
Rhaid i wefannau ac apiau gyflwyno mesurau mwy cadarn i fynd i'r afael â deunydd cam-drin plant yn rhywiol (CSAM), o dan reolau Newydd wedi’u cryfhau a chyhoeddwyd heddiw gan Ofcom.
Mae eisoes yn ofynnol i blatfformau, o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, asesu'r risg y bydd CSAM yn ymddangos ar eu gwasanaeth a chymryd camau cymesur i fynd i'r afael ag ef. Gallai hyn, er enghraifft, gynnwys cymedroli cynnwys, prosesau adrodd a thynnu cynnwys i lawr, ac, mewn rhai achosion, defnyddio technoleg i nodi a dileu CSAM hysbys.
Ond o ystyried graddfa deunydd cam-drin plant yn rhywiol ar-lein sydd wedi'i wneud yn sylweddol waeth gan AI a'i effaith wirioneddol ddinistriol ar ddioddefwyr, rydym yn gofyn i blatfformau fynd ymhellach. [1]
Yn dilyn ymgynghoriad ar ddyletswyddau ychwanegol ar gyfer safleoedd ac apiau, rydym heddiw yn nodi pecyn newydd pellgyrhaeddol o fesurau i sicrhau bod cwmnïau yn delio’n bendant â CSAM.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- gwahardd defnyddwyr sy'n cynhyrchu, uwchlwytho neu rannu cynnwys camfanteisio'n rhywiol a cham-drin plant;
- defnyddio dull 'paru hash' – sef dull o ganfod – i ddod o hyd i CSAM hysbys a’i ddileu ar nifer fwy o safleoedd ac apiau, gan gynnwys safleoedd pornograffi; a
- defnyddio offer awtomataidd i ddarganfod a dileu CSAM anhysbys yn rhagweithiol ar blatfformau penodol, gan gynnwys yr holl wasanaethau rhannu ffeiliau a'r cyfryngau cymdeithasol mwyaf.
Yn amodol ar y broses seneddol, rydym yn disgwyl i'r dyletswyddau newydd hyn ddod i rym o ddechrau 2027.
Codi safonau i leihau niwed i blant
Ochr yn ochr â'r mesurau hyn, rydym yn gosod safonau newydd trylwyr i sicrhau bod rheolau meithrin perthynas amhriodol presennol yn cael eu gweithredu'n gynhwysfawr, fel bod yr holl gyfrifon gan blant yn cael eu diogelu yn ddiofyn. [2]
Ar wahân, rydym hefyd yn gwneud i rai platfformau gael gafael gadarn ar eu halgorithmau. Rydym yn gofyn i wasanaethau gymryd mwy o ragofalon cyn argymell cynnwys i blant, er mwyn helpu i osgoi eu bod yn agored i ddeunydd anghyfreithlon.
Daw'r cyhoeddiad heddiw hefyd wrth i Ofcom baratoi ar gyfer gwaharddiad cyfryngau cymdeithasol y DU y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn golygu na fydd plant dan 16 oed bellach yn cael eu caniatáu ar blatfformau penodol, yn unol â'r meini prawf a fydd yn cael eu gosod gan y Llywodraeth.
Felly, nid ydym yn bwrw ymlaen â rhai mesurau a wnaethom eu harchwilio yn ein hymgynghoriad llynedd – yn benodol, rheolau ynghylch ffrydio byw plant – gan y bydd llawer o wefannau ac apiau yn fuan yn ofynnol yn ôl y gyfraith i ddefnyddio gwiriadau oedran i atal pobl dan 16 oed rhag cael mynediad i'w gwasanaeth.
Bydd y gwaharddiad yn chwarae rhan bwysig wrth helpu i gadw plant yn y DU yn ddiogel, gan gynnwys rhag cam-drin a chamfanteisio, ac rydym yn barod i'w orfodi cyn gynted ag y bydd yn dod i rym.
Mynd ymhellach ac yn gyflymach i wrthsefyll cynnwys troseddol
Yn ogystal â gweithredu i ddileu CSAM, rydym heddiw yn darparu diweddariadau ar fesurau eraill y gwnaethom ymgynghori arnynt llynedd. Lle gallwn, rydym yn mynd yn gyflymach nag a gynigwyd gennym yn wreiddiol.
Llynedd, gwnaethom gynnig y dylai blatfformau ddefnyddio dull 'paru hash' i ganfod ac atal rhannu delweddau personol hysbys yn anghyfreithlon. Gwnaethom gyhoeddi y penderfyniad hwn ym mis Mai, a heddiw rydym yn gosod gofynion newydd ar gyfer gwasanaethau perthnasol i ddefnyddio'r un dulliau i ddod o hyd i a dileu cynnwys terfysgol hysbys.
Gwnaethom hefyd gynnig y llynedd y dylai rhai gwasanaethau asesu'r rôl y gall offer awtomataidd ei chwarae wrth ddod o hyd i fathau eraill o gynnwys anghyfreithlon heb ei ganfod o'r blaen.
Ond, ar ôl parhau i archwilio y maes technoleg gyflym hwn yn fanwl ac, myfyrio ar y ffordd orau ymlaen, rydym nawr eisiau mynd gam ymhellach.
