
Ymateb Oliver Griffiths, Cyfarwyddwr Grŵp Diogelwch Ar-lein Ofcom i Snapchat yn dechrau cyflwyno mesurau atal perthynas amhriodol ar-lein i blant:
"O ganlyniad i bwysau parhaus gan Ofcom, mae Snapchat o heddiw, yn diffodd ei nodwedd 'Find Friends' ddiofyn ar gyfer defnyddwyr sy’n blant. Mae hyn yn golygu bydd plant yn cael eu diogelu’n well rhag peryglon a achosir gan ddieithriaid ar-lein. O ystyried y defnydd eang o Snapchat gan blant yn y DU, mae hwn yn welliant pwysig a chroesawn o ran diogelwch plant ar-lein. Mae’n hir ddisgwyliedig a byddwn yn dwyn y cwmni i gyfrif ar gwblhau cyflwyno'r mesur diogelwch hanfodol hwn y mis hwn.
"Mae Snapchat hefyd wedi cadarnhau yn ddiweddar y dylai gwiriadau oedran hynod effeithiol fod ar waith erbyn diwedd y flwyddyn. Bydd hyn yn sicrhau bod pob person dan 18 oed yn elwa o'r mesurau diogelwch newydd hyn, a byddwn yn monitro’r cynnydd yn agos.
"Mae ein neges yn glir i gwmnïau technoleg: mae mynd i'r afael â'r risgiau o feithrin perthynas amhriodol a phlant yn rhywbeth nad oes modd cyfaddawdu arno a bydd cwmnïau sy'n methu â chyflawni hyn yn wynebu camau gorfodi."
Cynnwys cysylltiedig