Mae Tyfu i Fyny yn Chwarae Gemau Ar-lein yn tynnu ynghyd fewnwelediadau o amrywiaeth o astudiaethau ymchwil presennol Ofcom er mwyn rhoi trosolwg cynhwysfawr o ymddygiadau a phrofiadau plant o chwarae gemau ar-lein.
Mae Tyfu i Fyny yn Chwarae Gemau Ar-lein yn tynnu ynghyd ganfyddiadau o amrywiaeth o astudiaethau ymchwil presennol Ofcom. Mae'n tynnu sylw at arferion chwarae gemau plant, y dyfeisiau maent yn eu defnyddio a'r gemau maent yn eu chwarae, a sut y gall hyn amrywio'n sylweddol rhwng gwahanol grwpiau.
Mae'r ymchwil hon hefyd wedi llywio ymgyrch Pweru Rhieni Ofcom, sy'n annog rhieni i gymryd camau syml i helpu i gadw eu plant yn fwy diogel wrth chwarae gemau ar-lein. Mae'r camau hyn yn cynnwys gwirio gosodiadau oedran, siarad am bwy mae eu plentyn yn chwarae gemau gyda nhw, ac adolygu rheolaethau rhieni. Mae mwy o wybodaeth am hyn ar gael yn Ofcom.org.uk/powerup.