Mae Ofcom wedi cynnal ymchwil i ddeall sut mae plant yn cyfathrebu ac yn meithrin cysylltiadau ar-lein, a'r profiadau a allai fod yn niweidiol neu’n anghyfforddus iddynt wynebu.
Yn 2026, comisiynwyd ymchwil meintiol newydd yn cynnwys 4,097 o blant rhwng 11 a 17 oed ledled y DU. Mae'r ymchwil yn archwilio sut mae plant yn cyfathrebu ar-lein a sut maen nhw'n ehangu eu rhwydweithiau ar-lein. Mae hefyd yn archwilio profiadau plant â chyswllt a allai fod yn anghyfforddus, achosi niwed ar sail rhywedd, yn ogystal â chynnwys sy'n ymwneud â chyffuriau anghyfreithlon, arfau a therfysgaeth.
Mae astudiaeth 2026 yn adeiladu ar ymchwil feintiol a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2022 ac ymchwil ansoddol a wnaed yn ystod 2023 a 2024 a geisiodd ddeall sut mae plant yn cyfathrebu ar-lein, graddfa a natur eu profiad o unrhyw gyswllt a allai fod yn anghyfforddus neu’n annymunol ar-lein a sut mae plant yn cyfathrebu ar-lein wrth chwarae gemau.
Understanding Online Communications Among Children 2026 - Research report (PDF, 921KB)
Understanding Online Communications Among Children 2026 - Technical report (PDF, 359KB)
Understanding Online Communications Among Children 2026 - Questionnaire (PDF, 783KB)
Understanding Online Communications Among Children 2026 - Data tables (XLS, 2.58MB)
Dechreuodd pwerau Ofcom fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein yn swyddogol ym mis Hydref 2023, ac mae rhan o’n gwaith paratoi wedi cynnwys cynnal ymchwil i brofiadau pobl ar-lein.
Fel rhan o hyn, mae Ofcom wedi bod yn cynnal ymchwil i ddeall profiadau plant o gyfathrebu ar-lein, gan gynnwys unrhyw gyswllt anghyfforddus neu ddigroeso a chael negeseuon rhywiol.
Roedd yr ymchwil meintiol a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2022 yn ceisio deall sut mae plant yn cyfathrebu ar-lein, a graddfa a natur eu profiad o unrhyw gyswllt anghyfforddus neu annymunol ar-lein. Roedd yr ymchwil ansoddol cysylltiedig (a gynhaliwyd ym mis Chwefror a mis Mawrth 2023) yn ceisio deall yn benodol sut mae plant yn cyfathrebu ar-lein wrth chwarae gemau, ac wrth ddefnyddio apiau sydd wedi’u dylunio i’w cysylltu â phobl newydd.
Roedd ein gwaith ansoddol diweddaraf (gwaith maes rhwng mis Mehefin 2023 a mis Mawrth 2024) yn edrych ar brofiadau plant o gael ac ymateb i negeseuon rhywiol ar-lein gan oedolion (neu oedolion tybiedig). Roedd yr ymchwil yn chwilio am amrywiaeth o safbwyntiau, hy gan y plant eu hunain, oedolion ifanc yn myfyrio ar eu profiadau fel plentyn a gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi plant ar hyn o bryd.
Dogfennau ymchwil
Deall cyfathrebu ar-lein ymhlith plant – Ymchwil meintiol (PDF, 1.1 MB) (Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig).
Deall cyfathrebu ar-lein ymhlith plant – Canfyddiadau ansoddol (PDF, 818.3 KB) (Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig).
Profiadau plant o negeseuon rhywiol ar-lein – Canfyddiadau ansoddol (PDF, 563 KB) (Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig).
Dogfennau ymchwil ategol
Cwestiynau meintiol (PDF, 876.4 KB) (Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig).
Tablau data meintiol (XLSX, 4.5 MB) (Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig).
Canllaw trafod ansoddol – deall cyfathrebu ar-lein ymhlith plant (PDF, 523.1 KB) (Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig).
Adroddiad technegol – ymchwil meintiol (PDF, 238.7 KB) (Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig).