Ar agor
Darparwr Im.ge
10 Mehefin 2025
Rydym yn ymchwilio i weld a yw darparwr Im.ge wedi methu/yn methu cydymffurfio â’i ddyletswyddau o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 i wneud y canlynol:
- ymateb i gais statudol am wybodaeth;
- cwblhau asesiad risg cynnwys anghyfreithlon addas a digonol;
- gwneud a chadw cofnod o’r asesiad hwn; a
- chydymffurfio â’r dyletswyddau diogelwch ynghylch cynnwys anghyfreithlon sy’n berthnasol i wasanaethau defnyddwyr i ddefnyddwyr sy’n cael eu rheoleiddio.
Adrannau 9, 10, 23 a 102(8) o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023.
Penderfyniad Dros Dro: Dyletswyddau Asesu Risg
Yn unol ag adran 130 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023, rydym heddiw wedi cyhoeddi hysbysiad tramgwyddo dros dro i'r darparwr Im.ge.
Mae Ofcom o'r farn bod sail resymol dros gredu bod darparwr y gwasanaeth Im.ge wedi torri ei ddyletswyddau o dan adran 9(2) i gynnal asesiad risg cynnwys anghyfreithlon addas a digonol. Mae Ofcom yn bwriadu arfer ei bwerau o dan adran 134 o'r Ddeddf sy'n caniatáu i Ofcom benderfynu ar ganlyniad asesiad risg mewn amgylchiadau penodol. Yn yr achos hwn, rydym yn bwriadu cynnwys penderfyniad mewn perthynas â'r risg a nodwyd bod adran 10(2)(b) ac (c) o'r Ddeddf yn berthnasol fel pe bai'r Gwasanaeth Im.ge wedi cynnal asesiad risg cynnwys anghyfreithlon ac wedi nodi ei fod yn risg uchel o CSAM seiliedig ar ddelweddau.
Byddwn yn ystyried unrhyw sylwadau a ddarperir mewn ymateb i'r hysbysiad tramgwyddo dros dro hwn cyn i ni wneud penderfyniad terfynol ar y mater hwn.
Gwybodaeth ychwanegol yn ymwneud â'r ymchwiliad hwn
Ar 15 Ionawr 2026, cyhoeddodd Ofcom fersiwn nad yw'n gyfrinachol o'r Penderfyniad Cadarnhau a gyhoeddwyd i ddarparwr y Gwasanaeth Im.ge, mewn perthynas â'i fethiant i gydymffurfio â dau gais statudol am wybodaeth. Gosododd y Penderfyniad Cadarnhau, a gyhoeddwyd i ddarparwr y Gwasanaeth Im.ge ar 17 Rhagfyr 2025, ddirwy o £20,000 ar ddarparwr y Gwasanaeth Im.ge mewn perthynas â'r ddau doriad rheolau.
Mae ymchwiliad Ofcom yn parhau i archwilio a oes sail resymol i gredu bod darparwr Im.ge wedi methu, neu yn methu, â chydymffurfio â'i ddyletswyddau i ddiogelu ei ddefnyddwyr rhag cynnwys anghyfreithlon. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y materion hyn maes o law.
Penderfyniad Cadarnhau: Fersiwn nad yw'n gyfrinachol
Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi fersiwn nad yw'n gyfrinachol o'r Penderfyniad Cadarnhau a gyhoeddwyd i ddarparwr y Gwasanaeth Im.ge ar 17 Rhagfyr 2025 mewn perthynas â'i fethiant i gydymffurfio â dau hysbysiad gwybodaeth o dan adran 102(8)(a) o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 ('y Ddeddf'). Rydym hefyd yn cyhoeddi'r ceisiadau am wybodaeth gyntaf a'r ail y cyfeirir atynt yn y penderfyniad hwn.
Penderfyniad Cadarnhau: Dyletswyddau Hysbysiad Gwybodaeth
Yn unol ag adran 132 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 (‘y Ddeddf’), rydym heddiw wedi cyhoeddi Penderfyniad Cadarnhau i ddarparwr Gwasanaeth Im.ge mewn perthynas â'i fethiant i gydymffurfio â dau gais am wybodaeth statudol.
Mae Ofcom wedi penderfynu bod darparwr y Gwasanaeth Im.ge wedi torri ei ddyletswydd o dan adran 102(8)(a) o'r Ddeddf i gydymffurfio â chais statudol am wybodaeth, a hynny ar ddau achlysur gwahanol.
