Mae’r adroddiad hwn yn nodi i ba raddau roedd sianeli teledu a ddarlledir a gwasanaethau rhaglenni ar-alw wedi darparu isdeitlau, disgrifiadau sain a/neu iaith arwyddion (“gwasanaethau mynediad”, gyda’i gilydd) rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2024.
Mae’r rheolau statudol ar gyfer gwasanaethau a ddarlledir yn wahanol i’r rhai ar gyfer gwasanaethau ar-alw. O dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, mae’n ofynnol i sianeli teledu a ddarlledir sicrhau bod cyfran benodol o’u rhaglenni’n hygyrch. Mae’r Cod ar Wasanaethau Mynediad Teledu yn nodi’r rhwymedigaethau hyn.
Nid yw gwasanaethau ar-alw (gan gynnwys gwasanaethau dal-i-fyny) o dan unrhyw rwymedigaeth statudol i ddarparu gwasanaethau mynediad eto. Fodd bynnag, roedd Deddf Cyfryngau 2024 wedi cyflwyno gofynion hygyrchedd newydd ar rai gwasanaethau fideo-ar-alw (‘VoD’), gan gynnwys darparu gwasanaethau mynediad ar gyfran benodol o’u rhaglenni. Rydym yn gweithio i roi’r rheolau newydd hyn ar waith cyn gynted â phosibl. Yn y cyfamser, yn yr un modd â’r blynyddoedd blaenorol, rydym wedi gofyn i ddarparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alw rannu eu data gwasanaethau mynediad â ni yn wirfoddol. Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Ofcom am ein dull ar gyfer gweithredu’r gofynion a nodir yn Neddf Cyfryngau 2024.
Targedau ar gyfer sianeli teledu a ddarlledir
Mae’n rhaid i ddarlledwyr gyrraedd targedau ar gyfer y gwahanol wasanaethau mynediad y maent yn eu darparu ar eu sianeli. Mae’r targedau hyn yn cael eu cyfrifo ar sail fforddiadwyedd ac am faint o amser y mae’n rhaid i’r sianel fod wedi darparu gwasanaethau mynediad. Mae rhagor o wybodaeth am sut mae’r cwotâu hyn yn cael eu cyfrifo ar gael yn y Cod ar Wasanaethau Mynediad Teledu.
Mae’r cwotâu blynyddol ar gyfer sianeli sy’n cael eu darlledu yn cael eu dangos fel canran o’r oriau y mae’n rhaid eu darparu gyda phob gwasanaeth mynediad. Er hwylustod, mae Ofcom yn nodi un ffigur ar gyfer y ddarpariaeth gwasanaethau mynediad ar gyfer pob sianel. Fodd bynnag, mae’r cwotâu’n berthnasol ar bob llwyfan darparu lle mae gwasanaeth yn cael ei reoleiddio.
Gall sianeli sydd â rhwng 0.05% a 1% o gyfran y gynulleidfa naill ai ddarlledu swm penodol o raglenni sy’n cael eu cyflwyno drwy iaith arwyddion bob mis neu gymryd rhan mewn trefniadau amgen sydd wedi’u cymeradwyo gan Ofcom, sy’n cyfrannu at sicrhau bod rhaglenni a gyflwynir drwy iaith arwyddion ar gael.
Pan fydd "Cyfraniad Lumo TV" yn cael ei ddangos yn yr adroddiad, mae hyn yn dangos bod y darlledwr wedi gwneud cyfraniad i Lumo TV (BSLBT gynt), sy'n comisiynu rhaglenni a gyflwynir drwy iaith arwyddion ac a ddarlledir ar sianeli Film4 a Together.
Pan nodir “Wedi'i Eithrio” yn yr adroddiad, mae hyn yn dangos bod y sianeli hyn wedi’u heithrio rhag darparu disgrifiadau sain oherwydd anawsterau technegol a fyddai’n ei gwneud hi’n anymarferol cyflawni hynny. Mae hyn oherwydd natur y cynnwys sy’n cael ei ddarlledu ar y gwasanaethau hyn (e.e. rhaglenni newyddion), sy’n golygu nad oes llawer o le yn y deunydd sain i ddarparu disgrifiadau sain.
