
O dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, bydd yn ofynnol i ddarparwyr rhai o'r gwasanaethau ar-lein a ddefnyddir amlaf, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, gwasanaethau chwilio a phornograffi, gyhoeddi adroddiadau tryloywder blynyddol.
Heddiw, rydym yn lansio ymgynghoriad ar effaith ein dull o benderfynu beth ddylai gael ei gynnwys yn yr adroddiadau tryloywder hyn. Mae ein hymgynghoriad yn amlinellu, yn gyffredinol, ein dull o bennu pa fath o wybodaeth y byddwn yn gofyn i wasanaethau ei darparu bob blwyddyn i ddangos sut maent yn cadw defnyddwyr yn ddiogel tra'n cynnal pwysigrwydd rhyddid i fynegi.
Rydym am sicrhau y gall y wybodaeth y maent yn ei chyhoeddi arwain at welliannau i wasanaethau a grymuso defnyddwyr. Er enghraifft, gwybodaeth am sut mae gwasanaethau'n diogelu plant rhag niwed, sut maent yn mynd i'r afael â chynnwys a nodweddion peryglus, neu sut maent yn ymdrin ag adroddiadau gan ddefnyddwyr a chwynion.
Gall gwasanaethau roi eu barn
Os yw darparwr yn dod o fewn cwmpas, byddwn yn rhoi hysbysiad tryloywder iddo gyda chwestiynau – rhaid iddo ymateb i hyn fel rhan o gyhoeddi ei adroddiad tryloywder.
Pan fyddwn yn llunio hysbysiad tryloywder ar gyfer gwasanaeth, byddwn yn ystyried rhai ffactorau, fel y math o wasanaeth, faint o ddefnyddwyr sydd ganddo – a’r cyfran o’r defnyddwyr sy'n blant, a'r mathau o swyddogaethau sydd ar gael i ddefnyddwyr.
Er mwyn llywio ein dull yn y rhan hon o'n gwaith diogelwch ar-lein, rydym wedi cynnal trafodaethau a gweithdai gyda grwpiau cymdeithas sifil blaenllaw ac arbenigwyr ar ystod o rai o'r prif niweidiau ar-lein sy'n wynebu defnyddwyr.
Byddwn nawr yn siarad â darparwyr am eu hysbysiadau tryloywder drafft, er mwyn rhoi cyfle iddynt ddarganfod ymlaen llaw beth a ddisgwylir ganddynt, cyn i ni anfon hysbysiadau terfynol atynt y flwyddyn nesaf.
Gofynion tryloywder Ofcom ei hun
Mae'n ofynnol hefyd i Ofcom lunio ein hadroddiad tryloywder ein hunain, yn seiliedig ar y wybodaeth a gyhoeddir gan ddarparwyr. Bydd yr adroddiad hwn yn helpu i gymharu gwasanaethau ac yn tynnu sylw at enghreifftiau o arfer gorau, da neu wael ar gyfer y diwydiant ehangach a defnyddwyr. Fel gydag adroddiadau darparwyr, byddwn yn gwneud hyn unwaith y flwyddyn.
Mae'r ymgynghoriad yr ydym yn ei lansio heddiw yn nodi cam pwysig ymlaen wrth ddod â'r gyfudrefn dryloywder i rym, a fydd yn sicrhau bod gwybodaeth ar gael i helpu i wneud gwasanaethau'n fwy diogel a grymuso'r bobl sy'n eu defnyddio.
Cynnwys cysylltiedig