Panel y Gronfa Radio Cymunedol

Cyhoeddwyd: 2 Gorffennaf 2010
Diweddarwyd diwethaf: 2 Mehefin 2026

Mae Panel y Gronfa Radio Cymunedol yn cwrdd fel bo angen i archwilio ceisiadau a gwneud dyfarniadau o'r Gronfa Radio Cymunedol.

Mae Adran 359 Deddf Cyfathrebiadau 2003 yn ei wneud yn bosib i gronfa ar gyfer gweithredwyr radio cymunedol gael eu sefydlu, ac i Ofcom ei gweinyddu a "gwneud y cyfryw grantiau y mae'n pennu eu bod yn briodol" i drwyddedeion radio cymunedol.

Mae Llywodraeth y DU (yn benodol yr Adran dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon) yn darparu swm o arian sydd i'w ddosbarthu i orsafoedd radio cymunedol trwy gronfa o'r fath. Dim ond deiliaid trwydded radio cymunedol all ymgeisio am grant gan y Gronfa hon.

Mae Ofcom wedi sefydlu Panel y Gronfa Radio Cymunedol i gwrdd fel y bo angen i archwilio ceisiadau a gwneud dyfarniadau o'r Gronfa.

Mae'r ddogfen isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Terms of reference for the Community Radio Fund Panel (PDF, 155.3 KB)

Mae Panel y Gronfa Radio Cymunedol yn cynnwys dau Aelod Anweithredol ac un Aelod Gweithredol. Dyma’r aelodau:

Alan Stewart (Cadeirydd)

Mae gan Alan brofiad sylweddol o reoleiddio darlledu ac yn fwy diweddar o redeg elusennau cymunedol. Roedd yn Bennaeth y Comisiwn Teledu Annibynnol yn yr Alban cyn symud i'r Swyddfa Cyfathrebiadau ar ddiwedd 2003 fel Pennaeth Darlledu ar gyfer yr Alban. Roedd yn gyfrifol am gysylltiadau  â darlledwyr, gan gynnwys trwyddedwyr radio cymunedol. Ar ôl gadael cyflogaeth llawn amser gydag Ofcom yn 2018, bu’n gweithio am gyfnod fel cyfarwyddwr annibynnol ei ymddiriedolaeth gymunedol leol ac ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd elusen amgylcheddol. Mae ganddo ddiddordeb hefyd mewn darpariaeth ieithoedd lleiafrifol ar ôl ymgymryd  â chyfrifoldebau statudol Ofcom dros  ddarlledu Gaeleg ac yn ddiweddarach cynnal  gwaith ymgynghori mewn maes cysylltiedig. Mae Alan hefyd yn Gomisiynydd Ffiniau'r Alban.

Hannah Bryant

Mae gan Hannah dros 25 mlynedd o brofiad mewn caffael, gwerthuso ac asesu cyllid ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat ac elusennol. Mae hi wedi gweithio mewn rolau ymgynghori a chorfforaethol, gan gefnogi sefydliadau i wneud penderfyniadau cyllido tryloyw ac atebol. Dechreuodd ei gyrfa yn arwain gwerthusiadau tendr ar gyfer elusennau, awdurdodau lleol a sefydliadau masnachol, cyn rheoli rhaglenni caffael a gwerthuso cymhleth yn y sector cyhoeddus ar draws sawl adran o'r llywodraeth. Yn ddiweddarach, arweiniodd swyddogaeth ffynonellau strategol Ewropeaidd, gan oruchwylio gwerthusiadau gwerth uchel ar draws sawl gwlad a chynghori uwch dimau arweinyddiaeth ar benderfyniadau cadarn, gwerth am arian.

Ers 2017, mae Hannah wedi bod yn gweithio gyda busnesau arloesol bach a chanolig, mentrau cymdeithasol, cyflymyddion a phartneriaid academaidd i helpu sefydliadau i lywio caffael y sector cyhoeddus a chyllid grant Innovate UK.

Ymunodd Hannah â'r Panel ar 1 Ionawr 2026 ac mae ei phenodiad yn para tan 31 Rhagfyr 2028.

Clare McNally-Luke

Clare yw Pennaeth Ymchwil Sain a Mewnwelediad yn y Grŵp Strategaeth ac Ymchwil yn Ofcom. Dechreuodd ei gyrfa yn gweithio ym maes Radio Masnachol yn Metro Radio Group / Emap plc. Yna, symudodd Clare i'r BBC lle'r oedd yn gweithio ym Mhencadlys Radio a Cherddoriaeth gan weithio gyda Chyfarwyddwr BBC Radio a'r tîm rheoli ar strategaeth a pherfformiad cyffredinol. Mae Clare yn awyddus i fod yn rhan o'r sector pwysig hwn o'r diwydiant radio sy'n canolbwyntio ar ymgysylltu'n agos â'r gymuned.

Ymunodd Clare â'r Panel ar 1 Ebrill 2024. Mae ei phenodiad yn parhau tan 31 Mawrth 2027.