Sut i wneud taliad i Ofcom

Cyhoeddwyd: 5 Mehefin 2026

Rhaid i chi ddyfynnu rhif eich anfoneb fel y cyfeirnod talu wrth wneud taliad i Ofcom.

Missing or incorrect references may delay processing. Payments that cannot be identified will be returned.

Cyngor ynghylch trosglwyddo arian 

Er mwyn sicrhau bod eich taliad yn cael ei brosesu’n brydlon, anfonwch eich manylion talu at Ofcom.remittances@ofcom.org.uk.

Dulliau talu a dderbynnir gan Ofcom

Os yw'ch trwydded yn adnewyddu yn flynyddol , gallwch sefydlu Debyd Uniongyrchol yn gyflym ac yn ddiogel gan ddefnyddio ein dolen ar-lein.

Wrth lenwi'r ffurflen mandad Debyd Uniongyrchol, defnyddiwch eich Rhif Cyfeirnod Cwsmer yn union fel y dangosir ar y cais am daliad/anfoneb neu ohebiaeth.

Mae'r cyfeiriad hwn fel arfer yn dechrau gyda "1-" neu "2-", neu "3-" ac yna rhifau neu gyfuniad o lythrennau a rhifau (er enghraifft 1-4ABC-456, 2-123456).

Is yw Debyd Uniongyrchol wedi'i sefydlu ar eich cyfrif, bydd pob taliad  yn cael ei gasglu'n awtomatig trwy ddebyd uniongyrchol.

Os yw eich banc yn gofyn am ddau lofnodwr awdurdodedig. 

Mae rhai sefydliadau yn gofyn am ddau lofnod ar y mandad Debyd Uniongyrchol. Os yw hyn yn berthnasol i chi, dilynwch y camau isod.

Sut i gwblhau mandad Debyd Uniongyrchol llofnodwr deuol:

  1. Lawrlwythwch y ffurflen Mandad Debyd Uniongyrchol.
  2. Argraffwch a chwblhewch y ffurflen â llaw
  3. Sicrhewch fod y ddau lofnodwr awdurdodedig yn llofnodi'r ffurflen yn unol â rheolau llofnodi eich banc
  4. Postiwch y ffurflen wreiddiol, wedi'i llofnodi i'r cyfeiriad canlynol: 
    Cyfrifon Derbyn 
    Ofcom
    Riverside House
    2a Southwark Bridge Road   
    Llundain
    SE1 2HA 
Gwybodaeth bwysig 

Ni allwn dderbyn mandadau Debyd Uniongyrchol trwy e-bost. 

Bydd unrhyw fandadau a anfonir drwy e-bost yn cael eu gwrthod a'u dileu'n ddiogel o'n system. Mae hyn er mwyn diogelu eich gwybodaeth ariannol a chynnal diogelwch data.

Gallwch ddefnyddio ein Porth Talu Ar-lein dalu anfonebau o hyd at £5,000 gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd.  

I wneud taliad, bydd angen:

  • eich rhif talu (rhif anfoneb) a

  • eich cyfeirnod cwsmer,

bydd y ddau ohonynt i'w gweld  ar eich anfoneb.

Mae taliadau cerdyn fel arfer yn cael eu prosesu ar yr un diwrnod. Dyma'r dull talu cyflymaf ar gyfer anfonebau o dan £5,000.

Gallwch wneud trosglwyddiad banc gan ddefnyddio'r manylion banc a ddangosir ar eich cais am daliad neu anfoneb.

Sylwch fod Ofcom yn gweithredu gyda sawl cyfrif banc , felly mae'n bwysig eich bod yn defnyddio manylion banc a ddarperir ar eich anfoneb i osgoi oedi wrth brosesu eich taliad.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dyfynnu rhif eich cais am daliad/anfoneb fel y cyfeirnod talu. 

Amseroedd prosesu:

  • Taliad Cyflymach – fel arfer yr un diwrnod
  • CHAPS – yr un diwrnod (gall  eich banc godi'r ffi)
  • BACS – fel arfer 3-5 diwrnod gwaith.

Os ydych chi'n talu o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig, gwnewch yn siŵr bod yr holl ffioedd banc yn cael eu talu gan yr anfonwr.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dyfynnu rhif eich cais am daliad/anfoneb fel y cyfeirnod talu.

Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i Ofcom dderbyn y swm anfoneb lawn  i gyhoeddi neu adnewyddu'r drwydded.

Os bydd unrhyw ffioedd yn cael eu didynnu yn ystod y trosglwyddiad a bod y taliad a dderbyniwn yn llai na'r swm sy'n ddyledus, ni ellir prosesu'ch trwydded yn llawn nes bod y balans sy'n ddyledus yn cael ei dalu. Gall didyniadau heb eu talu oedi prosesu’r drwydded.

Pan ofynnir am ffioedd trin, dewiswch yr opsiwn "EIN" i sicrhau bod yr holl ffioedd (banc anfon a banc cyfryngol) yn cael eu talu gan yr anfonwr ac Ofcom yn derbyn y swm llawn.

Sut i dalu am ffioedd ymgeisio teledu/radio a ffioedd trwydded PMSE

Cam 1: Cyflwyno eich cais 

Mae'n well gennym ffurflenni cais a dogfennau ategol gofynnol gael eu cyflwyno trwy e-bost i  broadcast.licensing@ofcom.org.uk.   

Dylech dderbyn ymateb awtomatig gan broadcast.licensing@ofcom.org.uk yn cadarnhau bod eich cais wedi'i dderbyn gan Ofcom. Os na fyddwch yn derbyn ymateb, mae'n debygol nad yw eich cais wedi'i dderbyn, a dylech gysylltu â Chanolfan Gyswllt Ofcom ar 0300 123 3333 a gofyn am y tîm Trwyddedu Darlledu a fydd yn gallu cadarnhau a dderbyniwyd eich cais. 

Ni fydd ceisiadau yn cael eu hasesu nes bod y ffi ymgeisio wedi'i derbyn a'i nodi yng nghyfrif banc Ofcom.

Cam 2: Talu'r ffi ymgeisio

Mae Ofcom yn gofyn i ymgeiswyr dalu'r ffi ymgeisio drwy drosglwyddiad banc (BACS/Taliad Cyflymach  neu CHAPS) ac yn syth ar ôl i'r ymgeisydd gyfarwyddo eu banc i wneud y taliad, anfonir cadarnhad o'r taliad drwy e-bost at broadcast.licensing@ofcom.org.uk
 
Er mwyn sicrhau y gall Ofcom  adnabod y taliad, rhaid iddo gynnwys cyfeirnod taliad sef cod post yr ymgeisydd ac yna enw'r ymgeisydd (neu gymaint o'r enw ag sy'n bosibl i'w ddarparu o fewn y terfyn nodau a osodwyd gan y banc). 
 
Y manylion banc i'w defnyddio i dalu'r ffi ymgeisio yw:  

Enw'r Cyfrif: Office of Communications Manylion y banc: Lloyds Bank, 69-73 Borough High Street, London SE1 1NQ 
Rhif y cyfrif: 00782415 
Cod didoli: 30-97-90
BIC: LOYDGB21351
IBAN: GB05 LOYD 3097 9000 7824 15 SWIFT: LOYD GB 2L

Mae trwyddedau PMSE yn cwmpasu defnydd cyfreithlon o feicroffonau di-wifr, teclynnau siarad (walkie-talkies), cysylltiadau sain/fideo di-wifr ac offer cysylltiedig a ddefnyddir mewn darlledu, theatr, digwyddiadau byw a chynyrchiadau eraill. Maent yn ofynnol yn ôl y gyfraith o dan y Ddeddf Telegraffiaeth Di-wifr. 

Cyfarwyddiadau talu
Rhaid talu ffioedd trwydded PMSE ymlaen llaw cyn y gellir rhoi  trwydded.

Mae hyn yn berthnasol p'un a ydych chi’n:

  • gwneud cais am drwydded PMSE newydd
  • adnewyddu trwydded bresennol, neu
  • archebu amleddau tymor byr ar gyfer digwyddiad.

Am arweiniad ar sut i dalu drwydded PMSE, gweler yr adran, Sut ydw i'n talu.

Amser prosesu

Nod Ofcom yw prosesu cais am drwydded PMSE o fewn saith diwrnod gwaith, ond gall hyn gymryd mwy o amser yn ystod cyfnodau prysur (Ebrill-Medi).

Gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn cael ei gwblhau'n brydlon fel y gellir rhoi eich trwydded mewn pryd ar gyfer eich digwyddiad.