Mae adroddiad blynyddol Ofcom ar Gyfryngau’r Genedl ar gyfer y diwydiant, llunwyr polisi, academyddion a defnyddwyr. Ein prif amcanion yw i gofnodi newidiadau yn ymddygiadau defnyddwyr a thueddiadau allweddol yn y sector cyfryngau, a nodi sut mae cynulleidfaoedd yn cael eu gwasanaethu yn y DU.
Rydym yn tynnu ar ystod o dystiolaeth, a’n mabwysiadu persbectif traws-lwyfan, gan gynnwys y sectorau teledu, fideo ar-lein, radio a sain.
Hefyd cyhoeddwn adroddiadau ar wahân ar gyfer Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban sy’n ymdrin â themâu a materion penodol sy'n berthnasol i'r gwledydd hynny.
Adroddiad y DU
Media Nations 2026 - UK report
Prif bwyntiau:
- Mae cynnwys darlledwyr yn dal i gyfrif am y rhan fwyaf o'r fideo a wylir mewn cartrefi yn y DU, er gwaethaf cynnydd parhaus platfformau ffrydio a rhannu fideo
- Mae cyrhaeddiad wythnosol teledu darlledu wedi parhau i ostwng - ond mae mwy o bobl yn gwylio fideo-ar-alw (BVoD) darlledwyr nag o'r blaen. Ar y cyfan, mae nifer yr aelwydydd sy'n defnyddio fideo-ar-alw drwy danysgrifio (SVoD) wedi aros yn gymharol gyson dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
- Roedd marchnad teledu fasnachol a fideo ar-lein y DU yn fwy na £18bn yn 2025, wedi'i yrru gan y segmentau ar-lein ond gostyngodd refeniw darlledwyr masnachol
- Radio darlledu sydd â'r cyrhaeddiad uchaf o unrhyw fath o gyfryngau yn y DU, gyda dim ond ychydig o dan naw o bob deg oedolyn yn parhau i wrando ar radio byw bob wythnos
- Mae refeniw cyffredinol y sector sain wedi parhau i fod yn wydn, gyda thwf mewn hysbysebu (yn enwedig hysbysebu digidol) a refeniw tanysgrifio
Adroddiadau cenhedloedd
Cyfryngau'r Genedl 2026: Cymru (PDF)
Media Nations 2026: Northern Ireland (PDF)
Media Nations 2026: Scotland (PDF)
Dogfennau eraill
Cynnwys cysylltiedig