MN26-web HERO

Teledu yw'r brif ffynhonnell ar gyfer newyddion etholiadol yng Nghymru ac mae mwy yn gwylio yma nag yng ngweddill y DU

Cyhoeddwyd: 29 Gorffennaf 2026
  • Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yw’r dewis cyntaf i wylwyr o hyd
  • Mae’r cynydd yn y nifer sy’n Ffrydwyr a Phodlediadau yn parhau, ond mae’r lefelau yn dal i fod yn is nag yng gweddill y DU

Mae pobl yng Nghymru yn parhau i ddibynnu ar y teledu am newyddion, gan gynnwys yn ystod etholiadau Senedd Cymru eleni. Maen nhw hefyd yn gwylio mwy o gynnwys fideo bob dydd na chynulleidfaoedd mewn unrhyw genedl arall yn y DU, yn ôl adroddiad newydd gan Ofcom a gyhoeddwyd heddiw.

Mae teledu yn parhau i fod yn ganolog i ddemocratiaeth yng Nghymru, ac yn brif ffynhonnell newyddion

Teledu oedd y brif ffynhonnell o newyddion a gwybodaeth etholiadol yng Nghymru cyn etholiad Senedd Cymru eleni, yn enwedig darpariaeth y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus (PSBs), gan dynnu sylw at rôl ganolog y PSBs wrth gyflwyno newyddion a gwybodaeth ddibynadwy a chywir i wylwyr:

  • Mae mwy na chwech o bob deg (63%) o oedolion yng Nghymru a oedd yn ymwybodol o'r etholiad wedi gweld newyddion neu wybodaeth amdano ar y teledu o'i gymharu â dim ond traean (33%) a welodd newyddion a gwybodaeth am yr etholiad ar-lein
  • Nododd tua hanner (48%) o'r bobl oedd yn ymwybodol o'r etholiad yng Nghymru eu bod wedi derbyn newyddion a gwybodaeth amdano gan newyddion teledu y BBC, llawer mwy na'r rhai a nododd yr un peth ar gyfer newyddion ITV (23%)
  • Wrth edrych ar yr holl ffynonellau newyddion yn gyffredinol, BBC One yw'r ffynhonnell newyddion a ddefnyddir fwyaf yng Nghymru, gyda mwy na hanner (57%) o oedolion yn ei ddefnyddio. Mae hyn wedi’i ddilyn yn agos gan chwilio ar Google (55%), a Facebook (52%), ac mae ar y blaen i ITV1 (40%). O ran newyddion am Gymru yn benodol, BBC One sydd ar y blaen unwith eto (37%), wedi’i ddilyn gan ITV1 (24%) a Facebook (14%)

Cynulleidfaoedd yng Nghymru yn gwerthfawrogi S4C am ddiwylliant, iaith a chwaraeon

Canfu ymchwil newydd a gynhaliwyd ar gyfer yr adroddiad eleni fod cynulleidfaoedd yn credu bod S4C yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi dysgu Cymraeg, adlewyrchu diwylliant Cymru a darparu mynediad at gynnwys chwaraeon poblogaidd.

Ymhlith oedolion yng Nghymru sy'n gwylio S4C, y rheswm mwyaf cyffredin dros wylio yw bod y sianel yn cynrychioli diwylliant a bywyd Cymru (36%). Mae tua thraean (32%) yn dweud eu bod yn gwylio i'w helpu i ddysgu Cymraeg ac mae bron i dri o bob deg (29%) yn dweud bod gwylio cynnwys Cymraeg yn bwysig iddyn nhw.

Chwaraeon yw'r math mwyaf poblogaidd o gynnwys ymhlith oedolion sy'n gwylio S4C, gyda bron i hanner (49%) yn dweud eu bod yn gwylio rhaglenni chwaraeon ar y sianel. Mae rhaglenni ffeithiol a rhaglenni dogfen yn cael eu gwylio gan 28% o oedolion, tra bod 26% yn gwylio drama. Pan ofynnwyd iddynt enwi eu hoff raglen ar S4C, rygbi oedd yr ymateb mwyaf cyffredin (15%).

