
Heddiw, mae Ofcom wedi ysgrifennu at blatfformau ar-lein cyn i Gwpan y Byd FIFA 2026 gychwyn, i wneud yn siŵr eu bod yn diogelu chwaraewyr a chyflwynwyr rhag niwed yn unol â'u dyletswyddau o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein.
Mae llythyr Ofcom wedi'i gyhoeddi'n llawn yma.
Effaith ddinistriol ar sêr y byd chwaraeon
Mewn twrnameintiau blaenorol, mae chwaraewyr, swyddogion a staff hyfforddi sy'n cynrychioli'r cenhedloedd cartref wedi dioddef casineb, bygythiadau, cam-drin ac aflonyddu ar-lein – gan gynnwys Pencampwriaethau Ewropeaidd y dynion a gynhaliwyd yn 2021 ac Ewros y Menywod yn 2025.
Mae cyfnodau o gynnydd mawr yng nghylchrediad y cynnwys hwn yn aml wedi targedu chwaraewyr Du a lleiafrifoedd ethnig, yn ogystal â chanolbwyntio ar gyfeiriadedd rhywiol canfyddedig neu statws anabledd.
Mae ymchwil Ofcom wedi dangos yr effaith ddinistriol y mae cam-drin ar-lein yn ei chael ar bobl sy'n gweithio ym maes chwaraeon a'u teuluoedd.
Dyletswyddau diogelwch ar-lein ar blatfformau
O dan y Ddeddf, rhaid i gwmnïau technoleg asesu a lliniaru'r risg y bydd pobl yn y DU yn dod ar draws cynnwys anghyfreithlon – gan gynnwys mathau anghyfreithlon o gasineb, camdriniaeth, bygythiadau ac aflonyddu.
Dylai safleoedd ac apiau fod â swyddogaethau adrodd sy'n hawdd eu canfod a'u defnyddio; timau cymedroli cynnwys sydd ag adnoddau a hyfforddiant digonol; a systemau cymedroli sydd wedi'u cynllunio i dynnu cynnwys anghyfreithlon i lawr yn gyflym pan ddaw i’r amlwg.
Mae gennym raglen gydymffurfio fyw i asesu sut mae platfformau yn mynd i'r afael â chynnwys casineb anghyfreithlon. Mae hyn yn golygu y byddwn yn craffu ar unrhyw dystiolaeth sy'n awgrymu efallai na fydd cwmnïau wedi cyflawni eu dyletswyddau yn ystod Cwpan y Byd, neu ddigwyddiadau chwaraeon mawr eraill, a byddwn yn barod i gymryd camau os ydynt yn methu.
Gweithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â chasineb a cham-drin
Mae'r risgiau ar-lein sy'n gysylltiedig â digwyddiadau chwaraeon mawr yn faes sy'n peri pryder sylweddol i Ofcom.
Ym mis Chwefror 2026, gwnaethom sefydlu partneriaeth newydd gydag Uned Plismona Pêl-droed y DU a chyrff pêl-droed blaenllaw Lloegr – y Gymdeithas Bêl-droed, yr Uwch Gynghrair, Cynghrair Pêl-droed Lloegr, Pêl-droed Super League Menywod, Cymdeithas Pêl-droedwyr Proffesiynol, Swyddogion Gêm Proffesiynol, Cymdeithas Rheolwyr y Gynghrair a Kick It Out.
Mae'r bartneriaeth newydd yn sicrhau bod gwybodaeth a mewnwelediadau yn cael eu rhannu am achosion lle caiff y rhai sy'n chwarae pêl-droed neu'n gweithio yn y maes eu cam-drin ar-lein, er mwyn cefnogi ystod o gamau ataliol ac ymchwiliol.
Dywedodd Oliver Griffiths, Cyfarwyddwr Grŵp Diogelwch Ar-lein Ofcom: "Ni ddylai neb orfod dioddef y cam-drin ar-lein ofnadwy rydym wedi'i weld yn cael ei gyfeirio at gymaint o bobl sy'n gweithio ym maes chwaraeon. Rydyn ni wedi clywed gan y rhai sydd wedi profi hyn am yr effaith ddinistriol y mae'n ei chael arnyn nhw, eu bywoliaeth a'u teuluoedd. Mae’n gallu gwneud iddynt deimlo fel eu bod yn methu gwneud eu gwaith, yn methu mynegi eu hunain, a hyd yn oed yn ofni gadael eu cartrefi.
