
- Mae un mewn dau o blant sy’n chwarae gemau ar-lein yn chwarae gyda phobl nad ydyn nhw erioed wedi cwrdd â nhw yn y byd go iawn
- Pryder mwyaf rhieni am gemau ar-lein yw bod eu plant yn siarad â dieithriaid, wedi’i ddilyn gan bryderon am fwlio, cynnwys amhriodol a phwysau i brynu eitemau mewn gemau
- Mae llai na hanner rhieni yn dweud eu bod yn gosod rheolau ynglŷn â phwy y gall eu plentyn chwarae gyda nhw ar-lein
- Yr hanner tymor hwn, mae Ofcom yn annog rhieni i gymryd tri cham: gwirio, sgwrsio a newid, er mwyn sicrhau bod plant yn fwy diogel wrth chwarae gemau ar-lein
Mae rhieni yn dweud mai’r risg sy’n gysylltiedig â dieithriaid yw eu pryder mwyaf pan fydd eu plant yn chwarae gemau ar-lein, gan fod mwy na hanner y bobl ifanc sy’n chwarae ar-lein yn chwarae gyda phobl nad ydyn nhw erioed wedi cwrdd â nhw mewn bywyd go iawn, yn ôl adroddiad cryno newydd a gyhoeddwyd gan Ofcom heddiw.
Mae adroddiad cryno Ofcom, Tyfu i Fyny gyda Gemau Ar-lein yn tynnu sylw at y ffaith bod bron i ddwy ran o dair (64%) o rieni plant 3-17 oed sy'n chwarae gemau ar-lein yn poeni bod eu plentyn yn siarad â dieithriaid trwy gemau neu eu swyddogaethau sgwrsio [1].
Daw hyn wrth i fwy na 55% o blant sy'n chwarae gemau ar-lein ddweud eu bod yn chwarae o leiaf weithiau gyda phobl nad ydyn nhw erioed wedi cwrdd â nhw all-lein, tra bod un o bob pump (20%) yn gwneud hynny drwy'r amser neu'r rhan fwyaf o'r amser pan fyddant yn chwarae gemau ar-lein.
Mae siarad â dieithriaid (64%) yn fwy o bryder i rieni na bwlio gan chwaraewyr eraill (60%), gweld cynnwys amhriodol fel trais, iaith ddrwg neu ddeunydd aflonyddgar (59%), a phwysau i brynu eitemau yn y gêm (51%).
Rheolau'r gêm
Mae chwarae gemau ar-lein bellach yn nodwedd gyffredin o blentyndod ac i lawer o blant, mae’n rhan o’u bywydau bob dydd. Mae bron i naw o bob deg (88%) o blant 3-17 oed yn chwarae gemau ar ddyfais o ryw fath, a dyma’r weithgaredd mwyaf poblogaidd ymhlith pobl ifanc 8-17 oed, pan ofynnir iddynt am eu tri hoff beth i'w wneud yn eu hamser hamdden.
Mae'r rhan fwyaf o rieni yn gosod ffiniau a rheolau ynghylch chwarae gemau ar-lein, ond mae ymchwil Ofcom yn awgrymu bod y rhain yn fwy tebygol o ganolbwyntio ar beth a phryd y mae plant yn chwarae, yn hytrach na gyda phwy y maen nhw’n chwarae.
Er mai siarad â dieithriaid yw prif bryder rhieni, mae llai na hanner (43%) yn gosod rheolau sy’n nodi pwy y gall eu plentyn chwarae â nhw ar-lein. Ar y llaw arall, mae mwy na hanner yn gosod rheolau ynghylch terfynau amser (56%), pryd y gall eu plentyn chwarae (51%) a chynnwys priodol (50%). Mae un o bob deg (9%) o rieni yn dweud nad ydyn nhw'n gosod unrhyw reolau o gwbl o gwmpas chwarae gemau ar-lein.
Mae diogelu plant ar-lein yn flaenoriaeth i Ofcom. Ers i reolau diogelwch ar-lein ddod i rym, mae Ofcom wedi sicrhau newidiadau ar rai o blatfformau gemau ar-lein mwyaf poblogaidd y DU, gan gynnwys Roblox, PlayStation ac Xbox, gan helpu i gryfhau mesurau diogelu i ddefnyddwyr iau. Ond er bod gan blatfformau gyfrifoldeb cyfreithiol i ddiogelu plant, mae’n amhosibl i unrhyw set o reolau ddileu pob risg ar-lein yn llwyr.
Pweru Rhieni
Er mwyn helpu teuluoedd i gadw plant yn ddiogel wrth iddynt chwarae gemau ar-lein yr hanner tymor hwn, mae ymgyrch Pweru Rhieni Ofcom yn herio rhieni i gymryd tri cham syml: Gwirio, Sgwrsio, Newid.