Rydym yn gosod cosb benodedig o £20,000 ar ddarparwr y Gwasanaeth Im.ge mewn perthynas â'r ddau achos o dorri’r rheolau. Gosodwyd y gosb hon gan roi sylw i’n Canllawiau Cosb.
Yn ogystal, mae'n ofynnol i wasanaeth Im.ge gymryd camau ar unwaith i gydymffurfio ag adran 102(8) drwy ddarparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani mewn dau gais am wybodaeth statudol, a oedd yn cynnwys y canlynol:
- copi o gofnod yr Asesiad Risg o ran Cynnwys Anghyfreithlon mewn perthynas â'r gwasanaeth;
- gwybodaeth sy'n ymwneud â'i refeniw byd-eang cymwys.
Os bydd y diffyg cydymffurfio yn parhau, bydd cosb ddyddiol o £100 y dydd yn cael ei gosod gan ddechrau o'r diwrnod ar ôl dyddiad y Penderfyniad Cadarnhau, a hynny am naill ai 60 diwrnod neu hyd nes y bydd darparwr y Gwasanaeth Im.ge yn darparu'r wybodaeth y gofynnir amdani yn y ddau gais am wybodaeth statudol i Ofcom (pa un bynnag sydd gyntaf).
Bydd fersiwn nad yw'n gyfrinachol o'r Penderfyniad Cadarnhau yn cael ei gyhoeddi maes o law.
Mae ymchwiliad Ofcom i gydymffurfiaeth Gwasanaeth Im.ge â'i ddyletswyddau i gwblhau a chadw cofnod o asesiad risg o ran cynnwys anghyfreithlon sy’n addas ac yn ddigonol, a'i gydymffurfiaeth â'r dyletswyddau cynnwys anghyfreithlon mewn perthynas â CSAM yn parhau. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y materion hyn maes o law.
Penderfyniad Dros Dro: Dyletswyddau Hysbysiad Gwybodaeth
Yn unol ag adran 130 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023, rydym heddiw wedi cyhoeddi hysbysiad dros dro o dorri rheolau i ddarparwr Im.ge.
Mae Ofcom o'r farn bod sail resymol dros gredu bod darparwr y gwasanaeth hwn wedi torri ei ddyletswyddau o dan adran 102(8) o'r Ddeddf i gydymffurfio â dau gais am wybodaeth. Byddwn yn ystyried unrhyw sylwadau a ddarperir mewn ymateb i'r hysbysiad dros dro hwn cyn i ni wneud penderfyniad terfynol ar y mater.
Y dyletswyddau ychwanegol dan ymchwiliad
Mae ymchwiliad Ofcom yn parhau i archwilio ar yr un pryd a oes sail resymol i gredu bod darparwr Im.ge wedi methu, neu'n methu, â chydymffurfio â'r dyletswyddau eraill sy'n cael eu hymchwilio, gan gynnwys dyletswyddau i gwblhau a chadw cofnod o asesiad risg cynnwys anghyfreithlon addas a digonol a diogelu ei ddefnyddwyr rhag cynnwys anghyfreithlon. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y materion hyn maes o law.
Cefndir
Mae Rhan 3 o’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein (‘y Ddeddf’) yn gosod ‘Dyletswyddau Cynnwys Anghyfreithlon’ ar ddarparwyr gwasanaethau defnyddwyr i ddefnyddwyr (‘U2U’) sy’n cael eu rheoleiddio. Mae'r rhain yn mynnu bod pob gwasanaeth chwilio a defnyddiwr i ddefnyddiwr sydd o fewn cwmpas y Ddeddf yn cynnal asesiad risg cynnwys anghyfreithlon erbyn 16 Mawrth 2025.
Yn ogystal, mae Rhan 3 o’r Ddeddf yn rhoi dyletswyddau ar ddarparwyr gwasanaethau defnyddiwr i ddefnyddiwr sy’n cael eu rheoleiddio i ddefnyddio mesurau cymesur er mwyn sicrhau’r canlynol:
- atal unigolion rhag dod ar draws cynnwys anghyfreithlon â blaenoriaeth – gan gynnwys CSAM – drwy’r gwasanaeth; a
- lliniaru a rheoli’n effeithiol y risg y bydd y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio ar gyfer troseddau â blaenoriaeth neu niwed i unigolion sy’n deillio o’r gwasanaeth fel y nodwyd yn yr ‘Asesiad Risg Cynnwys Anghyfreithlon’ diweddaraf;
Rhaid iddynt hefyd roi systemau a phrosesau ar waith sydd wedi’u dylunio i leihau’r amser y mae unrhyw gynnwys anghyfreithlon â blaenoriaeth yn bresennol a’i dynnu i lawr yn gyflym pan fyddant yn ymwybodol o’i bresenoldeb.