Yn lle bod platfformau yn hunanasesu a allai offer awtomataidd fod yn briodol i fynd i'r afael â mwy o gynnwys anghyfreithlon, fel y cynigiwyd yn wreiddiol, rydym am eu cyfarwyddo i fabwysiadu mathau penodol o dechnoleg yr ydym yn ystyried a fydd fwyaf effeithiol.
Er y byddwn yn ymgynghori ar ddull llymach – y byddwn yn ei wneud erbyn y Gwanwyn y flwyddyn nesaf – byddai ein cynigion newydd yn lleihau'r angen i blatfformau gynnal asesiadau hir ac yn hytrach yn gyflym gyflwyno offer awtomataidd.
Dywedodd Oliver Griffiths, Cyfarwyddwr Grŵp Diogelwch Ar-lein Ofcom: "Er ein bod wedi gweld rhywfaint o gynnydd gan y diwydiant o ran mynd i'r afael â cham-drin plant yn rhywiol ar eu platfformau, nid ydym yn fodlon bod digon yn cael ei wneud.
"Mae ein rheolau newydd cadarn a gyhoeddwyd heddiw yn gosod dyletswyddau cyfreithiol ychwanegol pwysig ar gwmnïau. A byddwn yn parhau i wthio platfformau i wneud mwy i atal, canfod a dileu'r deunydd ffiaidd hwn, adrodd am droseddwyr, a'u cau allan am byth.
"Dyma’r amser i ddiwydiant gamu i fyny – a dylai unrhyw gwmni nad yw’n gwneud hyn ddisgwyl wynebu canlyniadau difrifol".
Dywedodd Rani Govender, Pennaeth Diogelwch Plant Ar-lein NSPCC: "Rydym yn croesawu mesurau newydd Ofcom sy'n annog platfformau i fynd ymhellach i atal ac amharu ar ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol rhag cael ei gynnal a'i rannu ar-lein.
"Mae ein dadansoddiad o ddata'r heddlu yn dangos bod cyfartaledd o 100 o droseddau delweddau cam-drin plant yn rhywiol yn digwydd ledled y DU bob dydd, gyda'r cynnwys anghyfreithlon yn aml yn cael ei gynhyrchu o ganlyniad i feithrin perthynas amhriodol, gorfodi, a chamfanteisio. Gall y troseddau hyn gael effaith ddinistriol ar iechyd a lles person ifanc, gyda'r effaith weithiau'n ymestyn dros nifer o flynyddoedd.
"Rhaid i gwmnïau technoleg orfodi'r rheolau hyn yn gyflym ac yn gadarn, gan gymryd pob cam posibl i atal deunydd cam-drin plant yn rhywiol rhag ymddangos a lledaenu ar eu platfformau. Lle maent yn methu, rhaid i Ofcom beidio ag oedi cyn defnyddio pob offeryn sydd ar gael iddo i'w dwyn i gyfrif."
Dywedodd Hannah Swirsky, Pennaeth Polisi yn yr Internet Watch Foundation: "Rydym yn falch bod tystiolaeth a mewnwelediadau’r IWF wedi helpu i lunio’r codau newydd hyn, ac rydym yn falch y bydd dyletswyddau canfod cryfach a gofynion ehangach o ran paru hash yn enwedig ar gyfer gwasanaethau pornograffi.
"Mae paru hash yn ddull profedig a dibynadwy o ganfod deunydd sy’n ymwneud â cham-drin plant yn rhywiol; po fwyaf o wefannau sy’n defnyddio’r amddiffyniad hwn, gorau oll. Ni ellir gorbwysleisio’r niwed a achosir gan ledaeniad byd-eang y deunydd hwn. Ac i’r dioddefwyr, mae gwybod y gellir o’r diwedd atal rhannu deunydd sy’n dangos eu cam-drin rhywiol ar fwy o blatfformau yn ffordd o oroesi.
"Mae mwy o waith i’w wneud, ond mae’r mesurau hyn yn dangos bod y rhwyd yn tynhau, a bydd llai o leoedd i guddio."
Nodiadau i Olygyddion
- Mae ymchwil gan y Internet Watch Foundation wedi canfod cynnydd blynyddol o 26,385% mewn fideos cam-drin plant yn rhywiol a gynhyrchir gan AI ar-lein. Ffynhonnell: Adroddiad AI CSAM 2026
- Rhaid i safleoedd ac apiau sydd o fewn cwmpas y Codau Diogelu Plant gan systemau a phrosesau ar waith i liniaru'r risg o blant yn meithrin perthynas amhriodol ar eu gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, atal cyfrifon sy'n cael eu dal gan blant rhag cysylltu â dieithriaid. Rydym bellach yn gofyn i wasanaethau gyda'r dyletswyddau hyn naill ai: gyflwyno gwiriadau oedran hynod effeithiol fel eu bod yn gwybod a oes angen yr amddiffyniadau hyn ar gyfrif, neu gyflwyno'r amddiffyniadau hyn i bob defnyddiwr ar eu gwasanaeth.
Cynnwys cysylltiedig