol yn y DU sy'n darlledu o dan drwydded radio cymunedol y gellir rhoi grantiau.
Ni all gorsafoedd ymgeisio am gyllid ar gyfer prosiect sydd eisoes wedi'i ariannu gan y Pecyn Elusennau Covid-19 £750 miliwn. Mae hyn yn cynnwys cyllid o'r cronfeydd a'r dosbarthwyr canlynol, er nad rhestr gynhwysfawr mo hon:
Os yw gorsaf wedi derbyn cyllid gan un o'r uchod, dim ond am grant gan y Gronfa y gallant wneud cais am gostau nad ydynt eisoes wedi'u hariannu gan grant arall.
Nid yw'r Gronfa Radio Cymunedol yn rhan o Becyn yr Elusennau Covid-19 a gall ymgeiswyr wneud cais am grant pellach os ydynt eisoes wedi derbyn grant eleni, yn unol â'r nodiadau arweiniad ar gyfer y rownd hon.
Mae'r cyfnod ymgeisio'n dechrau ar 18 Rhagfyr 2020 ac yn dod i ben am 5pm ar 14 Ionawr 2021. Bydd y Panel dyfarnu'n cwrdd ym mis Chwefror 2021 i ystyried y ceisiadau.
Gellir cyflwyno ceisiadau gan ddeiliaid trwydded cymwys yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â thîm Cronfa Radio Cymunedol Ofcom yn communityradiofund@ofcom.org.uk.
Grant report form, updated 13 October 2016 %asset_summary_92492%
Ofcom Annual Report on Community Radio Fund 2019-20 (PDF, 240.5 KB)
Adroddiad Blynyddol Radio Cymunedol 2019-20 (PDF, 278.5 KB)
Gallwch ddod o hyd i ddyfarniadau grantiau'r gorffennol ar wefan yr Archifau Gwladol.
Gallwch ddod o hyd i ddyfarniadau grantiau'r gorffennol ar wefan yr Archifau Gwladol.