
Heddiw, mae Ofcom wedi rhoi dirwy o £800,000 i Kick Online Entertainment SA am fethu â rhoi gwiriadau oedran hynod effeithio ar waith i ddiogelu plant rhag cynnwys pornograffig.
O dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein y DU, rhaid i safleoedd sy'n caniatáu deunydd pornograffig ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol i atal plant rhag cael mynediad i'r cynnwys hwnnw yn hawdd.
O fewn diwrnodau i'r ddyletswydd hon ddod i rym ym mis Gorffennaf 2025, lansiodd Ofcom ymchwiliadau i ddarparwyr dwsinau o wefannau oedolion, gan gynnwys Kick Online Entertainment SA. Blaenoriaethwyd y wefan hon yn seiliedig ar nifer y defnyddwyr.
Yn dilyn ymchwiliad, rydym wedi rhoi dirwy o £800,000 i Kick Online Entertainment SA am fethu â chydymffurfio â'r gofynion gwirio oedran rhwng 25 Gorffennaf a 29 Rhagfyr 2025. Mewn ymateb i gamau gorfodi Ofcom, mae'r cwmni ers hynny wedi gweithredu dull o sicrhau oedran sy'n gallu bod yn hynod effeithiol.
Anwybyddu ceisiadau am wybodaeth
Mae casglu gwybodaeth gywir gan gwmnïau yn hanfodol i'n gwaith o wneud bywyd yn fwy diogel ar-lein i bobl yn y DU. Gall y ceisiadau hyn ein helpu i asesu a monitro cydymffurfiaeth y diwydiant â'u dyletswyddau diogelwch, ac mae'n ofynnol i gwmnïau, yn ôl y gyfraith, ymateb mewn ffordd gywir, gyflawn ac amserol.
Am fethu â chydymffurfio â'r gofynion hyn, rydym hefyd wedi rhoi dirwy o £30,000 i Kick Online Entertainment SA. Byddwn yn gosod cosb ddyddiol o £200 ar y cwmni nes iddynt ymateb, neu am gyfnod o 60 diwrnod, pa un bynnag sydd gyntaf.
Dywedodd Suzanne Cater, Cyfarwyddwr Gorfodi yn Ofcom: "Nid yw cael gwiriadau oedran hynod effeithiol ar safleoedd oedolion i ddiogelu plant rhag cynnwys pornograffig yn agored i drafodaeth. Gall unrhyw gwmni sy'n methu â chyflawni'r ddyletswydd hon - neu ymgysylltu â ni - ddisgwyl wynebu camau gorfodi cadarn, gan gynnwys dirwyon sylweddol.
"Rydym yn parhau i ymchwilio i safleoedd eraill o dan reolau gwirio oedran y DU a byddwn yn cymryd camau pellach lle bo angen."
Nodiadau i Olygyddion
- Os bydd darparwr yn methu â thalu dirwy, mae gan Ofcom hawl i geisio adennill y cosbau hynny. Lle bo hynny'n briodol, os nad yw darparwr yn cydymffurfio â gofyniad i weithredu sicrwydd oedran, gallwn hefyd geisio gorchymyn llys ar gyfer 'mesurau tarfu ar fusnes', megis ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr talu neu hysbysebwyr dynnu eu gwasanaethau yn ôl o blatfform, neu ei gwneud yn ofynnol i Ddarparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd rwystro safle yn y DU.
- Rydym hefyd heddiw wedi cyhoeddi penderfyniadau dros dro bod Youngtek Solutions, 4chan a Im.ge wedi methu â chydymffurfio â dyletswyddau o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Mae gan y tri darparwr gyfle i wneud sylwadau i ni cyn i ni wneud ein penderfyniadau terfynol. Yn ogystal, rydym wedi ehangu cwmpas ein hymchwiliadau parhaus i bedwar cwmni porn arall - sydd gyda'i gilydd yn rhedeg 20 o safleoedd oedolion - i ystyried a ydynt wedi methu ag ymateb yn ddigonol i'n ceisiadau am wybodaeth.