Datganiad wedi'i gyhoeddi 10 Chwefror 2026
Heddiw, rydym yn cyhoeddi ein canllawiau ar gyfer y drefn uwch-gŵynion diogelwch ar-lein.
Mae'r drefn uwch-gŵynion yn galluogi sefydliadau cymwys i dynnu sylw Ofcom at faterion systemig ynghylch nodweddion gwasanaethau ar-lein rheoleiddiedig, neu’r ffordd y mae’r gwasanaethau hynny’n cael eu cynnal, a allai arwain at risg sylweddol o niwed sylweddol ar-lein neu effaith negyddol ar yr hawl i ryddid mynegiant.
Mae meini prawf wedi'u nodi mewn deddfwriaeth sy'n penderfynu pa sefydliadau sy'n gymwys i wneud cwyn a sut y byddwn yn penderfynu a yw cwyn yn dderbyniol o dan y Ddeddf. I grynhoi, rhaid i sefydliad ddangos y canlynol:
- ei fod yn cynrychioli pobl yn y DU - gall hyn fod yn bobl sy'n defnyddio gwasanaethau ar-lein rheoleiddiedig, y cyhoedd yn gyffredinol neu grŵp penodol o bobl
- gellir dibynnu arno i weithredu'n annibynnol ar wasanaethau ar-lein rheoleiddiedig
- ei fod yn cyfrannu'n sylweddol yn rheolaidd, fel arbenigwr, at drafodaethau cyhoeddus am unrhyw agwedd ar faterion diogelwch ar-lein
- gellir dibynnu arno i roi sylw i ganllawiau Ofcom ynglŷn â gwneud uwch-gŵynion
Mae'r canllawiau terfynol a gyhoeddwyd heddiw yn rhoi manylion am y meini prawf hyn, ac eraill, ar gyfer sefydliadau sy'n dymuno cyflwyno uwch-gŵyn. Mae'r Datganiad yn esbonio sut rydym yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad a gafwyd ar gyfer y canllawiau drafft, ac unrhyw newidiadau dilynol a wnaed i'r canllawiau terfynol.
Mae mwy o fanylion ar dudalen we Ofcom am y broses uwch-gŵynion, a’r ffurflen mynegi diddordeb uwch-gŵynion.
Ymgynghoriad ddogfennau
Ymatebion
Gwybodaeth cyswllt
Online Safety Group
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA