Adroddiad: Cwynion am wasanaethau band eang, llinell dir, symudol a theledu-drwy-dalu

Cyhoeddwyd: 25 Ionawr 2024
Diweddarwyd diwethaf: 1 Mai 2025

Fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau’r DU, mae Ofcom yn cael cwynion gan gwsmeriaid am eu gwasanaethau llinell dir, band eang sefydlog, ffonau symudol talu’n fisol, a theledu-drwy-dalu.

Er mwyn deall yn well beth yw’r rhesymau dros yr anfodlonrwydd ymysg cwsmeriaid preswyl yn ein sectorau, rydym yn casglu’r data hwnnw ac yn pennu nifer y cwynion sydd wedi dod i law fesul darparwr a gwasanaeth. Er mwyn cymharu perfformiad darparwyr, rydym yn mynd ati bob chwarter i gyhoeddi nifer y cwynion a gawsom amdanynt mewn perthynas â maint eu sylfaen gwsmeriaid (hynny yw, fesul 100,000 o gwsmeriaid).

Tueddiadau cyffredinol

Yn y chwarter o fis Hydref i fis Rhagfyr 2024 (Ch4 2024), roedd nifer y cwynion a gafodd Ofcom wedi lleihau o’i gymharu â’r chwarter blaenorol (Ch3 2024: mis Gorffennaf i fis Medi 2024). Gwelwyd gostyngiad yn nifer y cwynion am fand eang sefydlog, ffonau symudol talu’n fisol a theledu-drwy-dalu , ac arhosodd nifer y cwynion am linellau tir yr un fath.

  • NOW Broadband a TalkTalk a gafodd y nifer mwyaf o gwynion yn ymwneud â band eang sefydlog. Gwelodd NOW Broadband gynnydd, a gwelodd TalkTalk ostyngiad yn eu cwynion fesul 100,000 o danysgrifwyr o’i gymharu â’r chwarter blaenorol.
  • Plusnet a Sky gafodd y nifer isaf o gwynion am fand eang sefydlog.
  • Y darparwr llinell dir y cafwyd y nifer mwyaf o gwynion amdano oedd NOW Broadband. Gwelwyd cynnydd yn nifer y cwynion am NOW Broadband ers y chwarter blaenorol.
  • Y darparwr llinell dir y cafwyd y nifer lleiaf o gwynion amdano oedd Utility Warehouse.
  • O2 oedd yn gyfrifol am y nifer mwyaf o gwynion am ffonau symudol talu’n fisol. Roedd cwynion cwsmeriaid yn ymwneud yn bennaf â’r ffordd y cafodd eu cwynion eu trin.
  • EE, Sky Mobile a Tesco Mobile oedd y darparwyr ffonau symudol talu’n fisol y cafwyd y nifer lleiaf o gwynion amdanynt.
  • EE a Virgin Media oedd y darparwyr teledu-drwy-dalu y cafwyd y nifer mwyaf o gwynion amdanynt. Roedd cwynion cwsmeriaid yn bennaf oherwydd profiadau wrth newid darparwr (EE), sut cafodd eu cwynion eu trin (EE) a phroblemau gyda biliau, prisiau a thaliadau (Virgin Media).
  • Sky a TalkTalk oedd y darparwyr teledu-drwy-dalu y cafwyd y nifer lleiaf o gwynion amdanynt.

Mae rhagor o wybodaeth isod sy’n cymharu nifer y cwynion am ddarparwyr penodol. Mae ein dogfen cefndir a methodoleg yn cynnwys rhagor o fanylion.

Mae’r siart isod yn dangos nifer cymharol y cwynion rydym wedi’u cael am wasanaethau band eang, llinell dir, ffonau symudol talu’n fisol, a theledu-drwy-dalu. Gallwch ddefnyddio’r llithrydd i hidlo drwy’r blynyddoedd.

Nifer cymharol y cwynion fesul 100,000 o gwsmeriaid

Gan ddefnyddio cymhariaeth o un flwyddyn i’r llall, mae nifer cymharol y cwynion am fand eang sefydlog, llinell dir, ffonau symudol talu’n fisol, a theledu-drwy-dalu i gyd wedi disgyn.

I gael y profiad gorau, ehangwch i sgrin lawn (cliciwch ar y botwm yn y gornel dde ar y gwaelod).

Tablau cynghrair a’r prif gwynion

Band eang sefydlog

Llinell dir

Symudol talu'n fisol

Teledu-drwy-dalu

Cwynion cymharol am bob 100,000 o gwsmeriaid

Pan fo’r gwahaniaeth mesuradwy rhwng nifer y cwynion a gafodd y darparwyr fesul 100,000 o gwsmeriaid yn llai nag 1, rydym yn ystyried eu canlyniadau’n debyg. Yn y sectorau canlynol, rydym yn ystyried bod y darparwyr a restrir yn debyg:  

Band Eang Sefydlog:

  1. Plusnet a Sky;
  2. Cyfartaledd y Diwydiant a BT;
  3. BT a Vodafone;
  4. Vodafone a Virgin Media;
  5. EE a TalkTalk;
  6. TalkTalk a NOW Broadband.

Llinell dir:

  1. Vodafone a Plusnet;
  2. Cyfartaledd y Diwydiant a Virgin Media;
  3. BT, TalkTalk ac EE.  

Ffonau Symudol Talu’n Fisol:

  1.  Tesco Mobile, Sky Mobile ac EE;
  2. Sky Mobile, EE, Vodafone a Chyfartaledd y Diwydiant;
  3. Vodafone, Cyfartaledd y Diwydiant, Three ac iD Mobile.

Teledu-drwy-dalu:

  1. Sky a TalkTalk; 
  2. EE a Virgin Media.  

Cwynion cyffredinol yn ôl sector

Mae’r siart isod yn dangos cwynion am bob darparwr ym mhob un o’r pedwar sector.  

I gael y profiad gorau, ehangwch i sgrin lawn (cliciwch ar y botwm yn y gornel dde ar y gwaelod).

Cymharu darparwyr gwahanol

Er mwyn cymharu perfformiad dau neu fwy o ddarparwyr, dewiswch y gwasanaeth ac yna'r darparwyr rydych am eu cymharu o'r rhestri ar y dde.

I gael y profiad gorau, ehangwch i sgrin lawn (cliciwch ar y botwm yn y gornel dde ar y gwaelod).

Cwynion yn ôl darparwr

Er mwyn cymharu perfformiad dau neu ragor o ddarparwyr, dewiswch y gwasanaeth ac yna'r darparwyr rydych am eu cymharu o'r rhestrau ar y dde.

I gael y profiad gorau, ehangwch i sgrin lawn (cliciwch ar y botwm yn y gornel dde ar y gwaelod).

Rate this page

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig