
Yma, mae Nina Percival, Cyfarwyddwr Rheoli ac Awdurdodi Sbectrwm yn Ofcom, yn egluro pam mae ein gwaith ym maes sbectrwm gofod mor bwysig, a beth mae'n ei olygu i'r gwasanaethau y mae defnyddwyr a busnesau’n dibynnu arnynt.
Heddiw, rydym wedi cyhoeddi'r diweddariadau yn ein dull o ymdrin â sbectrwm ar gyfer gwasanaethau gofod.
Mae cyhoeddiadau heddiw yn nodi sut diweddarwn ein rheolau trwyddedu sbectrwm i adlewyrchu twf ac arloesedd yn y sector lloeren. Maent yn rhan o ystod o ddatblygiadau diweddar a rhai sydd ar ddod sy'n adlewyrchu'r gwaith a wnawn ym maes sbectrwm gofod.
Dyma un o feysydd mwyaf arloesol o'n gwaith. Mae spectrwm yn hanfodol i'r sector gofod, gan alluogi technolegau newydd arloesol sy'n caniatáu i ddarparwyr cyfathrebu gynnig cynhyrchion a gwasanaethau newydd, yn ogystal â gwasanaethau eraill fel rhagolygon tywydd a GPS.
Wrth i ddefnyddwyr ddisgwyl gallu defnyddio gwasanaethau data ble bynnag y maent wedi’u lleoli, mae’r gofod yn cynnig atebion newydd a all ein cadw ni i gyd mewn cysylltiad.
Ac mae gan Ofcom ran hanfodol i'w chwarae wrth agor cyfleoedd newydd a fydd yn y pen draw o fudd i'r defnyddwyr a'r busnesau sy'n defnyddio'r gwasanaethau hyn bob dydd.
Yr hyn rydym wedi'i wneud
Rydym eisoes wedi cymryd llawer o gamau yn y maes hwn. Y DU yw’r wlad gyntaf yng ngorllewin Ewrop i alluogi technoleg 'uniongyrchol i'r ddyfais' sy'n caniatáu i ffonau clyfar safonol dderbyn signalau o'r gofod.
Mae'r defnydd hwn o loerennau i wneud galwadau, negeseuon testun a darparu data yn helpu i ddileu mannau du symudol ar lawr gwlad. Mae Virgin Media O2 eisoes wedi lansio ei wasanaeth, O2 Satellite, ac mae VodafoneThree wedi nodi cynlluniau i wneud hynny.
Mae band eang lloeren yn sector arall sy'n tyfu ac sy’n darparu cysylltiadau mewn mannau sy’n anodd eu cyrraedd. Mae ymchwil Ofcom o’r llynedd yn dangos bod mwy na 110,000 o gwsmeriaid band eang Starlink, gydag Amazon Leo ac eraill yn bwriadu lansio mwy o wasanaethau cysylltedd lloeren yn y DU cyn bo hir.
Yn y cyfamser, mae cyhoeddiadau heddiw yn nodi cam arall i Ofcom wrth sicrhau bod llawer mwy o sbectrwm ar gael, cyflymu'r broses drwyddedu a diweddaru ffioedd a gasglwn gan gwmnïau i adlewyrchu’r galw cynyddol ac arloesol.
Beth sy'n dod nesaf
Dros y misoedd nesaf byddwn yn ymgynghori ar ddatblygiadau pellach yn y maes hwn.
Er enghraifft, byddwn yn nodi cynlluniau ar gyfer sicrhau bod mwy o sbectrwm ar gael i ddarparu gwasanaethau band eang lloeren ar gyfer llongau ac awyrennau, a'n dull yn y dyfodol o ymdrin â'r band sbectrwm 2 GHz.
Rydym hefyd yn cynrychioli buddiannau'r DU mewn trafodaethau rhyngwladol i ddiweddaru'r rheolau byd-eang ynghylch sbectrwm gofod, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas dros y blynyddoedd a'r degawdau i ddod.