Adroddiad gwasanaethau mynediad teledu: chwe mis cyntaf 2026

Cyhoeddwyd: 20 Hydref 2026

Mae'r adroddiad hwn yn nodi i ba raddau y mae sianeli teledu darlledu yn cario isdeitlau, sain ddisgrifio a/neu arwyddo (gyda'i gilydd, "gwasanaethau mynediad") rhwng Ionawr a Mehefin 2026.

O dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, mae'n ofynnol i sianeli teledu darlledu wneud cyfran benodol o'u rhaglenni yn hygyrch. Mae'r Cod ar Wasanaethau Mynediad Teledu yn nodi'r rhwymedigaethau hyn.

Mae'n ofynnol i ddarlledwyr gyrraedd targedau ar gyfer y gwahanol wasanaethau mynediad maen nhw'n eu cynnal ar eu sianeli – mae'r targedau hyn yn cael eu cyfrifo yn seiliedig ar fforddiadwyedd ac ers pryd y mae’r sianel wedi bod dan ofyniad i ddarparu gwasanaethau mynediad. Mae rhagor o wybodaeth am sut mae'r cwotâu hyn yn cael eu cyfrifo wedi'i nodi yng Nghod Ofcom ar Wasanaethau Mynediad Teledu.

Dangosir y cwotâu blynyddol ar gyfer sianeli darlledu fel canran o'r oriau y mae'n ofynnol darparu pob gwasanaeth mynediad ar eu cyfer. Er hwylustod, mae Ofcom yn adrodd un ffigur ar gyfer darpariaeth gwasanaethau mynediad ar gyfer pob sianel. Fodd bynnag, mae'r cwotâu'n berthnasol i bob platfform dosbarthu lle mae'r gwasanaeth yn cael ei reoleiddio.

Rydym yn nodi bod nifer fach o sianeli yn tan-ddarparu ychydig yn erbyn eu gofynion isdeitlo ar gyfer y flwyddyn. Mae'r cwotâu blynyddol yn cael eu cyfrifo ar sail blwyddyn galendr, ac rydym yn disgwyl i bob sianel fod wedi cyflawni'r cwotâu hyn erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae gan sianeli sydd â chyfran o'r gynulleidfa rhwng 0.05% ac 1% yr opsiwn naill ai i ddarlledu swm penodol o raglenni a gyflwynir gan arwyddion bob mis neu gymryd rhan mewn trefniadau amgen a gymeradwywyd gan Ofcom. Pan ddangosir " LumoTV Contribution" yn yr adroddiad, mae hyn yn nodi bod y darlledwr wedi cyfrannu at LumoTV, sy'n comisiynu rhaglenni a gyflwynir gan arwyddion ac sy'n cael ei ddarlledu ar y sianeli Film4 a Together TV.

Pan fo "Exempt" wedi'i nodi yn yr adroddiad, mae hyn yn nodi bod y sianeli hyn wedi'u heithrio rhag darparu sain-ddisgrifiad oherwydd anawsterau technegol a fyddai'n ei gwneud hi'n anymarferol gwneud hynny. Mae hyn oherwydd bod natur y cynnwys a ddarlledir ar y gwasanaethau hyn (e.e. rhaglenni newyddion) yn golygu nad oes llawer o le yn y deunydd sain i ddarparu sain-ddisgrifiad.

Fel mewn adroddiadau canol blwyddyn blaenorol, ni fyddwn yn adrodd ar hygyrchedd gwasanaethau rhaglenni ar alw ("ODPS") ar hyn o bryd a byddwn yn cyhoeddi data, mewn perthynas ag ODPS a hysbyswyd, ar gyfer blwyddyn lawn 2026 yng Ngwanwyn 2027.

Adroddiad rhyngweithiol

Rydym wedi darparu'r adroddiad hwn mewn fformat rhyngweithiol fel y gallwch gymharu hygyrchedd gwasanaethau darlledu ac ar-alw ar draws amrywiaeth o lwyfannau.

Am y profiad gorau, ehangwch i'r sgrin lawn (cliciwch ar y botwm yn y gornel dde isaf).

Noder bod yr isod yn Saesneg yn unig.

Mae'r set ddata lawn hefyd ar gael i'w lawrlwytho mewn fformat CSV (Saesneg yn unig).

Os oes gennych ofynion hygyrchedd nad ydynt wedi'u diwallu gan y cyhoeddiadau hyn, ac os hoffech ofyn am yr wybodaeth hon mewn fformat gwahanol, gallwch anfon e-bost accessibility@ofcom.org.uk neu ffonio ein Tîm Cymorth o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09:00 a 17:00 ar 020 7981 3040 neu 0300 123 3333.

Os ydych chi'n fyddar neu â nam ar eich lleferydd, gallwch ddefnyddio ein rhifau ffôn testun, sef 020 7981 3043 neu 0300 123 2024.