Darpariaeth ar draws 2024
Yn 2024, roedd pob sianel wedi bodloni neu ragori ar eu gofynion i ddarparu gwasanaethau mynediad. Mae Ofcom yn falch o weld darlledwyr yn parhau i wella hygyrchedd eu cynnwys y tu hwnt i’r nifer syml o wasanaethau mynediad sy’n cael eu darparu. Yn benodol, gwelwyd ystod ehangach o gynnwys yn cael ei ddarparu gyda disgrifiadau sain byw yn 2024, gan gynnwys Strictly Come Dancing, y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, a Rygbi’r Chwe Gwlad.
Yn dilyn tan-ddarpariaeth yn 2023, darparodd DMAX ddisgrifiadau sain ar 21% o’i raglenni yn 2024, sy’n fwy na’r 15% yr ymrwymodd Discovery Corporate Services Limited iddo.
Mae Ofcom yn rheoleiddio ystod eang o wasanaethau rhaglenni ar-alw, gan gynnwys gwasanaethau dal-i-fyny darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a gwasanaethau ffilm i danysgrifwyr. Fel yr amlinellir uchod, nid oes rhwymedigaeth statudol ar wasanaethau rhaglenni ar-alw ar hyn o bryd i ddarparu gwasanaethau mynediad, er bod Ofcom yn gweithio i weithredu’r gofynion a gyflwynwyd gan Ddeddf Cyfryngau 2024. Yn yr un modd â’r blynyddoedd diwethaf, gofynnom i ddarparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alw gyflwyno data’n wirfoddol ynghylch i ba raddau y maent yn sicrhau bod eu gwasanaethau yn hygyrch i bobl sydd ag amhariad ar eu golwg a/neu ar eu clyw. Gall nifer y darparwyr sy’n ymateb – a pha ddarparwyr sy’n ymateb – amrywio, sy’n golygu mai dim ond dangosol yw'r tueddiadau rydym yn eu nodi yma.
Yn 2024, o blith y darparwyr a ymatebodd i’r cais hwn, roedd y gyfran a oedd yn cynnig isdeitlau wedi parhau i godi (94.7% o’i gymharu ag 89.1% yn 2023), yn ogystal â’r gyfran a oedd yn cynnig disgrifiadau sain (34.2% o’i gymharu â 32.1% yn 2023). Fodd bynnag, roedd y ddarpariaeth arwyddo wedi gostwng i 21.1% o’r rhai a ymatebodd (o’i gymharu â 22.6% yn 2023).
Lle’r oedd darparwyr yn cynnig gwasanaeth mynediad penodol, roeddem wedi edrych ar gyfran y cynnwys a oedd yn cael ei isdeitlo/sain-ddisgrifio/arwyddo. Gan edrych ar y gwasanaethau a oedd yn cynnig gwasanaethau mynediad yn unig, yn 2024 gwelwyd rhywfaint o ostyngiad yng nghyfran y cynnwys a oedd ag isdeitlau (69.1% o oriau o raglenni – wedi gostwng o 83.3%) a disgrifiadau sain (11.5% – wedi gostwng o 25.8%). Fodd bynnag, mae hyn oherwydd bod data o wasanaeth Hotstar – sydd â chatalog mawr iawn sy’n cynnig rhywfaint o isdeitlau a disgrifiadau sain – wedi cael ei gynnwys am y tro cyntaf eleni, a bod hynny wedi effeithio’n anghymesur ar y ffigurau. Os caiff Hotstar ei eithrio o’r dadansoddiad, gwelir bod cynnydd wedi bod yng nghyfran y cynnwys a oedd ag isdeitlau (cynnydd i 87.1%) a gostyngiad llawer llai wedi bod yn lefel y disgrifiadau sain (i 21.1%). Ar gyfer gwasanaethau a oedd yn cynnig arwyddo (nid yw Hotstar yn gwneud hynny) roedd canran yr oriau o raglenni â darpariaeth arwyddo wedi cynyddu o 1.9% yn 2023 i 3.4% yn 2024. Rydym wedi eithrio Amazon o’r dadansoddiad yn y paragraff hwn (yn ffigurau 2023 ar gyfer y llynedd, ac yn ffigurau 2024) gan fod ei ddata’n cael ei gyflwyno mewn ffordd wahanol i ddata darparwyr eraill ar hyn o bryd (nid yw Amazon yn darparu data hygyrchedd sy’n benodol i wahanol lwyfannau – edrychwch ar yr adroddiad rhyngweithiol i gael rhagor o fanylion).