"Erbyn hyn, mae gan gwmnïau technoleg ddyletswydd gyfreithiol i ddelio â chasineb a cham-drin anghyfreithlon. Os yw pobl yn gweld cynnwys anghyfreithlon ar-lein yn ystod Cwpan y Byd, dylent wneud ymdrech fwriadol i’w adrodd i'r platfform perthnasol. Rydyn ni'n gwthio cwmnïau'n galed i wneud eu gwasanaethau yn fwy diogel, a byddwn yn eu dal i gyfrif os nad ydyn nhw'n gwneud hynny."
Dywedodd Samuel Okafor, Prif Weithredwr Kick It Out: "Mae'r broblem o gam-drin ar-lein yn parhau i fod yn epidemig cynyddol sy'n gofyn am weithredu traws-sector. Yn Kick It Out, rydyn ni wedi gweld cynnydd blynyddol ers Cwpan y Byd diwethaf yn 2022, gyda thymor 2024/25 yn cyrraedd record uchaf newydd. Tra bod hyn ond yn adlewyrchu cyfran fach o'r broblem fwy, mae'r broblem yn glir.
"Mae'n rhaid ymateb i'r duedd gynyddol hon trwy weithredu clir. Gweithredu i gefnogi a diogelu chwaraewyr, hyfforddwyr a staff rhag cam-drin a gweithredu i atal y llanw cynyddol o blatfformau ar-lein sy'n cael eu defnyddio i ledaenu negeseuon niweidiol. Rydyn ni’n cefnogi'r camau a amlinellwyd gan Ofcom ac yn galw ar blatfformau ar-lein i gamu i fyny a diogelu chwaraewyr yn y twrnamaint hwn a thu hwnt."
Dywedodd Mark Bullingham, Prif Swyddog Gweithredol yr FA: "Cwpan y Byd yw pinacl gyrfa chwaraewr, ac mae ganddyn nhw’r hawl i chwarae dros eu gwlad heb wynebu cynnwys casineb neu wahaniaethol ar-lein. Rhaid i ddarparwyr gwasanaeth gymryd y camau angenrheidiol i greu profiad ar-lein mwy diogel iddyn nhw – a holl gefnogwyr Lloegr – yn ystod y twrnamaint hwn.
"Rydyn ni’n croesawu Ofcom yn atgoffa darparwyr cyfryngau cymdeithasol o'r angen am wyliadwriaeth a gweithredu yn ystod Cwpan y Byd. Byddwn ni’n gweithredu Uned Pismona Pêl-droed y DU a gwasanaethau monitro annibynnol yn ystod y twrnamaint i gael gwared ar gynnwys casineb a gwahaniaethol ac yna i erlyn y rhai sy’n cyflawni troseddau casineb. Dylai camdrinwyr posibl fod yn ymwybodol bod y troseddau hyn wedi arwain at gofnodion troseddol, dirwyon a Gorchmynion Gwahardd Pêl-droed yn ddiweddar."
Dywedodd y Prif Gwnstabl Mark Roberts, Arweinydd NPCC ar gyfer Plismona Pêl-droed: "Mae Uned Plismona Pêl-droed y DU (UKFPU) yn arwain yr ymateb cenedlaethol i gam-drin ar-lein mewn pêl-droed, gan weithio drwy gydol y flwyddyn i ddiogelu chwaraewyr a staff.
"Mae twrnameintiau yn bryder arbennig, lle yn rhy aml, mae tonnau o gasineb ar-lein yn bwrw cysgod dros berfformiadau cadarnhaol ar y cae. Dyma pam mae'r UKFPU yn cymryd camau pendant i newid hynny.
"Gan weithio ochr yn ochr â rhanddeiliaid allweddol, sy'n cynnwys y chwaraewyr, eu teuluoedd, yr FA, ac Ofcom, mae'r Uned yn cyfuno ymgysylltu uniongyrchol â gorfodi cadarn. Mae hyn yn cynnwys cydweithio rheolaidd â chwmnïau cyfryngau cymdeithasol trwy gyfarfodydd misol, ochr yn ochr ag ymchwiliadau, gan sicrhau ein bod yn cymryd camau lle mae troseddau yn cael eu nodi.
"Mae'r dull deuol hwn, partneriaeth a gorfodi, yn cryfhau hyder chwaraewyr ac yn rhoi pwysau cynyddol ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol i wneud mwy i fynd i'r afael â chynnwys niweidiol ar eu platfformau.
"Mae'r UKFPU yn croesawu ei phartneriaeth barhaus gydag Ofcom ac mae wedi ymrwymo i adeiladu ar y cynnydd hwn i sicrhau bod pêl-droed yn amgylchedd mwy diogel, hynny ar y cae, ac oddi arno."