Mae dysgu’r iaith hefyd yn sbardun allweddol i blant 7-18 oed sy'n gwylio S4C. Mae bron i draean (31%) yn dweud eu bod yn gwylio'r sianel i'w helpu i ddysgu Cymraeg. Mae arferion gwylio plant yn wahanol i oedolion. Animeiddiadau a chartwnau yw'r genre mwyaf poblogaidd ymhlith plant (38%), ac yna rhaglenni adloniant a chomedi (34%). Mae cynnwys addysgol yn cael ei wylio gan 30% o blant, tra bod 28% yn gwylio drama.

Pan ofynnwyd iddynt am y mathau o gynnwys PSB y maent yn eu gwerthfawrogi ac a yw darlledwyr yn cyflawni hyn yn dda, dywed 73% o oedolion sy'n gwylio S4C ei fod yn darparu 'rhaglenni a chynnwys sy'n dangos cenedl y DU rwy'n byw ynddi' a 68% yn dweud bod S4C yn darparu 'rhaglenni a chynnwys sy'n adlewyrchu bywydau pobl fel fi'; mae hyn yn gyson ag  agweddau tuag at PSBs yn gyffredinol.

Mae pobl yng Nghymru yn gwylio mwy o fideo na chynulleidfaoedd mewn rhannau eraill o'r DU

Yn ôl adroddiad Ofcom, Cyfryngau’r Genedl, sy’n trafod tueddiadau'r cyfryngau, pobl yng Nghymru yw’r gwylwyr fideo mwyaf brwd yn y DU, gan wylio cyfartaledd o 4 awr 52 munud y person y dydd yn 2025, sef ychydig yn is na’r cyfartaledd o 5 awr a 9 munud y llynedd. Teledu darlledu (byw, wedi'i recordio a fideo darlledu ar-alw) sy’n dal i gyfrif am y gyfran fwyaf, gyda 2 awr 41 munud y dydd, a hynny i lawr 13 munud ers y llynedd. Gostyngodd gwylio teledu byw o 1 awr a 54 munud y dydd y llynedd i 1 awr 43 munud y dydd.

Mae'r cynulleidfaoedd iau yn dal i symud oddi wrth teledu traddodiadol gyda gwylio ymhlith pobl 16-24 oed yn gostwng mwy na thraean (37%) i ddim ond 33 munud y dydd, tra bod cynulleidfaoedd hŷn (55+) yn dal i wylio mwy na 5 awr y dydd ar gyfartaledd.

Y ffrydwyr a oedd yn cynnig y rhaglenni mwyaf poblogaidd yng Nghymru, gydag 1.3 miliwn wedi gwylio ffilm deuluol animeiddiedig Netflix, KPop Demon Hunters. Roedd y deg rhaglen fwyaf pobogaidd yn cynnwys saith ffilm. Dychwelodd Gavin & Stacey i'r deg uchaf eto eleni gyda rhaglen ddogfen unigryw ar y BBC, 'A Fond Farewell', yn yr ail safle, gyda bron i 900,000 o bobl wedi’i gwylio.

PSBs – y sianeli o ddewis

Mae gwylwyr yng Nghymru yn fwy tebygol o ddewis un o'r PSBs wrth feddwl am yr hyn maen nhw eisiau ei wylio yn gyntaf. Dewisodd tua un o bob dau (50%) PSB yn gyntaf, ddwywaith cymaint â'r rhai sy'n dewis Netflix yn gyntaf (26%). Dim ond 6% sy'n dewis YouTube yn gyntaf.

