Prawf lles y cyhoedd ar y sefyllfa bosibl o uno mewn perthynas â Telegraph Media Group

Cyhoeddwyd: 1 Rhagfyr 2023
Ymgynghori yn cau: 27 Chwefror 2026
Statws: Datganiad ar y gweill (Wedi'i Gau)
Diweddarwyd diwethaf: 16 Hydref 2026

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi cyhoeddi'r penderfyniad i beidio â chyfeirio caffaeliad disgwyliedig y Telegraph Media Group Holdings Limited gan Daily Mail a General Trust plc i ymchwiliad cam 2, a hynny ar y sail nad yw'r uno hwn bellach ar y gweill nac yn cael ei ystyried. Fel rhan o'r penderfyniad hwn, mae adroddiad Ofcom wedi'i gyhoeddi.

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi cyhoeddi'r penderfyniad i beidio â chyfeirio caffaeliad disgwyliedig y Telegraph Media Group Limited gan Redbird IMI Media Joint Venture LLC, a chaffaeliad disgwyliedig y Telegraph Media Group Limited gan RB Investco Limited i ymchwiliad cam 2, a hynny ar y sail nad yw'r uno hyn bellach yn cael eu hystyried. Fel rhan o'r penderfyniad hwn, mae adroddiadau Ofcom wedi'u cyhoeddi.

Mae Ofcom wedi darparu ei adroddiad i'r Ysgrifennydd Gwladol. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cyhoeddi ein hadroddiad ac yn penderfynu sut i symud ymlaen.

Ar 12 Chwefror 2026, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol Hysbysiad Ymyriad Budd y Cyhoedd mewn perthynas â'r sefyllfa uno berthnasol bosibl os bydd y Daily Mail and General Trust plc yn caffael Telegraph Media Group Holdings Limited.

Mae'n ofynnol i Ofcom adrodd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 44A o Ddeddf Menter 2002. Rhaid i ni gwblhau ein hymchwiliad a'n hadroddiad erbyn 9am ar y 10 Mehefin 2026.  

Heddiw rydym wedi cyhoeddi:

  • gwahoddiad i wneud sylwadau ar y prawf budd y cyhoedd ynghylch y sefyllfa uno posibl; a
  • nodyn sy'n esbonio'r broses a'r amserlen ar gyfer paratoi ein hadroddiad.

Rydym yn ceisio ymatebion drwy e-bost PublicInterestTest2026@ofcom.org.uk, dim hwyrach na 5pm 27 Chwefror 2026.

Hysbysiadau Ymyriad Budd y Cyhoedd a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023 ac Ionawr 2024

Mae Ofcom wedi darparu ei chyngor i'r Ysgrifennydd Gwladol. Mater iddi hi yw cyhoeddi ein cyngor a phenderfynu ar unrhyw gamau sydd i'w cymryd.

Ar 26 Ionawr 2024, roedd yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cyhoeddi Hysbysiad Ymyriad Er Budd y Cyhoedd (PIIN) yn ymwneud â’r sefyllfa bosibl o uno sy’n deillio o fwriad RB Investco Limited i brynu’r Telegraph Media Group Limited.

Ar yr un pryd, ysgrifennodd yr Ysgrifennydd Gwladol at Ofcom yn rhoi gwybod i ni ei bod yn darparu estyniad ar gyfer adrodd ar ei PIIN 30 Tachwedd 2023 mewn perthynas â RedBird IMI Media Joint Venture LLC yn caffael Telegraph Media Group Limited.

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi gofyn i Ofcom adrodd yn ôl ar y ddau erbyn 9am ar 11 Mawrth 2024.

Caiff rhanddeiliaid sy’n dymuno darparu tystiolaeth ychwanegol sy’n berthnasol i PIIN 26 Ionawr wneud hynny erbyn 6 Chwefror 2024 fan bellaf. Nid oes angen ailgyflwyno tystiolaeth a ddarparwyd i ni eisoes pan wnaethom wahodd sylwadau ar 1 Rhagfyr 2023.

Fe wnaethom gyhoeddi’r canllawiau blaenorol ar PIIN 30 Tachwedd ar 1 Rhagfyr 2023. Dylid darllen y canllawiau hyn nawr fel pe baent hefyd yn cyfeirio at PIIN 26 Ionawr a’r dyddiadau cau diwygiedig.

Ar 30 Tachwedd 2023, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Hysbysiad Ymyriad er Lles y Cyhoedd o dan adran 42(2) o Ddeddf Menter 2002, mewn perthynas â'r sefyllfa bosibl o uno mewn cysylltiad â Telegraph Media Group.

Mae'n ofynnol yn awr i Ofcom adrodd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 44A o'r Ddeddf. Mae'n rhaid i ni gwblhau ein hymchwiliad a'n hadroddiad erbyn hanner nos ar ddiwedd 26 Ionawr 2024.

Heddiw rydym wedi cyhoeddi:

  • gwahoddiad i roi sylwadau ar y prawf budd y cyhoedd ynglŷn â'r sefyllfa bosibl o uno; a
  • nodyn sy'n esbonio'r broses a'r amserlen ar gyfer paratoi ein hadroddiad.

Rydym yn gofyn am ymatebion erbyn 13 Rhagfyr 2023.

Sut i ymateb

Cyfeiriad

Public Interest Test Team 2026
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA