Mae'r ddogfen hon yn nodi cynnig Ofcom i gymhwyso'r Cod Cyfathrebu Electronig ("y Cod") i Clear Mobitel Ltd.
TBwriad rhoi pwerau'r Cod yw cynorthwyo darparwyr rhwydweithiau cyfathrebu electronig a/neu systemau seilwaith. Yn benodol, gall darparwr sydd â phwerau Cod (h.y. "gweithredwr"):
- adeiladu a chynnal seilwaith ar dir cyhoeddus (strydoedd) heb orfod cael trwydded gwaith stryd benodol i wneud hynny;
- elwa o imiwneddau penodol o ddeddfwriaeth Cynllunio Gwlad a Thref;
- os oedd digwyddiad lle na ellir dod i gytundeb â pherchennog neu feddiannwr tir preifat, gwneud cais i'r Llys i osod cytundeb sy'n rhoi'r hawl Cod y mae'r gweithredwr yn ceisio'i chael neu sy'n darparu ar gyfer yr hawl i rwymo'r tirfeddiannwr neu'r meddiannwr.
Mae Ofcom yn ystyried ceisiadau am roi pwerau'r Cod gan gyfeirio at y materion a nodir yn adran 107(6) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003.
Mae Ofcom wedi adolygu cais am bwerau'r Cod a gyflwynwyd gan Clear Mobitel Ltd ac mae'r ddogfen hon yn nodi crynodeb o gynnwys y cais hwnnw, yn ogystal â chynnig Ofcom i roi pwerau'r Cod o blaid Clear Mobitel Ltd.
Bydd Ofcom yn ystyried unrhyw ymatebion i'r ymgynghoriad hwn cyn penderfynu a ddylid gwneud cyfarwyddyd, o dan adran 107(6)(a) o'r Ddeddf, i gymhwyso'r Cod i Clear Mobitel Ltd.
Ymateb i'r ymgynghoriad hwn
Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb erbyn 5pm, 29 Mehefin 2026 fan bellaf.
Sut i ymateb
Electronic Communications Code Team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA