Crisis response 9 june WEB

Atal cynnwys anghyfreithlon rhag mynd yn firaol mewn argyfwng

Cyhoeddwyd: 9 Mehefin 2026

Mae Ofcom yn cryfhau ei godau ymarfer diogelwch ar-lein trwy ddweud wrth blatfformau y dylent roi protocolau ar waith i ymateb i gynnydd mewn cynnwys anghyfreithlon yn ystod argyfwng. 

Os yw cynnwys anghyfreithlon yn lledaenu'n gyflym ar-lein, gall fod yn fygythiad difrifol i ddiogelwch y cyhoedd, fel y gwelwyd pan wnaeth cynnwys ar-lein danio terfysgoedd treisgar yn dilyn llofruddiaethau Southport 2024. Fel arall, gall argyfwng yn y byd go iawn achosi ymchwydd mewn cynnwys anghyfreithlon ar-lein – er enghraifft, os yw ymosodiad terfysgol yn cael ei ffrydio'n fyw.

Mae argyfyngau o'r fath yn eithriadol ac yn anaml y byddant yn digwydd, sy'n golygu efallai na fydd prosesau cymedroli arferol cwmnïau technoleg yn ddigonol yn yr amgylchiadau hyn.

Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae Ofcom yn ychwanegu mesurau newydd at ei godau ymarfer diogelwch ar-lein, lle dylai platfformau gael protocolau ar waith i ymateb i gynnydd mewn cynnwys anghyfreithlon yn ystod argyfwng.

Protocolau ymateb i argyfwng

Mae mesurau diogelwch newydd Ofcom yn golygu y dylai cwmnïau technoleg weithredu'n brydlon ac yn effeithiol yn ystod argyfwng, i reoli cynnydd sylweddol mewn cynnwys anghyfreithlon sy'n ymddangos a mynd i'r afael â'r risg y bydd eu platfform yn cael ei ddefnyddio i gyflawni neu hwyluso troseddau.

Byddem yn disgwyl i ddarparwyr ddefnyddio tîm ymateb dros dro cyn gynted â phosibl yn achos argyfwng. Dylent hefyd gynnal dadansoddiad ôl-argyfwng a chadw cofnod ohono, oherwydd gallwn wneud cais ffurfiol amdano. Dylai hyn gynnwys penderfyniadau allweddol a gwerthuso effeithiolrwydd y protocol, fel y gellir dysgu gwersi bob tro. 

Yn ogystal, dylai platfformau mawr sefydlu sianel gyfathrebu bwrpasol lle gall asiantaethau gorfodi'r gyfraith rannu gwybodaeth sy'n gysylltiedig ag argyfwng, i gefnogi ymdrechion diogelwch cyhoeddus cyflymach a mwy cydgysylltiedig.

Beth sy'n digwydd nesaf

Cyn i'r gwelliannau hyn i'n codau ddod i rym, rhaid iddynt fynd trwy broses seneddol, sy'n amodol ar amserlen y Llywodraeth a'r Senedd.

Gwnaethom ymgynghori ar y protocolau ymateb i argyfwng hyn y llynedd, ac mae'r penderfyniadau heddiw wedi'u gwneud ar ôl ystyried adborth rhanddeiliaid yn ofalus. Ar yr un pryd, gwnaethom nifer o gynigion eraill ar gyfer mesurau diogelwch ychwanegol.

Rydym eisoes wedi cyhoeddi ein penderfyniad ar un o'r rhain – y defnydd o dechnoleg canfod awtomataidd i leihau lledaeniad delweddau personol anghyfreithlon ar-lein – ac rydym yn disgwyl cyhoeddi ein penderfyniadau ar fesurau arfaethedig eraill yn Hydref 2026.