HERO - Ofcom proposes to cap Second Class stamp price for a further year

Ofcom yn cynnig capio pris stampiau Ail Ddosbarth am flwyddyn arall

Cyhoeddwyd: 16 Hydref 2026

Bydd pris stamp Ail Ddosbarth yn aros yn sefydlog tan fis Mawrth 2028, o dan gynigion a gyhoeddwyd heddiw gan Ofcom. 

Rydym wedi gosod capiau diogelu ar gyfer stampiau Ail Ddosbarth cyn hyn, yn 2012 a 2019. Mae'r cap presennol – a osodwyd yn 2024, sy'n gysylltiedig â chwyddiant – yn dod i ben ym mis Mawrth 2027. Rydym yn cynnig ei ymestyn am flwyddyn tra bod y Post Brenhinol yn gwneud diwygiadau i'r gwasanaeth cyffredinol – yn dilyn ein newidiadau i'r broses reoleiddio ym mis Gorffennaf 2025 – ac yn gwella ei berfformiad dosbarthu, sydd wedi bod yn annerbyniol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.[1] 

Rydym yn bwriadu ymgynghori ar ein dull hirdymor o brisio y flwyddyn nesaf, unwaith y bydd y Post Brenhinol wedi gwneud mwy o gynnydd wrth wneud y newidiadau a'r gwelliannau sylweddol y mae defnyddwyr post yn eu disgwyl, ac y bydd gennym ni ddarlun cliriach o'u heffaith. 

Gwasanaeth cynaliadwy, fforddiadwy a dibynadwy

Fel rheoleiddiwr y post, rhaid i Ofcom ystyried cynaliadwyedd, fforddiadwyedd a dibynadwyedd y gwasanaeth cyffredinol. Am y 15 mlynedd diwethaf, rydym wedi cefnogi hyn drwy osod cap diogelu ar bris stampiau Ail Ddosbarth, gan adael hyblygrwydd prisio i’r Post Brenhinol ar gyfer Dosbarth Cyntaf, a gosod safonau dosbarthu yr ydym yn eu gorfodi pan nad ydynt yn cael eu bodloni. [2] 

O dan ein fframwaith, mae gan y DU wasanaeth post sy'n darparu gwasanaeth chwe diwrnod, ac un pris i fynd i unrhyw le. Mae prisiau stampiau yma yn isel yn ôl safonau rhyngwladol, gydag aelwydydd cyfartalog y DU yn gwario 60c yr wythnos ar yr holl wasanaethau post yn 2023/24, sy'n cynrychioli 0.11% o’r cyfanswm gwariant wythnosol. [3] 

Fodd bynnag, gyda llai o lythyrau yn cael eu dosbarthu i bob tŷ, mae'r gost i’r Post Brenhinol o ddosbarthu pob llythyr wedi cynyddu, ac roedd angen diwygio brys er mwyn sicrhau dyfodol i'r gwasanaeth cyffredinol. 

Y llynedd, gwnaethom ddefnyddio ein pwerau’n llawn i foderneiddio'r rhwymedigaethau a osodwyd ar y Post Brenhinol. Gwnaed hyn i adlewyrchu'r hyn sydd ei angen ar bobl, rhoi'r gwasanaeth ar sail fwy cynaliadwy, a galluogi'r cwmni i fuddsoddi mwy er mwyn gwella ei berfformiad dosbarthu. 

Daeth y newidiadau hyn i’r rheolau i rym ym mis Gorffennaf 2025. Fodd bynnag, dim ond ym mis Mehefin 2026 y dechreuodd y Post Brenhinol roi ei fodel gweithredol newydd ar waith, ar ôl dod i gytundeb gyda'i undeb. [4] 

Llunio dyfodol prisiau stampiau

Mae angen i'r Post Brenhinol wneud mwy o gynnydd ar weithredu'r newidiadau sylweddol hyn er mwyn i ni gael sail dystiolaeth ddigon clir i benderfynu ar ein dull hirdymor o brisio stampiau. Felly, rydym yn bwriadu parhau â'n cap prisiau presennol ar lythyrau Ail Ddosbarth am flwyddyn, tan fis Mawrth 2028. [5] 

O ystyried bod cynaliadwyedd y gwasanaeth cyffredinol yn parhau i fod dan fygythiad yn wyneb gostyngiad yn nifer y llythyrau, efallai y bydd angen i brisiau stamp gynyddu dros amser, fel sydd wedi digwydd mewn gwledydd eraill. Y llynedd, gwnaethom amlinellu ein syniadau cynnar ar opsiynau hirdymor, gan gynnwys effaith dull mwy targededig o ymdrin â fforddiadwyedd. 

