Datganiad ar Brotocolau Ymateb i Argyfwng

Cyhoeddwyd: 9 Mehefin 2026

Mae Ofcom yn cyhoeddi datganiad sy'n nodi mesurau newydd i'w cynnwys yng Nghodau Ymarfer Cynnwys Anghyfreithlon a Diogelu Plant i ymateb i ddigwyddiad argyfwng.

Mae'r datganiad hwn yn nodi ein penderfyniad i argymell y dylai darparwyr gwasanaeth baratoi a chymhwyso protocol argyfwng i liniaru a rheoli'r risgiau sy'n deillio o gynnydd sylweddol mewn cynnwys anghyfreithlon perthnasol a/neu gynnwys sy'n niweidiol i blant ar eu gwasanaethau. Dylai darparwyr gwasanaeth hefyd gael sianel gyfathrebu bwrpasol lle gall asiantaethau gorfodi'r gyfraith gysylltu â nhw ar faterion sy'n gysylltiedig ag argyfwng yn ystod argyfwng. 

Rydym wedi diffinio argyfwng fel "sefyllfa eithriadol lle mae bygythiad difrifol i ddiogelwch y cyhoedd yn y Deyrnas Unedig", sy'n debygol iawn o fod wedi deillio o gynnydd sylweddol mewn cynnwys perthnasol. Yn ystod argyfwng, gall rhai mathau o gynnwys anghyfreithlon a/neu gynnwys sy'n niweidiol i blant ledaenu'n gyflym ar-lein. Mewn rhai achosion, gall hyn greu risg sylweddol i ddiogelwch y cyhoedd yn y Deyrnas Unedig.

Er enghraifft, mae tystiolaeth o ddigwyddiadau argyfwng blaenorol yn dangos sut mae'r troseddwyr yn defnyddio gwasanaethau ar-lein i gyflawni gweithgareddau anghyfreithlon, fel  annog casineb hiliol neu grefyddol, gwneud bygythiadau, neu annog trais. Gall hyn arwain at gynnydd yn y cynnwys anghyfreithlon sy'n cylchredeg ar-lein ond gall hefyd amlygu ei hun mewn trais yn y byd go iawn.

Mae argyfyngau o'r fath yn eithriadol, ac mae hyn yn golygu efallai nad yw systemau a phrosesau cymedroli cynnwys arferol darparwyr gwasanaeth ar-lein yn ddigonol mewn amgylchiadau o'r fath.

Ym mis Mehefin 2025, gwnaethom ymgynghori ar nifer o fesurau diogelwch ychwanegol, gan gynnwys mesur a argymhellodd y dylai rhai darparwyr gwasanaeth sefydlu protocol ymateb i argyfwng. Rydym wedi ystyried yr holl adborth gan randdeiliaid perthnasol yn ofalus ac wedi penderfynu cadarnhau'r argymhelliad hwn ond bellach wedi'i rannu'n ddau fesur.

Mae ein mesur cyntaf yn argymell y dylai darparwyr gwasanaeth baratoi a chymhwyso protocol argyfwng i liniaru a rheoli'r risgiau sy'n deillio o gynnydd sylweddol mewn cynnwys anghyfreithlon perthnasol a/neu gynnwys sy'n niweidiol i blant ar eu gwasanaethau. Mae'r ail fesur yn argymell bod gan ddarparwyr gwasanaeth sianel gyfathrebu bwrpasol lle gall asiantaethau gorfodi'r gyfraith gysylltu â nhw ar faterion sy'n gysylltiedig ag argyfwng yn ystod argyfwng. Bwriad y mesurau yw sicrhau bod darparwyr gwasanaeth o fewn cwmpas yn gallu gweithredu'n brydlon ac yn effeithiol yn ystod argyfwng. Byddant yn helpu i sicrhau bod gan ddarparwyr gwasanaeth systemau a phrosesau priodol ar waith i alluogi gweithredu cyflym a chydgysylltiedig pan fydd argyfwng yn dod i'r amlwg.