'Crwydro' (Roaming) yw pan fyddwch chi'n defnyddio'ch ffôn symudol neu ddyfeisiau eraill dramor i wneud galwadau, anfon negeseuon neu ddefnyddio'r rhyngrwyd. Gall crwydro arwain at ffioedd ychwanegol, felly mae'n bwysig gwirio'ch pecyn neu siarad â'ch darparwr cyn i chi fynd dramor.
Dysgwch fwy am ffïoedd crwydro
Rhaid i gwmnïau ffôn symudol gyhoeddi eu ffïoedd crwydro ar eu gwefan. Dylai eich darparwr allu esbonio'r ffïoedd perthnasol ac unrhyw becynnau neu ostyngiadau.
Pan fyddwch chi'n mynd i mewn i wlad arall, rhaid i ddarparwyr anfon neges awtomatig atoch (oni bai eich bod chi wedi optio allan) i esbonio unrhyw ffïoedd crwydro neu gyfyngiadau defnydd.
Awgrymiadau gorau i arbed arian pan fyddwch chi dramor
Gosod terfyn gwariant ar eich bil
Gallwch osod terfyn gwariant misol ar eich bil. Ar ôl ei osod, rhaid i'ch cwmni ffôn symudol roi gwybod i chi pan fyddwch chi’n debygol o gyrraedd y terfyn. Dim ond os ydych chi'n cytuno iddo y gallant godi mwy na'r terfyn. Dyma fwy o awgrymiadau ar derfynau gwariant ar eich biliau symudol.
Chwiliwch am gynigion
Gwiriwch a oes gan eich darparwr unrhyw gynigion crwydro. Efallai y byddant yn cynnig tâl dyddiol neu wythnosol i ddefnyddio'ch lwfans cartref arferol neu'r opsiwn i brynu bwndeli o alwadau, negeseuon testun, neu ddata tra byddwch i ffwrdd.
Diffodd crwydro data
Er mwyn helpu i gyfyngu ar eich defnydd data, gallwch ddiffodd data crwydro ar eich ffôn symudol.
Defnyddio Wi-Fi lle mae ar gael
Os ydych chi eisiau defnyddio'r rhyngrwyd yn rheolaidd ar eich ffôn symudol, gallech ddefnyddio mannau ‘hotspots’ Wi-Fi lleol yn hytrach na'r rhyngrwyd symudol. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer lawrlwytho mapiau, edrych ar negeseuon e-bost neu ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol – byddai pob un ohonynt yn defnyddio eich data symudol pe na baech chi'n defnyddio Wi-Fi.
Lawrlwythwch cyn i chi fynd
Er mwyn helpu i osgoi taliadau data, lawrlwythwch unrhyw hoff restri chwarae, podlediadau neu sioeau teledu cyn i chi deithio.
Peidiwch ag anghofio'r plant
Cyn i chi deithio, gwiriwch a allai dyfeisiau eich plant arwain at ffïoedd crwydro.
Osgoi defnyddio llawer o ddata
Os nad ydych chi'n defnyddio Wi-Fi, ceisiwch osgoi gweithgareddau sy'n drwm o ran defnydd data, fel gwylio fideos, uwchlwytho lluniau i'r cyfryngau cymdeithasol neu lawrlwytho cerddoriaeth, a cheisiwch osgoi agor atodiadau mawr hefyd.
Ystyriwch SIM gwahanol
Efallai yr hoffech brynu cerdyn SIM ar gyfer y wlad rydych chi'n ymweld â hi neu 'e-SIM' (gall rhai ffonau symudol ddefnyddio SIM rhithwir sy'n eich galluogi i ddefnyddio rhwydweithiau symudol gwahanol).
Cyngor arall
Crwydro damweiniol neu anfwriadol
Os ydych chi’n agos at ranbarth ar y ffin (er enghraifft Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon neu Dwrci a Gwlad Groeg) efallai y bydd eich ffôn yn crwydro yn ddamweiniol. Gall hyn ddigwydd pan fydd y signal symudol yn gryfach o'r wlad ar draws y ffin na'r un rydych chi ynddo. Rhaid i ddarparwyr roi gwybodaeth i chi ar sut i atal hyn. Rhaid iddynt hefyd eich helpu i leihau neu gyfyngu ar eich costau crwydro tra byddwch yn y DU. Er enghraifft, efallai na fydd rhai darparwyr yn codi tâl ar gwsmeriaid yng Ngogledd Iwerddon os yw eu ffôn symudol yn crwydro i rwydwaith Iwerddon.
Defnyddio’ch ffôn symudol ar fferi neu fordaith
Ar yr arfordir neu ar y môr, efallai na fydd ffonau symudol yn gallu cysylltu â rhwydweithiau tir ac yn hytrach gallant gysylltu â lloeren llong. Gall taliadau am hyn fod yn uwch na chrwydro arferol.
Os ydych chi'n meddwl y byddwch chi'n defnyddio'ch ffôn symudol ar y môr, gwiriwch gyda’ch darparwr am gostau posibl cyn i chi deithio. Gallech ystyried dewis y rhwydwaith rydych chi’n ei ffafrio tra ar y môr i osgoi cysylltiadau lloeren, ond gall signalau amrywio a bydd hyn yn golygu na fyddech chi'n derbyn galwadau neu negeseuon testun pan fyddwch y tu allan i ystod y rhwydwaith rydych chi wedi'i ddewis.
Efallai y bydd gweithredwyr fferi hefyd yn gallu cynnig cyngor ar osgoi ffïoedd annisgwyl a gwybodaeth am unrhyw becynnau wifi ar fwrdd y llong.
Sefyllfaoedd a all olygu na fydd eich ffôn symudol yn gweithio dramor
Mae rhwydweithiau 2G a 3G yn cael eu diffodd yn raddol ledled y byd. Mae gan bob gwlad amserlen wahanol ar gyfer diffodd. Os ydych chi'n teithio i wlad sydd wedi dechrau diffodd y gwasanaethau yn barod, gallai hynny effeithio ar eich darpariaeth crwydro. Mewn rhai achosion, efallai na fyddwch yn gallu gwneud galwadau neu gael mynediad at ddata oni bai eich bod chi wedi'ch cysylltu â Wi-Fi – yn enwedig os oes gennych ffôn hŷn. Mae gan y rhan fwyaf o gwsmeriaid y DU ddyfeisiau 4G (ac yn gynyddol, dyfeisiau 5G) eisoes ac mae’n llai tebygol y bydd eu gwasanaethau yn cael eu heffeithio. Siaradwch â'ch darparwr cyn i chi adael y DU.
Mae rhwydweithiau symudol 3G bellach wedi'u diffodd yn y DU. Rydym wedi cyhoeddi canllaw i ddiffodd 2G a 3G yn y DU.
Cynnwys cysylltiedig