Dyfarnu grantiau 2021-22 Rownd 1

02 Medi 2021

Cyfarfu Panel Cronfa Radio Cymunedol Ofcom (‘y Panel’) ddydd Mercher 11 Awst 2021 i ystyried ceisiadau yn y rownd gyntaf o gyllid ar gyfer 2021-22.

Ystyriodd y Panel bob cais a dyfarnu’r cyllid ar sail yr wybodaeth a oedd wedi cael ei chyflwyno, a gan gyfeirio at nodiadau cyfarwyddyd y Gronfa Radio Cymunedol (‘y Gronfa’). Ar gyfer pob cais am grant, penderfynodd y Panel a oedd am roi dyfarniad llawn, dyfarniad rhannol neu beidio â dyfarnu unrhyw gyllid.

Yn y cyfarfod:

  • Cafodd 72 o geisiadau am grantiau eu hystyried;
  • Roedd cyfanswm y cyllid roedd y ceisiadau hyn yn gofyn amdano yn £1,044,517
  • Dyfarnwyd grantiau i 23 o ymgeiswyr a oedd yn rhoi cyfanswm o £221,467
  • Ni ddyfarnwyd grantiau i 49 o ymgeiswyr

Roedd y grantiau a ddyfarnwyd yn amrywio o £2,000 i hyd at £19,760 ar gyfer swyddi unigol, ac roedd y cyfartaledd yn £9,629. Mae crynodeb o’r dyfarniadau ar gael ar ddiwedd y datganiad hwn.

Yn 2020-21, cafodd grantiau eu rhoi fel cyllid brys i gynorthwyo gorsafoedd a oedd yn wynebu trafferthion ariannol difrifol o ganlyniad i’r coronafeirws. Bellach mae'r Gronfa wedi mynd yn ôl i dalu am gostau craidd rhedeg gorsafoedd radio cymunedol sydd wedi cael eu trwyddedu gan Ofcom, fel y nodir yn y nodiadau cyfarwyddyd hyn.