HERO BBC

Cryfhau gwaith rheoleiddio Ofcom o'r BBC

Cyhoeddwyd: 2 Gorffennaf 2026

Mae Ofcom yn cynnig newidiadau i'r ffordd y mae'n rheoleiddio'r BBC. Y nod yw cryfhau amddiffyniadau i gynulleidfaoedd, yn enwedig wrth i bobl gael mynediad cynyddol at gynnwys y BBC ar-lein.  Mae'r newidiadau’n dilyn estyniad o'n pwerau yn Adolygiad Canol Tymor y Llywodraeth o’r BBC.

Rheolau safonau newydd ar gyfer cynnwys ar-lein y BBC

Rydym yn ceisio barn ar god newydd arfaethedig ar gyfer deunydd ar-lein y BBC. Am y tro cyntaf, bydd hyn yn cyflwyno rheolau y gellir eu gorfodi ar gyfer cynnwys y BBC a gaiff ei bostio ar-lein – gan gynnwys ar wefannau, apiau, cyfrifon cyfryngau cymdeithasol (gan gynnwys ail-bostiadau) a deunyddiau addysgol y BBC. 

Y nod yw sicrhau bod deunydd ar-lein y BBC yn bodloni safonau uchel tebyg i'r rhai y mae cynulleidfaoedd yn eu disgwyl gan gynnwys darlledu traddodiadol. Lle bo angen, mae'r rheolau arfaethedig wedi'u teilwra i adlewyrchu'r gwahaniaethau rhwng cynnwys darlledu a chynnwys ar-lein.

Yn hanesyddol, nid yw Ofcom wedi cael y pŵer i orfodi rheolau ar gyfer deunydd ar-lein y BBC. O dan y trefniadau presennol, dim ond cwynion a darparu "barn" nad yw'n rhwymol ynghylch a yw'r BBC wedi dilyn ei Ganllawiau Golygyddol ei hun. Nawr bydd gennym y pwerau i reoleiddio deunydd ar-lein y BBC yn llawn, gan gynnwys ar faterion pwysig fel didueddrwydd dyledus a diogelu pobl dan 18 oed. 

Mae ein hymgynghoriad ar y Cod newydd arfaethedig – sydd hefyd yn cynnwys gweithdrefnau arfaethedig ar gyfer ymdrin â chwynion, ymchwiliadau a sancsiynau – ar agor tan 27 Awst 2026, a disgwylir ein penderfyniadau terfynol yn ddiweddarach eleni. Bryd hynny , byddwn hefyd yn cyhoeddi canllawiau i gyd-fynd â'r Cod, gan egluro sut rydym yn disgwyl i'r BBC gymhwyso'r rheolau newydd yn ymarferol.

Gwell goruchwyliaeth o gŵynion y BBC 

Rydym hefyd heddiw yn nodi sut y byddwn yn cynyddu ein goruchwyliaeth o gŵynion y BBC

Bydd angen i gynulleidfaoedd gwyno i'r BBC yn gyntaf, ond bydd penderfyniadau'r BBC nawr yn destun i fwy o dryloywder a chraffu allanol gan Ofcom.

Mae Ofcom wedi cael dyletswydd newydd i adolygu sampl o gŵynion sy'n cyrraedd proses 'cam 2' y BBC yn rheolaidd - y pwynt lle cânt  eu huwchgyfeirio i Uned Cwynion Gweithredol y BBC. Bydd hyn yn helpu i sicrhau ein bod yn hyderus nad yw cwynion nad ydynt yn cael eu cyflwyno i  Ofcom yn uniongyrchol yn codi materion sy'n gwarantu ymchwiliad o dan ein Cod Darlledu.

Mae Ofcom wedi cyhoeddi protocol ar gyfer sut y cynhelir yr adolygiadau hyn. Mae'n cwmpasu, ymhlith pethau eraill, ein dull o ddewis samplau, sut y byddwn yn adrodd ein canfyddiadau, a'r camau nesaf os byddwn yn nodi materion sy'n cyfiawnhau ymchwiliad.