Fodd bynnag, mae platfformau fideo ar-lein yn parhau i chwarae rhan sylweddol yn arferion cyfryngau pobl. Roedd tua chwech o bob 10 (61%) o bobl bedair oed a hŷn yng Nghymru yn gwylio YouTube bob wythnos yn 2025, a’r ffigur hwnnw’n codi i fwy na thraean (67%) ymhlith pobl ifanc 16-34 oed.

Mae pobl yng Nghymru yn treulio 41 munud y dydd ar gyfartaledd yn gwylio YouTube ar draws pob dyfais yn y cartref. Yn gynyddol, mae pobl yn ei wylio ar setiau teledu yn hytrach nag ar ffonau neu dabledi. Cynyddodd gwylio YouTube dyddiol cyfartalog ar setiau teledu 20%, o 15 munud y dydd yn 2024 i 18 munud y dydd yn 2025.

Roedd Cymru yn cyfrif am 5.6% o wariant cynhyrchu rhwydwaith cyntaf cymwys ar gyfer gwasanaethau darlledu cyhoeddus y DU yn 2025, i fyny o 5.1% yn 2024, gyda'r BBC, Channel 4, ITV a Channel 5 yn cynyddu eu cyfran o'r gwariant yng Nghymru yn 2025. Fodd bynnag, gostyngodd cyfran yr oriau cynhyrchu rhwydwaith cyntaf cymwys a ddyrannwyd i gynyrchiadau Cymru o 6.2% i 4.9% dros yr un cyfnod.

Dywedodd Philip Henfrey, Cyfarwyddwr Cymru yn Ofcom:

'Dangosodd etholiad Senedd Cymru fod darlledwyr yn parhau i chwarae rôl hanfodol wrth ddarparu gwybodaeth i bleidleiswyr a chefnogi dadl ddemocrataidd yng Nghymru. Teledu yw’r ffynhonnell bwysicaf o newyddion etholiadol i lawer o bobl o hyd, gan ddangos pa mor werthfawr yw newyddiaduraeth ddibynadwy a chywir i gynulleidfaoedd ar adegau allweddol. Fodd bynnag, mae'r duedd tymor hwy yn glir: mae gwylwyr iau yn troi mwy a mwy at newyddion a chyfryngau trwy wasanaethau ar-lein ac ar-alw yn hytrach na theledu traddodiadol. Wrth i gynulleidfaoedd barhau i newid, bydd sicrhau bod newyddion dibynadwy ar gael, lle bynnag y mae pobl yn dewis cael mynediad ato, yn parhau i fod yn her sylweddol i ddarlledwyr.'

Mae poblogrwydd ffrydio a gwrando ar bodlediad yn tyfu, tra bod radio masnachol yn cynyddu

Mae naw o bob deg oedolyn yng Nghymru yn gwrando ar radio bob wythnos, sef lefel sydd wedi aros yn sefydlog yn gyffredinol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae arferion gwrando yn amrywio yn ôl oedran, gyda chyrhaeddiad radio ymhlith gwrandawyr iau 15-24 oed yn gostwng o 82% yn 2021/22 i 76% yn 2025/26.

Mae'r farchnad yn parhau i esblygu wrth i gynulleidfaoedd symud tuag at wasanaethau digidol ac ar-lein. Yng Nghymru, mae gafael gorsafoedd radio DU-gyfan y BBC wedi colli tir, gan ostwng o 49% yn 2019/20 i 41% yn 2025/26, tra bod gorsafoedd masnachol ledled y DU wedi cynyddu eu cyfran o wrandawyr o lai nag 20% i fwy na 27% dros yr un cyfnod.

Ac mae pobl yn gwrando ar radio mewn gwahanol ffyrdd. Erbyn hyn mae DAB yn cyfrif am y gyfran fwyaf o wrando yng Nghymru, sef 36.5%, tra bod gwrando drwy radio analog a gwasanaethau ar-lein yn cyfrif am oddeutu tair o bob deg awr o wrando. Yn 2021/22 gwrando analog oedd y platfform mwyaf poblogaidd. Dim ond mewn cerbyd y mae ychydig dros un rhan o bump (22%) o wrandawyr yn gwrando ar y radio, i fyny o 15% yn 2019/20, sy'n dangos pa mor bwysig yw’r arfer o wrando yn y car i’r diwydiant radio.

