Datganiad hygyrchedd ar gyfer Pecyn Gwybodaeth Diogelwch Ar-lein Ofcom

Cyhoeddwyd: 21 Ionawr 2025
Diweddarwyd diwethaf: 4 Mai 2026

Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i dudalennau gwe sy’n dechrau gydag ofcom.org.uk/os-toolkit.

Mae'r datganiad hwn yn berthnasol i dudalennau gwe sy'n dechrau gydag ofcom.org.uk/os-toolkit.
Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Ofcom. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl i allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 200% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrîn
  • llywio rhywfaint o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd 
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrîn (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
  • Strwythur pennawd ystyrlon ar y rhan fwyaf o dudalennau
  • Profi safonau AA ar gyfer Cyferbyniad 1.4.3 
  • Gwneud cais rhesymol am fformatau amgen, y bydd Ofcom yn eu hystyried
  • Rydym wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i ddeall wrth gyhoeddi nodweddion defnyddwyr ar gyfer cyhoeddiadau mawr

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch: 

  • Mae rhai rhannau o'r offeryn yn anoddach i'w llywio trwy feddalwedd darllenydd sgrîn a bysellfwrdd.
  • Mae rhai cydrannau’n anoddach i'w defnyddio gyda thechnolegau cynorthwyol gan nad ydynt yn cynnwys labeli a bennir yn rhaglennol na disgrifiadol ac nid yw strwythur y cynnwys wedi’i gynrychioli'n iawn.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu Braille, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r ffurflen adborth gwefan. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 21 diwrnod.

Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn, drwy'r post neu drwy anfon e-bost at accessibilityrequests@ofcom.org.uk. Mae manylion am hyn a sut i gysylltu â ni drwy Iaith Arwyddion Prydain (BSL) neu’r Gymraeg ar gael ar ein tudalen cysylltu â ni.

Gallwch hefyd wneud cwyn trwy ein hwb.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn edrych i wella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r ffurflen hon.

Gweithdrefn Gorfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwananaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EEAS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Ofcom wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2. Safon AA oherwydd y diffyg cydymffurfiaeth a restrir isod.

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

  1. Nid oes gan dudalennau gyda blychau ticio deinamig sy'n cynhyrchu gwybodaeth ychwanegol drefn ffocws rhesymegol. Gall hyn fod yn anodd i ddefnyddwyr darllenydd sgrîn ganfod ble mae cynnwys yn gorffen. Mae hyn yn methu Meini Prawf Llwyddiant 2.4.3 Trefn Ffocws.
  2. Nid yw rhai botymau wedi'u labelu'n gywir ac nid ydynt yn disgrifio'n ddigonol eu pwrpas allan o gyd-destun i ddefnyddwyr darllenydd sgrîn, mae hyn yn cynnwys botymau yn ôl, botymau anweithredol a botymau golygu. Mae hyn yn methu WCAG 2.2. Meini prawf llwyddiant 2.4.6 (penawdau a labeli).
  3. Nid yw rhai negeseuon statws, gan gynnwys "wedi'i gopïo'n llwyddiannus" ar ôl copïo eich cyfeirnod unigryw, yn cael eu cyflwyno i ddefnyddwyr darllenydd sgrîn. Mae hyn yn methu Negeseuon Statws Meini Prawf Llwyddiant 4.1.3.
  4. Nid yw rhywfaint o destun yn bodloni’r  cyferbyniad lliw gofynnol. Mae hyn yn methu WCAG 2.2. Meini prawf llwyddiant 1.4.3 (cyferbyniad (isafswm)).
  5. Nid yw rhai dangosyddion ffocws ar y tudalennau 'Darllen Canllawiau' a 'Trosolwg' yn ddigonol. Mae hyn yn methu Meini Prawf Llwyddiant 2.4.7 Ffocws Gweladwy (Lefel AA).
  6. Nid yw'r strwythur pennawd yng ngham un wedi’i  gyflwyno'n iawn i ddefnyddwyr darllenydd sgrin. Mae hyn yn methu WCAG 2.2. Meini prawf llwyddiant 2.4.6 (penawdau a labeli).
  7. Nid yw botymau anweithredol yn cael eu hepgor yn rhaglennol, a gall fod yn anodd i ddefnyddwyr darllenydd sgrîn wahaniaethu rhwng botymau gweithredol ac anweithredol. Mae hyn yn methu Meini Prawf Llwyddiant 2.4.3 Trefn Ffocws (Lefel A).
  8. Nid yw rhai meysydd wedi'u nodi'n briodol fel gorfodol; gall hyn fod yn anodd i ddefnyddwyr adnabod pa feysydd sy’n ofynnol.  Mae hyn yn methu Meini Prawf Llwyddiant 3.3.2 Labeli neu Gyfarwyddiadau (Lefel A).
  9. Nid yw teitlau tudalennau yn disgrifio pwrpas na phwnc  y dudalen yn ddigonol. Mae hyn yn methu Meini prawf Llwyddiant 2.4.2 Tudalen â Theitl.
  10. Mae neges statws ar goll ar ôl arbed cynnydd . Mae hyn yn methu Negeseuon Statws Meini Prawf Llwyddiant 4.1.3. 
  11. Pan fydd bariau  sgrolio yn bresennol, ni ellir defnyddio rhai bariau sgrolio gan fysellfwrdd. Mae hyn yn methu Meini  Prawf Llwyddiant 2.1.1 Bysellfwrdd.
  12. Pan chwyddir i 400%, mae rhywfaint o destun yn cael ei guddio gan gydrannau eraill y dudalen, gan ei gwneud hi'n anodd darllen y testun. Mae hyn yn methu Meini Prawf Llwyddiant 1.4.10 Ail-lifo. 
  13. Nid yw rhannau o rai cwestiynau yn cael eu darllen yn uchel gan ddarllenwyr sgrin, gan ei gwneud hi'n anodd i ddefnyddwyr ddeall cyd-destun y cwestiwn hwnnw. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant 2.4.6 penawdau a labeli.
  14. Nid yw botymau radio yn gysylltiedig â'u cwestiynau priodol, gan ei gwneud hi'n anodd i ddefnyddwyr darllenydd sgrin ddeall cyd-destun grŵp botymau radio. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant 3.3.2 Labeli neu Gyfarwyddiadau.

Rydym yn bwriadu datrys yr uchod erbyn Rhagfyr 2026. 

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 29 Ebrill 2026.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Ebrill 2026. Cynhaliwyd y prawf gan Ofcom a defnyddiwyd yr offer canlynol yn ogystal â dulliau profi eraill:

  • JAWS
  • Offeryn Gwerthuso WAVE
  • headingsMap
  • Mewnwelediadau Hygyrchedd ar gyfer y We
  • Gwiriwr Cyferbyniad Lliw WCAG