Ochr yn ochr â’n cais am wybodaeth, fe wnaethom ofyn i ddarparwyr nodi beth oedd y rhwystrau rhag darparu mwy o wasanaethau mynediad. Yn yr un modd â'r blynyddoedd blaenorol, y costau sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau mynediad yw’r rhwystr mwyaf cyffredin y mae ymatebwyr yn tynnu sylw ato o hyd. Mae heriau sy’n gysylltiedig â chostau yn dod i’r amlwg mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys cyfyngiadau technegol a logistaidd. Er enghraifft, nododd llawer o ddarparwyr fod cyflenwyr cynnwys trydydd parti yn aml yn peidio â chynnwys ffeiliau gwasanaeth mynediad wrth werthu cynnwys. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ddarparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alw greu’r gwasanaethau hyn o’r newydd, hyd yn oed os ydynt eisoes yn bodoli, gan ychwanegu at eu costau ac arwain at ddyblygu gwaith.
Ar ben hynny, mae darparwyr wedi tynnu sylw’n gyson at ddiffyg atebion safonol ar gyfer galluogi gwasanaethau mynediad ar lwyfannau trydydd parti (e.e. blychau pen-set, setiau teledu clyfar, consolau gemau, ac ati). Yn aml gall hyn arwain at gostau datblygu technegol ychwanegol a mwy cymhleth ar gyfer darparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alw. Soniodd darparwyr eraill hefyd am broblemau parhaus gyda rhai hen lwyfannau nad ydynt yn cefnogi rhai ffeiliau gwasanaeth mynediad.
Serch hynny, mae’r ffigurau o 2024 yn dal i awgrymu bod darparwyr yn cynyddu’r amrywiaeth o lwyfannau y maent yn gallu eu defnyddio i gynnig gwasanaethau mynediad. O blith y darparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alw a ymatebodd, mae’r gyfran sy’n darparu isdeitlau ar fathau penodol o lwyfannau bellach yn amrywio – o 100% ar gonsolau gemau i 92.6% ar setiau teledu cysylltiedig, a 96.2% ar apiau dyfeisiau symudol.
Mae Ofcom ar hyn o bryd yn hwyluso trafodaethau ar draws y diwydiant ynghylch rhannu arferion gorau a’r potensial ar gyfer safoni prosesau ac atebion technegol, drwy weithgor o lwyfannau a darparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alw. Yn ein canllawiau arferion gorau ar hygyrchedd, a gafodd eu diweddaru a’u datblygu ym mis Ebrill 2024, rydym yn argymell bod darparwyr a chyflenwyr cynnwys yn cynnwys ffeiliau gwasanaeth mynediad fel rhan o’r broses o gaffael neu werthu cynnwys, fel nad oes costau o ran dyblygu ffeiliau gwasanaeth mynediad.
Yn olaf, fe wnaethom ofyn i ddarparwyr yn gyfrinachol am unrhyw gynlluniau gweithredu ynghylch hygyrchedd sydd ganddynt ar waith ar hyn o bryd. Rydym yn annog darparwyr i ddatblygu cynlluniau o’r fath gyda’r bwriad o fynd ati’n barhaus ac yn raddol i wneud eu gwasanaethau’n fwy hygyrch i bobl anabl. Hoffem weld ystyriaethau ynghylch hygyrchedd yn cael eu gwreiddio mewn strategaethau a chynlluniau ehangach i ddatblygu cynnyrch. Mae dyletswydd statudol ar ddarparwyr i roi copi o unrhyw gynlluniau o’r fath i Ofcom.
Adroddiad rhyngweithiol
Rydym wedi darparu'r adroddiad hwn mewn fformat rhyngweithiol fel y gallwch gymharu hygyrchedd gwasanaethau darlledu ac ar-alw ar draws amrywiaeth o lwyfannau.
Am y profiad gorau, ehangwch i'r sgrin lawn (cliciwch ar y botwm yn y gornel dde isaf).
Mae'r set ddata lawn hefyd ar gael i'w lawrlwytho mewn fformat CSV (Saesneg yn unig).
Os oes gennych ofynion hygyrchedd nad ydynt wedi'u diwallu gan y cyhoeddiadau hyn, ac os hoffech ofyn am yr wybodaeth hon mewn fformat gwahanol, gallwch anfon e-bost accessibility@ofcom.org.uk neu ffonio ein Tîm Cymorth o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09:00 a 17:00 ar 020 7981 3040 neu 0300 123 3333.
Os ydych chi'n fyddar neu â nam ar eich lleferydd, gallwch ddefnyddio ein rhifau ffôn testun, sef 020 7981 3043 neu 0300 123 2024.