Er bod radio byw yn parhau i fod yr elfen fwyaf o'r defnydd o sain, gan gyfrif am 54% o'r amser gwrando sain wythnosol yng Nghymru, mae hyn i lawr o fwy na dwy ran o dair (68%) yn 2021/22. Mae gwrandawyr yn treulio mwy o amser gyda fformatau sain amgen. Mae gwasanaethau ffrydio cerddoriaeth bellach yn cyfrif am bron i chwarter yr amser gwrando (23%), i fyny o 17% yn 2021/22. Spotify yw'r gwasanaeth ffrydio cerddoriaeth a ddefnyddir fwyaf yng Nghymru, gyda 44% o oedolion yn defnyddio naill ai ei wasanaeth premiwm neu am ddim bob wythnos, er bod hyn yn is na gweddill y DU gyda thua hanner y bobl (49%) yn gwrando.

Mae mwy a mwy yn gwrando ar bodlediadau. Mae bron i chwarter (23%) o oedolion yng Nghymru bellach yn gwrando ar bodlediadau bob wythnos, i fyny o 14% bedair blynedd yn ôl, er bod gwrando ar bodlediadau yn parhau i fod yn is yng Nghymru nag yn y DU (28%). Y podlediad mwyaf poblogaidd oedd The Joe Rogan Experience gyda chyrhaeddiad o 10.5%, ac roedd pob un o'r deg uchaf yn rhai DU-gyfan. Mae ein hymchwil yn nodi tua 228 o bodlediadau Cymraeg ar draws ystod o genres, gan gynnwys addysg, gwleidyddiaeth, chwaraeon ac adloniant. Ymhlith y penodau mwyaf mae rhaglen cyfweliadau hirhoedlog 'Beti a'i Phobol' a gyflwynir gan y ddarlledwraig Beti George, gyda 649 o benodau a phodlediad beicio, Y Dihangiad, a gyflwynir gan y gitarydd Rheinallt ap Gwynedd gyda 440 o benodau.


Nodiadau i Olygyddion

  • Mae'r ffigurau gwariant ar gynhyrchu yn ymwneud â chynyrchiadau rhwydwaith cyntaf cymwys sy'n cyfrif tuag at gwotâu cynhyrchu ‘Made Outside London’ y PSBs ac nid ydynt yn cynrychioli holl wariant neu allbwn rhaglenni PSB. Er enghraifft, mae rhaglenni newyddion wedi'u heithrio.
  • Y deg rhaglen fwyaf poblogaidd yng Nghymru yw:

Safle

Teitl

Genre

Darlledwr/

Gwasanaeth

Pennod

Cynulleidfa (000au)

1

KPop Demon Hunters

Ffilmiau

Netflix

Ffilm (2025)

1,303

2

Gavin & Stacey: A Fond Farewell

Rhaglenni dogfen

BBC

2025

899

3

Cars

Ffilmiau

Disney+

Ffilm (2006)

847

4

The Celebrity Traitors

Adloniant

BBC

Cyfres 1, Pennod 4

745

5

Adolescence

Drama

Netflix

Cyfres 1, Pennod 1

719

6

The Thursday Murder Club

Ffilmiau

Netflix

Ffilm (2025)

710

7

Moana 2

Ffilmiau

Disney+

Ffilm (2024)

685

8

Wallace & Gromit: Vengeance Most Fowl

Ffilmiau

BBC

Ffilm (2024)

614

9

The Super Mario Bros. Movie

Ffilmiau

Netflix

Ffilm (2023)

609

10

The Snail and the Whale

Ffilmiau

BBC

Ffilm (2019)

605