Datganiad wedi'i gyhoeddi 13 Rhagfyr 2023
Mae'r ffordd y caiff gwasanaethau band eang eu darparu yn newid. Mae darpariaeth rhwydweithiau ffeibr llawn newydd yn cynyddu ar draws y DU, ac mae'r rhwydweithiau newydd hyn yn cydfodoli â rhwydweithiau hŷn. Yng nghyd-destun y farchnad newidiol hon, mae'n bwysig bod gan gwsmeriaid band eang ddigon o wybodaeth ddefnyddiol, ar yr amser iawn, i'w helpu i ddewis y gwasanaeth band eang cywir ar gyfer eu hanghenion.
Ym mis Mawrth, gwnaethom ymgynghori ar gynigion i wella'r wybodaeth sydd ar gael i ddefnyddwyr, i rymuso pobl i wneud penderfyniadau gwybodus wrth brynu band eang. Fe wnaethom hefyd gyhoeddi ymchwil a nododd y byddai rhai pobl, wrth ddewis gwasanaeth band eang, yn ei chael hi'n ddefnyddiol derbyn gwybodaeth am y dechnoleg sylfaenol a ddefnyddir i ddarparu eu gwasanaethau.
Mae'r datganiad hwn yn nodi ein penderfyniadau i helpu defnyddwyr i wneud dewisiadau mwy gwybodus. Rydym am gefnogi defnyddwyr i ddeall nodweddion eu gwasanaeth band eang yn well fel eu bod yn gwybod beth maent yn ei brynu, ac yn gallu cymharu gwasanaethau'n haws i ddewis y gwasanaeth sy'n diwallu eu hanghenion orau.
Dogfennau cysylltiedig
Ymatebion
How to respond
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA