Mae'r ymgynghoriad hwn yn nodi cynigion diweddaraf Ofcom i gryfhau ein Codau Ymarfer ar gyfer darparwyr gwasanaethau ar-lein, fel rhan o'n rôl o dan Deddf Diogelwch Ar-lein 2023.
Rydym eisoes wedi cyflwyno ein set gyntaf o godau ar niwed anghyfreithlon, a bydd ein cod Diogelu Plant yn dod i rym ym mis Gorffennaf 2025. Gan adeiladu ar y gwaith hwn, rydym bellach yn ymgynghori ar set arall o fesurau diogelwch wedi'u targedu sydd wedi'u cynllunio i wneud gwasanaethau ar-lein yn fwy diogel trwy ddyluniad.
Mae'r cynigion hyn yn ymateb i alwadau rhanddeiliaid am weithredu cryfach ar risgiau hysbys ac maent yn rhan o ymrwymiad parhaus Ofcom i weithredu'n gyflym ac yn gymesur wrth gyflawni'r drefn ddiogelwch ar-lein, fel rhan o'n 'Blwyddyn Gweithredu'.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn nodi ein cynigion ar draws sawl maes, gan gynnwys:
Atal cynnwys anghyfreithlon rhag mynd yn firaol:
Rydym am leihau’r cynnwys anghyfreithlon sy’n lledaenu trwy wneud gwelliannau i systemau argymell a phrotocolau ymateb i argyfwng.
Mynd i'r afael â niwed yn y ffynhonnell:
Rydym yn cynnig y defnydd estynedig o dechnolegau rhagweithiol, megis paru hash i flocio delweddau anghyfreithlon hysbys, ac offer awtomataidd i ganfod niwed fel twyll, a chynnwys hunanladdiad anghyfreithlon. Rydym hefyd yn cynnig mynd i'r afael â throseddau ailadroddus trwy sancsiynau defnyddwyr newydd.
Diogelu plant:
- Cryfhau mesurau diogelu plant, gan gynnwys cyfyngiadau ar ryngweithio mewn ffrydiau byw a gwneud mwy o ddefnydd o sicrwydd oedran hynod effeithiol
- Argymell bod gwasanaethau yn rhwystro mynediad i ddefnyddwyr sy'n rhannu deunydd cam-drin plant yn rhywiol (CSAM)
- Argymell defnyddio technolegau rhagweithiol i ganfod achosion o feithrin perthynas amhriodol ar-lein a CSAM.
Rydym yn ceisio barn gan ystod eang o randdeiliaid – gan gynnwys darparwyr gwasanaethau, cymdeithas sifil, y gyfraith, ac aelodau o'r cyhoedd – i helpu i lunio fersiynau terfynol ein codau ymarfer.
Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 20 Hydref 2025 ac mae manylion ar sut i ymateb wedi'u nodi yn Atodiad 1-5.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses ymgynghori, cysylltwch â ni ASMconsultation@ofcom.org.uk.