GWIRIO: Gwiriwch y gosodiadau sydd ar waith ar gyfer gemau eich plentyn. Er enghraifft, yr oedran maen nhw wedi'u cofrestru ar gyfrifon a dyfeisiau gemau, gyda phwy y maen nhw’n gllu cysylltu a'r math o gynnwys y gallant ei weld.
SGWRSIO: Siaradwch yn rheolaidd â phlant am chwarae gemau ar-lein. Gofynnwch beth maen nhw’n ei fwynhau, gyda phwy maen nhw’n chwarae ac yn sgwrsio, ac a oes unrhyw beth wedi digwydd sydd wedi gwneud iddynt deimlo’n anghyfforddus neu’n ofidus. Gall cadw’r sgwrs yn agored ei gwneud yn haws iddynt siarad am unrhyw bryderon neu brofiadau negyddol y gallant ddod ar eu traws wrth chwarae gemau ar-lein.
NEWID: Gwnewch addasiadau lle bo angen. Gallai hyn gynnwys newid gosodiadau, cyfyngu ar gyswllt gan chwaraewyr nad ydyn nhw’n eu hadnabod, newid nodweddion diogelwch eraill, adolygu gosodiadau caniatâd i brynu eitemau yn y gêm, gosod terfynau amser, neu gytuno ar reolau teulu ynghylch chwarae gemau ar-lein
Dywedodd Tony Stower, swyddog arweiniol ar gemau ar-lein yn nhîm Diogelwch Ar-lein Ofcom: “Mae byd gemau ar-lein yn newid yn gyflym, ond os ydych chi’n rhiant sy’n poeni, mae Ofcom yma i’ch cefnogi. Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr er mwyn helpu i gadw’ch plentyn yn fwy diogel, dim ond cymryd ychydig o gamau syml. Gall cymryd ychydig funudau i wirio gyda phwy y mae eich plentyn yn chwarae ac yn sgwrsio ar-lein wneud gwahaniaeth mawr.
Gall rhieni wneud eu rhan, ond yn y pen draw, cyfrifoldeb y platfformau chwarae gemau yw cadw plant yn ddiogel. Mae ganddynt ddyletswydd gyfreithiol o dan gyfraith y DU i ddiogelu plant ar eu gwasanaethau, ac mae Ofcom yn gweithio i sicrhau bod hynny’n digwydd.”
Nodiadau i olygyddion
- Mae'r adroddiad cryno hwn yn dwyn ynghyd fewnwelediadau o ystod o astudiaethau ymchwil presennol Ofcom i ddarparu trosolwg cynhwysfawr o ymddygiadau a plant wrth chwarae gemau ar-lein.
- Adroddiad ymchwil Tyfu i Fyny gyda Gemau Ar-lein Ofcom.
- I gael rhagor o wybodaeth am ymgyrch Ofcom, Pweru Rhieni, ewch i wefan Ofcom.
- O dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, mae cwmnïau technoleg yn gyfrifol am sicrhau bod safleoedd, platfformau ac apiau, gan gynnwys gwasanaethau chwarae gemau ar-lein, yn fwy diogel i'r plant sy'n eu defnyddio. Mae hyn yn cynnwys atal ymbincio, cael gwared ar gynnwys anghyfreithlon a chyflwyno gwiriadau oedran cadarn. Lle mae llwyfannau'n methu â chyflawni'r dyletswyddau hyn, ni fyddwn yn oedi cyn eu dwyn i gyfrif.
- Mae manylion llawn yr her Gwirio, Newid, Sgwrsio ar gael yma.
- Mae gan Ofcom ddyletswyddau i hyrwyddo llythrennedd yn y cyfryngau ac fel rhan o hyn mae'n cynnal ystod o weithgareddau sy'n helpu i gefnogi rhieni a phlant. Mae ein hymchwil flynyddol yn darparu dealltwriaeth o ymddygiad ac agweddau plant a rhieni yn y cyfryngau ac ar-lein.
- Mae Tyfu i Fyny gyda Gemau Ar-lein yn dwyn ynghyd ganfyddiadau o ymchwil Bywydau Plant yn y Cyfryngau, Traciwr Cyfryngau Plant a Rhieni, a'r ymchwil Mesur Defnydd Plant o'r Rhyngrwyd yn Oddefol, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, ynghyd â'n hymchwil Nodweddion Dylunio Perswadiol a'r Niwed Ariannol Posibl i Blant a gyhoeddwyd yn 2025.
Cynnwys cysylltiedig