
Mae Ofcom wedi cyhoeddi canllawiau cryfach i ddarlledwyr ynghylch diogelu lles cyfranogwyr mewn rhaglenni realiti wedi'i lunio (constructred reality programmes) – yn enwedig y rhai sy'n ymwneud ag agosatrwydd emosiynol neu gorfforol.
Mae'r rhaglenni hyn yn boblogaidd iawn gyda chynulleidfaoedd ac yn gwneud cyfraniad pwysig i'r diwydiant cynhyrchu yn y DU. Maent yn cwmpasu ystod eang o fformatau, rhai ohonynt yn annog cyfranogwyr i rannu profiadau personol neu gymryd rhan mewn sefyllfaoedd emosiynol neu gorfforol agos.
Nid yw Ofcom yn cymeradwyo nac yn gwahardd fformatau rhaglenni, ac nid yw'n ceisio cyfyngu ar ryddid golygyddol darlledwyr. Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod darlledwyr yn rhoi mesurau diogelu priodol ar waith ac yn ystyried lles unigolion sy'n cymryd rhan mewn rhaglenni realiti wedi'u lunio’n ofalus.
Lles cyfranogwyr wrth wraidd canllawiau newydd
Heddiw rydym wedi cryfhau ein canllawiau ar y rheolau Tegwch o dan ein Cod Darlledu (Adran Saith) i gynnwys adran newydd sy'n ymwneud â sioeau realiti wedi’i lunio sy'n cynnwys agosatrwydd corfforol a/neu emosiynol.
Mae ein canllawiau yn pwysleisio, po fwyaf yw'r disgwyliad i gyfranwyr gymryd rhan mewn agosatrwydd corfforol neu emosiynol, y mwyaf yw'r risg bosibl o niwed. Yn yr achosion hyn, dylai darlledwyr ystyried mesurau cryfach i ddiogelu lles. Mae angen i ddarlledwyr sicrhau bod mesurau diogelu priodol ar waith i ddiogelu cyfranogwyr rhag risgiau rhagweladwy o fewn eu rheolaeth.
I grynhoi, rydym yn disgwyl i wneuthurwyr rhaglenni roi sylw i'r ystyriaethau canlynol:
- Dylai asesiadau risg adlewyrchu realiti'r fformat: Dylai asesiadau risg nodi risgiau lles rhesymol rhagweladwy. Dylai amddiffyniadau lles i gyfranogwyr fod yn gymesur â lefel a mathau o risg a nodwyd, gan ystyried, er enghraifft, pwnc a natur y rhaglen a'r rhyngweithio rhwng cyfranogwyr. Mae ein canllawiau yn cynnwys matrics risg ar gyfer fformatau realiti wedi'i luniosy'n cynnwys agosatrwydd corfforol a/neu emosiynol i helpu darlledwyr i wneud y dyfarniadau hyn.
- Gall cyfranogwyr mewn rhai fformatau fod yn fwy agored i niwed: Efallai y bydd angen gofal arbennig lle bydd aelodau o'r cyhoedd, nad ydynt yn gyfarwydd â chael proffil cyhoeddus, yn cymryd rhan mewn fformatau lle maent yn agored i wrthdaro, pwysau emosiynol, datgeliadau personol sensitif neu ddisgwyliadau o ran agosatrwydd corfforol.
- Bod yn wyliadwrus i'r risg o ymddygiad niweidiol: Dylai darlledwyr fod yn ymwybodol i'r risg arbennig y gall sefydlu perthnasoedd "newydd" arwain at ymddygiadau niweidiol ymhlith cyfranogwyr – er enghraifft, camymddwyn rhywiol neu reolaeth orfodol. Gall hyn gfod yn ddwysach mewn fformatau lle mae elfen gystadleuol sy’n annog cyfranogwyr i ffurfio a chynnal partneriaeth. Anogir gwiriadau cefndir priodol ymlaen llaw i nodi ymddygiadau a allai roi cyfranogwyr eraill mewn perygl. Dylid darparu gwybodaeth glir a hygyrch i gyfranogwyr hefyd am ddisgwyliadau ynghylch eu hymddygiad yn ystod y cynhyrchiad.
- Gallai fod angen rhoi mesurau i gefnogi lles ar waith yn ystod ac yn dilyn cynhyrchiad sydd mewn fformatiau lle mae’r risg yn uwch: Gallai mesurau cynnwys: mynediad at dimau lles y gellir eu hadnabod yn glir ac sydd wedi'u hyfforddi'n briodol a’r rheiny’n annibynnol ar y staff golygyddol; arbenigwyr lles allanol a gwasanaethau cymorth arbenigol; cyfleoedd i gyfranwyr gysylltu â theulu a ffrindiau y tu allan i’r gwaith ffilmio. Dylid ystyried darparu pwynt cyswllt pwrpasol am gyfnod rhesymol ar ôl i’r rhaglen gael ei darlledu i helpu i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon lles parhaus.
- Cydsyniad fel proses barhaus: Dylai darlledwyr ailymweld â chydsyniad gwybodus cyfranwyr lle mae amgylchiadau'n newid yn ystod y cynhyrchiad – er enghraifft, yn dilyn gwrthdaro, sefyllfaoedd heriol emosiynol, sefyllfaeoedd sy’n peri mwy o bryder neu agosatrwydd corfforol.
- Gweithdrefnau adrodd a chyfeirio clir ar gyfer pryderon lles: Dylai cwmnïau cynhyrchu a darlledwyr fod wedi diffinio llwybrau ar gyfer ymdrin â phryderon lles, gan gynnwys atgyfeiriadau at awdurdodau allanol lle mae honiadau difrifol yn codi. Dylid cadw cofnodion cynhwysfawr o ddigwyddiadau lles, adroddiadau o niwed ac unrhyw gamau a gymerwyd, gan helpu i nodi patrymau ymddygiad a llywio penderfyniadau yn y dyfodol. Dylid hysbysu cyfranogwyr hefyd am eu hawl i gwyno i Ofcom ar ôl darlledu.
Mae ein canllawiau cryfach yn ystyried argymhellion, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn dilyn adolygiadau allanol a gomisiynwyd gan Channel 4 i Married at First Sight UK, a ysgogwyd gan honiadau a godwyd yn rhaglen Panorama y BBC yn gynharach eleni.
Byddwn yn parhau i weithio gyda’r diwydiant a sefydliadau perthnasol fel Awdurdod Safonau Annibynnol y Diwydiannau Creadigol (CIISA), sef awdurdod safonau annibynnol y DU a gefnogir gan y diwydiant a gynlluniwyd i ddiogelu gweithwyr a chynnal safonau proffesiynol ar draws y sector creadigol.
Dywedodd Cristina Nicolotti Squires, Cyfarwyddwr Grŵp Darlledu a Chyfryngau Ofcom: "Mae miliynau o wylwyr yn mwynhau sioeau realiti wedi'i lunio, ond mae'n hanfodol i ddarlledwyr sicrhau bod mesurau diogelu priodol ar waith i ddiogelu’r bobl sy'n cymryd rhan.
"Bydd ein canllawiau cryfach yn helpu i sicrhau bod y risgiau posibl i les cyfranogwyr yn cael eu hystyried, a bod gwneuthurwyr rhaglenni yn mynd i’r afael â nhw – cyn, yn ystod ac ar ôl cynhyrchu."
Cynnwys cysylltiedig