Mae Ofcom yn cynnal arolygon gyda defnyddwyr yn y DU ar draws ystod o bynciau. Mae eich barn yn bwysig i ni a hoffem glywed beth rydych yn ei feddwl.
Cyn i chi ddechrau
Efallai y bydd angen i chi ddod a'ch llythyr gwahoddiad gyda chi.
Os nad ydych wedi derbyn llythyr gan ein partneriaid ymchwil yn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg, efallai na fydd yn bosibl i chi gymryd rhan.
Cymryd rhan
Bydd eich atebion i'r arolwg yn aros yn gwbl gyfrinachol ac ni fyddant byth yn cael eu defnyddio i'ch adnabod mewn unrhyw ffordd. Dim ond eich atebion arolwg dienw fydd yn cael eu rhannu gydag Ofcom. Ni fydd eich manylion yn cael eu trosglwyddo i unrhyw drydydd partïon ac ni fyddant yn cael eu defnyddio i werthu unrhyw beth i chi.
Hoffem ddiolch i bawb sy'n cymryd rhan yn yr arolwg.
Arolygon byw
Mae'r arolygon canlynol gan Ofcom ar agor ar hyn o bryd:
- Arolwg Barn Rhieni am y Cyfryngau gyda Critical Research
- Arolwg Gweithgareddau'r Cyfryngau a'r Defnydd Ohonynt yn y DU gyda Critical Research
- Arolwg Agweddau at y Cyfryngau gyda Critical Research
- Arolwg Darlledu gyda BMG Research
- Arolwg Gwasanaethau Cyfathrebiadau Preswylwyr gyda Critical Research
- Arolwg Safonau'r Cyfryngau gyda Critical Research
- Arolwg Tracio Technoleg gyda BMG Research
- Arolwg Traciwr Newid gyda Critical Research
- Ymchwil i blant sy'n gwylio ac yn creu ffrydiau byw
- Ymchwil i ddefnydd plant o wahanol swyddogaethau ar-lein
- Arolwg defnydd o'r cyfryngau gyda Critical Research
Unrhyw gwestiynau?
Os ydych wedi derbyn gwahoddiad i gwblhau un o'r arolygon hyn ac rydych am gael rhagor o wybodaeth amdano, cyfeiriwch at y Cwestiynau Cyffredin neu'r manylion cyswllt ar eich llythyr gwahoddiad gan ein partner ymchwil.