
Mae'r awdurdodau gwarchod diogelwch ar-lein yn y DU ac Awstralia wedi cyhoeddi partneriaeth newydd, wrth i Brydain baratoi i ddilyn arweiniad Awstralia o gyfyngu ar allu pobl ifanc dan 16 oed rhag dal cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
Bydd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn cael ei lofnodi gan Brif Weithredwr Ofcom, y Fonesig Melanie Dawes, a'r Comisiynydd eSafety Julie Inman Grant. Mae'n cynrychioli ymrwymiad i rannu gwybodaeth, arbenigedd a gwersi ymarferol wrth frwydro yn erbyn niwed ar-lein a diogelu ein dinasyddion ar-lein.
Fel y wlad gyntaf yn y byd i gyfyngu ar fynediad pobl ifanc16 oed i gyfryngau cymdeithasol, bydd profiad Awstralia yn helpu i lywio paratoad Ofcom i orfodi cyfyngiadau tebyg yn y DU y flwyddyn nesaf.
Bydd y Memorandwm Cyd-ddealtwriaeth hefyd yn cryfhau cydweithrediad ar fynd i'r afael â'r niwed ar-lein a brofir yn anghymesur gan fenywod a merched, gan gynnwys cam-drin, aflonyddu a thrais ar sail rhywedd.
Yn ystod wythnos y Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais yn Erbyn Menywod, mae'r ddau reoleiddiwr yn ail-gadarnhau eu hymrwymiad i wneud y byd ar-lein yn fwy diogel i fenywod a merched.
Daw'r bartneriaeth wedi’i chryfhau ar adeg pam cynhaliwyd eSafety symposiwm yn Sydney, o’r enw "Safer Online Futures", sy’n dod ag arbenigwyr cydnabyddedig yn rhyngwladol ac uwch-arweinwyr ynghyd i drafod rhai o'r materion mwyaf brys sy'n wynebu'r ecosystem diogelwch ar-lein.
Ymhlith y pynciau a oedd yn uchel ar yr agenda i'w drafod oedd niwed deallusrwydd artiffisial (AI) sy'n dod i'r amlwg, effaith cyfyngiadau oedran cyfryngau cymdeithasol Awstralia, a phwysigrwydd atal drwy addysg diogelwch ar-lein ac ymgysylltu â'r gymuned.
Mae Ofcom ac eSafety yn aelodau sefydlol o'r Rhwydwaith Rheoleiddwyr Diogelwch Ar-lein Byd-eang (GOSRN), sy'n dod â chyrff o 10 gwlad ynghyd i greu dull cydlynol o ymdrin â diogelwch ar-lein ledled y byd. Byddant hefyd yn cyfarfod yn ffurfiol yn Sydney.
Gwnaeth y Fonesig Melanie hefyd gyfarfod ag aelodau o Gyngor Ieuenctid eSafety, grŵp o bobl ifanc rhwng 13 a 24 oed o bob rhan o Awstralia sy'n helpu i arwain gwaith eSafety drwy rannu eu syniadau a'u profiadau ynghylch diogelwch ar-lein. Wedi'i lansio yn 2022, mae'r Cyngor yn cynnig cyfle i bobl ifanc ddylanwadu ar bolisi ym maes addysg diogelwch ar-lein.
Dywedodd y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom:
"Mae Ofcom yn gweithio'n galed i sicrhau bod plant yn cael eu diogelu o'r diwrnod cyntaf y daw’r gwaharddiad newydd ar gyfryngau cymdeithasol i rym yn y DU. Dyna pam mae'r bartneriaeth hon mor bwysig.
"Bydd profiad Awstralia yn amhrisiadwy wrth i ni baratoi i orfodi'r mesurau diogelu newydd hyn, ac rydym yn ddiolchgar i Gomisiynydd eSafety a'i thîm ymroddedig. Drwy weithio gyda'n gilydd gallwn rannu tystiolaeth, dysgu o'r hyn sy'n gweithio, a chryfhau ein hymdrechion i wneud y rhyngrwyd yn fwy diogel i blant a'u teuluoedd."
Dywedodd Julie Inman Grant, Comisiynydd eSafety Awstralia:
"Drwy uno â Ofcom, gallwn ddysgu'n gyflymach, ymateb yn fwy effeithiol a helpu i sicrhau bod y dechnoleg sy'n llunio bywydau pobl ifanc yn fwy diogel yn sgil y ffordd y cafodd ei dylunio.
"Nid yw niwed ar-lein yn dod i ben gyda ffiniau cenedlaethol, ac ni ddylai ein hymdrechion i fynd i'r afael â nhw chwaith. Bydd y cytundeb hwn yn ein helpu i rannu mewnwelediadau a sicrhau canlyniadau diogelwch gwell i ddefnyddwyr yn y ddwy wlad."
Nodiadau i olygyddion
- Y Fonesig Melanie yn arwain dirprwyaeth Ofcom yn Awstralia, gan gyfarfod â llunwyr polisi, academyddion a rheoleiddwyr blaenllaw i ddysgu o brofiad Awstralia o weithredu diwygiadau diogelwch ar-lein a mesurau sicrwydd oedran. Gwnaeth Ofcom fynychu cyfarfod o'r Global Online Safety Regulators Forum yn Sydney.
- Comisiynydd eSafety Awstralia yw rheoleiddiwr diogelwch ar-lein annibynnol Awstralia.
- Ofcom yw rheoleiddiwr diogelwch ar-lein y DU.
Mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth heddiw yn sefydlu fframwaith ar gyfer cydweithredu a rhannu gwybodaeth rhwng Ofcom ac eSafety, yn amodol ar gyfraith y DU ac Awstralia. Mae'r testun llawn ar gael yma.
Cynnwys cysylltiedig