
Heddiw, mae Ofcom wedi ysgrifennu at ddarparwyr gwasanaethau ar-lein sy'n gweithredu yn y DU am y risg gynyddol y bydd eu platfformau’n cael eu defnyddio i ennyn casineb, i ysgogi trais ac i gyflawni troseddau eraill o dan gyfraith y DU, yng nghyd-destun yr aflonyddwch sifil diweddar yn Belfast.
Mae gan ddarparwyr ddyletswyddau o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein y DU i ddiogelu pobl yn y DU rhag cynnwys anghyfreithlon, a gwaith Ofcom yw sicrhau bod gan wefannau ac apiau fesurau priodol ar waith i gydymffurfio â'r dyletswyddau hyn, yn hytrach na dweud wrth blatfformau pa gyfrifon neu bostiadau penodol i'w tynnu i lawr.
Dyma'r llythyr yn llawn:
I ddarparwyr gwasanaeth ar-lein sy'n gweithredu yn y Deyrnas Unedig,
Yn dilyn ymosodiad difrifol â chyllell a ddigwyddodd ym Melfast nos Lun, rydym wedi gweld aflonyddwch sifil yn y ddinas, ac mae'n ymddangos bod rhywfaint ohono wedi'i ysgogi ar-lein. Mae hyn wedi cynnwys achosion o drais â chymhelliant hiliol, ymosodiadau bwriadol ar gartrefi a cherbydau, ac ymosodiadau ar yr heddlu.
Yn y cyd-destun hwn, rydym yn atgoffa darparwyr gwasanaethau ar-lein o'u dyletswyddau o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein y DU 2023 i asesu a lliniaru'r risgiau o weithgarwch anghyfreithlon ar eu gwefannau a'u apiau. Gall hyn gynnwys deunydd sy'n gyfystyr â throseddau o ysgogi casineb neu ysgogi trais.
Gweithredu yn ystod argyfwng
Rydym yn monitro'r sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon yn agos, gan gynnwys rôl cynnwys a gynhelir ar wasanaethau rheoleiddiedig. Rydym eisoes yn cysylltu â darparwyr unigol lle rydym o’r farn bod risgiau penodol ynghylch cynnwys anghyfreithlon sy'n ymwneud â'r aflonyddwch sifil.
Mae argyfyngau blaenorol wedi dangos sut y gall cynnydd sydyn mewn cynnwys anghyfreithlon ar-lein amlygu’i hun ar ffurftroseddau casineb a thrais yn y byd go iawn. Nid yw argyfyngau o'r fath yn gyffredin, ac mae hyn yn golygu efallai na fydd systemau a phrosesau cymedroli cynnwys arferol darparwyr gwasanaeth ar-lein yn ddigonol mewn amgylchiadau o'r fath. Dyna pam mae'n bwysig bod gan ddarparwyr gwasanaeth gynlluniau ar gyfer delio â sefyllfaoedd argyfwng a, lle bo'n berthnasol, eu rhoi ar waith.
Ddoe, gwnaethom gadarnhau mesurau newydd i'w hychwanegu at ein codau ymarfer diogelwch ar-lein, lle dylai gwasanaethau gael gweithdrefnau ar waith i ymateb i gynnydd mewn cynnwys anghyfreithlon yn ystod argyfwng. Bydd angen i Senedd y DU ddod â'r mesurau hyn i rym ond ni ddylech aros am y cam gweithdrefnol hwn cyn rhoi’r mesurau newydd ar waith. Gan fod hon yn sefyllfa frys, rydym yn disgwyl i chi weithredu ar unwaith i fynd i'r afael â chynnwys anghyfreithlon, ac os oes gennych brotocolau presennol eisoes, dylech eu dilyn.
Eich cyfrifoldebau i ddiogelu pobl yn y DU rhag cynnwys anghyfreithlon
O dan gyfreithiau'r DU, mae'n ofynnol i chi weithredu'n gyflym i gael gwared ar gynnwys anghyfreithlon pan fyddwch chi'n dod yn ymwybodol ohono. Gall cwmnïau ddefnyddio ein canllawiau i’w helpu i ddod i benderfyniad a yw cynnwys neu weithgaredd yn anghyfreithlon.
Mae'n ofynnol i chi hefyd gymryd camau priodol i leihau'r risg y bydd cynnwys anghyfreithlon yn ymddangos, ac mae ein codau ymarfer yn cynnwys darpariaethau i sicrhau bod gan gwefannau ac apiau:
- prosesau adrodd a chwynion i ddefnyddwyr am gynnwys anghyfreithlon sy'n hawdd ei ddarganfod, ei gyrchu a'i ddefnyddio;
- timau cymedroli cynnwys sydd ag adnoddau digonol ac sydd wedi'u hyfforddi i ddelio â chynnwys anghyfreithlon, a all ddiwallu'r cynnydd yn y galw a achosir gan ddigwyddiadau allanol;
- systemau i dynnu cynnwys anghyfreithlon i lawr yn gyflym, gyda pholisïau blaenoriaethu ar gyfer cymedroli sy'n ystyried natur firaol bosibl a difrifoldeb cynnwys.
Fel gyda'n holl waith, mae ein mesurau a'n canllawiau cod yn cydnabod pwysigrwydd diogelu’r hawl i rhyddid mynegiant a pharchu'r hawl i brotestio’n heddychlon.
Rydym yn craffu'n fanwl ar yr hyn y mae platfformau yn ei wneud i gydymffurfio â'u dyletswyddau, gan gynnwys effeithiolrwydd eu systemau cymedroli cynnwys. Rydym eisoes wedi cymryd camau yn erbyn ystod o blatfformau ac mae gennym raglen gydymffurfio bwrpasol i fynd i'r afael â chasineb a therfysgaeth anghyfreithlon ar wasanaethau mawr. Ni fyddwn yn oedi cyn cymryd camau pellach i wasanaethau sy'n methu â chyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein i ddiogelu pobl yn y DU rhag niwed.
Yn gywir,
Oliver Griffiths
Cyfarwyddwr Grŵp Ofcom ar gyfer Diogelwch Ar-lein