Er ein bod wedi canfod yn gyson nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn wynebu heriau fforddiadwyedd wrth anfon drwy’r post, rydym yn gwybod y gallai cyfran fach fod yn fwy tebygol o wynebu problemau fforddiadwyedd, gyda'r rhai ar incwm is yn fwy tebygol o fod yn sensitif i brisiau post uwch. 

Felly, rydym yn parhau i fod o'r farn y gallai dull mwy targededig o ymdrin â fforddiadwyedd roi  mwy o gymorth i'r rhai sy'n wynebu'r heriau mwyaf o ran fforddio anfon llythyrau, fel cynllun disgownt i gwsmeriaid agored i niwed. 

Dywedodd Fergal Farragher, Cyfarwyddwr Polisi Ofcom: "Er mwyn sicrhau dyfodol hirdymor ein gwasanaeth post i ddefnyddwyr, ni allwn edrych ar fforddiadwyedd na chynaliadwyedd na dibynadwyedd ar wahân. Mae'r rhain yn heriau cydgysylltiedig y mae'n rhaid eu hystyried gyda'i gilydd. 

"Mae nifer y llythyrau sy'n cael eu hanfon yn gostwng ac mae sefyllfa ariannol y Post Brenhinol yn anodd, a dyna pam y gwnaethom ddiwygio ei rwymedigaethau gwasanaeth cyffredinol y llynedd. Ond mae'r cwmni wedi bod yn araf i weithredu hyn, sy'n golygu nad oeddem yn gallu ymgynghori ar ddyfodol prisiau stamp yn gynharach eleni, fel y cynlluniwyd yn wreiddiol. 

"Mae'r cwmni bellach yn gwneud rhywfaint o gynnydd gyda'i ddiwygiadau i’r gwasanaeth cyffredinol a’i welliannau i’w berfformiad dosbarthu, sydd wedi bod yn annerbyniol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae angen darlun cliriach arnom o'u heffaith cyn y gallwn nodi ein dull hirdymor o brisio stampiau, y byddwn yn gwneud hynny y flwyddyn nesaf. 

"Yn y cyfamser, rydym yn cynnig y dylai prisiau stamp Ail Ddosbarth aros yn sefydlog am flwyddyn arall, er mwyn sicrhau bod opsiwn fforddiadwy yn parhau i fod ar gael."

Camau nesaf 

Rydym yn gwahodd adborth ar ein cynnig i ymestyn y cap diogelu ar gyfer stampiau Ail Ddosbarth am flwyddyn tan 27 Tachwedd 2026. Byddwn yn ystyried pob ymateb i'n hymgynghoriad yn ofalus cyn cyhoeddi ein penderfyniad terfynol yn Ch4 2026/27, cyn i'r cap diogelu presennol ddod i ben ym mis Mawrth. 

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gosod y dull hirdymor o ystyried y pwysau ar gynaliadwyedd y gwasanaeth cyffredinol. Felly, rydym yn bwriadu ymgynghori ar ddull hirdymor ar gyfer y gwasanaeth cyffredinol a phrisio mynediad yn Ch1 2027/28 a chyhoeddi penderfyniad yn Ch3 2027/28.


Nodiadau i olygyddion:

  1. Yn ogystal â dirwyo’r Post Brenhinol am ei berfformiad dosbarthu gwael yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwnaethom hefyd fynnu bod y cwmni’n cyhoeddi cynllun gwella credadwy, wedi'i gefnogi gan fuddsoddiad gan ei berchnogion. Mewn ymateb, ymrwymodd  i ddychwelyd perfformiad yn ôl i'r targedau rheoleiddiedig erbyn Ebrill 2027, ac i fuddsoddi £500 miliwn dros y pum mlynedd nesaf.
  2. Ar hyn o bryd rydym yn ymchwilio i fethiant y Post Brenhinol i gyrraedd ei dargedau dosbarthu blynyddol diweddaraf, ar gyfer 2025/26, ac rydym wedi rhoi dirwy o fwy na £37 miliwn iddo yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
  3. Mae stamp llythyr Ail Ddosbarth yn y DU heddiw yn costio 91c. O'i gymharu â'r cynhyrchion cyfatebol agosaf y gallwn eu nodi, mae hyn yn llai na hanner y cymedr (£2.07) a thua hanner canolrif (£1.81) gwledydd Ewrop.
  4. Y Post Brenhinol yn dod i gytundeb gydag Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu
  5. Mae'r cap diogelu yn berthnasol i bris stamp Ail Ddosbarth yn unig – mae gan y Post Brenhinol hyblygrwydd masnachol o ran pennu prisiau ar gyfer cynhyrchion eraill, sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o'i refeniw.