Gall darparwyr gwasanaethau defnyddiwr i ddefnyddiwr sy’n cael eu rheoleiddio gydymffurfio â’r Dyletswyddau Cynnwys Anghyfreithlon drwy roi camau ar waith sy’n cael eu hargymell yng Nghodau Ymarfer Ofcom ar gynnwys anghyfreithlon ar gyfer gwasanaethau defnyddiwr i ddefnyddiwr a gyhoeddwyd ar 24 Chwefror 2025 (y ‘Codau Ymarfer’), neu drwy fesurau amgen.
Daeth y dyletswyddau hyn i rym ar 17 Mawrth 2025.
Rhaglen orfodi
Ar 17 Mawrth 2025 agorodd Ofcom raglen orfodi i asesu’r mesurau sy’n cael eu cymryd gan ddarparwyr gwasanaethau rhannu ffeiliau a storio ffeiliau i sicrhau nad yw defnyddwyr yn dod ar draws deunydd cam-drin plant yn rhywiol sy’n ddelweddau (CSAM), ac nad yw troseddwyr yn gallu rhannu deunydd o’r fath.
Fel rhan o’r rhaglen orfodi hon, ar 1 Ebrill 2025 anfonodd Ofcom hysbysiad gwybodaeth statudol a gyhoeddwyd o dan adran 100 o’r Ddeddf (yr ‘Hysbysiad’) at ddarparwyr nifer o wasanaethau rhannu ffeiliau a storio ffeiliau yr ymddengys eu bod yn peri risgiau penodol o niwed i ddefnyddwyr y DU o CSAM. Roedd yr Hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i’r derbynwyr ddarparu’r canlynol erbyn 1 Mai 2025 fan bellaf:
- gwybodaeth i asesu a ydynt o fewn cwmpas y Ddeddf ac, os felly, y mesurau sydd ganddynt ar waith, a/neu a fydd ar waith ganddynt cyn bo hir, i ganfod, asesu a dileu CSAM seiliedig ar ddelweddau sy’n hysbys; a
- cofnod o’u hasesiadau risg cynnwys anghyfreithlon.
Darparwr llwyfan Im.ge oedd un o’r darparwyr hynny. Hyd heddiw, nid yw wedi ymateb i’r Hysbysiad nac wedi darparu cofnod o’i asesiad risg cynnwys anghyfreithlon.
Ymchwiliadau
Heddiw, 10 Mehefin 2025, mae Ofcom wedi agor ymchwiliad i ddarparwr Im.ge i weld a yw wedi:
- cydymffurfio â'i ddyletswyddau i weithredu yn unol â gofynion yr Hysbysiad ac adran 102(8) o'r Ddeddf;
- cydymffurfio â’i ddyletswyddau i gwblhau asesiad risg cynnwys anghyfreithlon yn unol ag adrannau 9 a 23 o’r Ddeddf a chadw cofnod ohono; a
- cydymffurfio â’r dyletswyddau cynnwys anghyfreithlon mewn perthynas â CSAM yn unol ag adran 10 o’r Ddeddf drwy weithredu mesurau a argymhellir yn y Codau Ymarfer neu drwy fesurau eraill.
Mae Canllawiau Gorfodi Diogelwch Ar-lein Ofcom yn amlinellu dull arferol Ofcom o orfodi o dan y Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys ein dull o gasglu a dadansoddi gwybodaeth a’r camau gweithdrefnol y mae’n rhaid i ni eu cymryd i benderfynu’n deg ar ganlyniad yr ymchwiliad.
Pan fyddwn yn canfod methiannau cydymffurfio, gallwn osod dirwyon o hyd at £18 miliwn neu 10% o refeniw byd-eang cymwys (pa un bynnag sydd fwyaf). Yn yr achosion mwyaf difrifol o beidio â chydymffurfio, a lle bo’n briodol o ystyried y risg o niwed i unigolion yn y Deyrnas Unedig, gallwn ofyn am orchymyn llys i fynnu bod trydydd partïon yn cymryd camau i darfu ar fusnes y darparwr. Gall hyn ei gwneud yn ofynnol i drydydd partïon (fel darparwyr gwasanaethau talu neu hysbysebu, neu Ddarparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd) dynnu gwasanaethau o wasanaeth rheoledig yn y Deyrnas Unedig, neu rwystro mynediad ato.
Byddwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad hwn maes o law.
Y Tîm gorfodi (csam.programme@ofcom.org.uk)
CW/01300/06/25