View of a camera monitor during a filming session

Ofcom yn dirymu trwydded Lualua TV i ddarlledu yn y DU

Cyhoeddwyd: 27 Tachwedd 2026

Heddiw, mae Ofcom wedi dirymu trwydded Lualua TV i ddarlledu yn y DU, ar unwaith.

Rydym wedi dod i'r penderfyniad hwn oherwydd nad ydym yn ystyried bod deiliad trwydded Lualua TV, Shells for Media Productions Limited, yn addas ac yn briodol i ddal trwydded ddarlledu yn y DU.

Mae gan Ofcom ddyletswydd barhaus i sicrhau bod darlledwyr yn parhau i fod yn addas ac yn briodol i ddal trwydded. Wrth wneud y dyfarniad hwn, ein prif ystyriaeth yw a ellir disgwyl i ddeiliad trwydded weithredu fel darlledwr cyfrifol.

Er bod cydymffurfio â rheolau darlledu yn ganolog, gallwn hefyd ystyried ymddygiad ehangach os yw’n codi pryderon ynghylch niwed posibl i gynulleidfaoedd neu ynghylch agwedd y deiliad trwydded tuag at  gydymffurfio â rheoliadau. Yn yr amgylchiadau hyn, rydym hefyd yn ystyried a allai parhau i ddal trwydded danseilio ymddiriedaeth yn y system ddarlledu.

Ynglŷn â Lualua TV

Mae Lualua TV yn sianel newyddion yn yr iaith Arabeg sy'n canolbwyntio'n bennaf ar gynulleidfaoedd yn Bahrain ac sydd ar gael ar hyn o bryd yn y DU fel ffrwd  byw drwy ei wefan.

Nid oedd Lualua TV yn cael ei ddarlledu fel gwasanaeth teledu rheoledig yn y DU o dan y Drwydded. Nid yw'r cynnwys sydd ar gael ar ei wefan yn ddarostyngedig i'r Cod Darlledu.

Ymchwiliad Ofcom

Ar 7 Hydref 2026, daeth Ofcom yn ymwybodol bod gwefan Lualua TV yn ffrydio sianel deledu yn fyw a oedd yn cynnwys araith 45 munud gan Abdul Malik al-Houthi, arweinydd y grŵp gwleidyddol a pharafilwrol Houthi yn Yemen.

Canfu ein hymchwiliad fod yr araith yn cynnwys deunydd a oedd yn gogoneddu ymosodiadau 7 Hydref 2023 a'r camau a gymerwyd gan y sefydliadau terfysgol gwaharddedig Hamas, Hezbollah a Jihad Islamaidd Palesteina. Roedd hefyd yn cynnwys cynnwys a oedd o dan y Cod Darlledu, gyfystyr ag iaith casineb heb gyd-destun na her, yn ogystal â   thriniaeth sarhaus a dirmygus tuag at bobl Iddewig. Yn unol  â'r hawl i ryddid mynegiant, mae Ofcom yn glir ei fod er budd y cyhoedd i ddarlledwyr gynnig sylwebaeth a dadansoddiad ar ddigwyddiadau yn y Dwyrain Canol, gan gynnwys safbwyntiau beirniadol, ac adrodd ar weithredoedd grwpiau terfysgol gwaharddedig. Fodd bynnag, ni ddylai darlledu hyrwyddo terfysgaeth na chynnwrf trosedd.

Yn yr achos hwn, fodd bynnag, roedd y cynnwys yn mynd y tu hwnt i adrodd digwyddiadau drwy gefnogi, hyrwyddo a gogoneddu gweithredoedd ac ideoleg terfysgol,  heb unrhyw her olygyddol, dadansoddiad beirniadol na chyd-destun i'r safbwyntiau a gyflwynwyd.

Yn ogystal, gwnaethom nodi sawl post ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol Lualua TV a oedd hefyd yn cefnogi, hyrwyddo, gogoneddu neu’n ceisio annog cefnogaeth i weithredoedd sefydliadau terfysgol gwaharddedig a'u harweinwyr. [1]

Yn ystod ein hymchwiliad, canfuom nad oedd y deiliad trwydded yn agored nac yn dryloyw  yn ei ymgysylltu â ni o ran  darparu recordiadau cywir.

Penderfyniad Ofcom

Mae'r ffaith bod Shells for Media Productions Limited wedi ffrydio iaith  casineb heb gyd-destun na her, yn erbyn pobl Iddewig a chefnogaeth i sefydliadau terfysgol gwaharddedig, ochr yn ochr â phatrwm o weithgaredd ar gyfryngau cymdeithasol sy'n mynegi cefnogaeth debyg i'w gweithredoedd - ynghyd â'r diffyg o fod yn agored ac yn dryloyw wrth  ymgysylltu  â'r rheoleiddiwr - yn arwain Ofcom i ddod i'r casgliad na ellir dibynnu ar y deiliad trwydded i  weithredu fel darlledwr cyfrifol.

Yn unol â hynny, nid yw Ofcom yn fodlon bod y deiliad trwydded yn addas ac yn briodol i ddal trwydded o dan y Ddeddf Darlledu ac felly mae wedi dirymu ei drwydded ar unwaith.

Mae hyn yn golygu na fydd Lualua TV yn gallu darlledu gwasanaeth teledu yn y DU drwy Ganllaw Rhaglenni Electronig (EPG) rheoleiddir ar deledu lloeren, cebl neu deledu daearol digidol. Nid yw'n atal Lualua TV rhag parhau i ffrydio’n fyw i gynulleidfaoedd ar-lein [2].

Rydym yn cydnabod bod penderfyniad Ofcom i ddirymu trwydded ddarlledu yn ymyrraeth sylweddol â hawliau darlledwyr i ryddid mynegiant. Fodd bynnag, mae deddfau darlledu yn ei gwneud yn ofynnol inni weithredu er budd diogelwch y cyhoedd, i helpu i atal anhrefn neu droseddu, ac i ddiogelu hawliau eraill. Yn yr achos hwn, mae Ofcom yn fodlon bod ei benderfyniad yn gymesur ac yn gyson â'r nodau cyfreithiol dilys hyn.

Dywedodd Cristina Nicolotti Squires, Cyfarwyddwr Grŵp Darlledu a Chyfryngau Ofcom:

 "Mae rhyddid mynegiant yn rhywbeth rydym  yn ei warchod  yn y wlad hon, ac mae'r safon ar gyfer gweithredu yn erbyn darlledwyr wedi'i gosod  yn uchel iawn. Yn dilyn ymchwiliad manwl a chan ystyried ystod eang o dystiolaeth, rydym wedi dod i'r casgliad nad yw Lualua TV yn addas nac yn briodol i ddal trwydded ddarlledu' yn y DU, ac felly rydym wedi'i dirymu ar unwaith."


Nodiadau i olygyddion

  1. Datgelodd ein hymchwiliad dystiolaeth glir o berthynas weithredol uniongyrchol rhwng Shells for Media Productions Limited, a gwasanaeth Lualua TV yn cael ei ffrydio ar ei wefan a deunydd wedi'i bostio ar ei gyfrif cyfryngau cymdeithasol.
  2. Mae'r Cod Darlledu a'r fframwaith statudol trwyddedu yn berthnasol i wasanaethau sy'n darlledu ar EPG rheoleiddiedig yn unig.