
Er ei fod yn wynebu pwysau cyllido sylweddol yng nghanol tirwedd cyfryngau sy'n newid yn gyflym, mae'r BBC yn parhau i berfformio'n gryf yn gyffredinol wrth gyflawni i gynulleidfaoedd, yn ôl Adroddiad Blynyddol diweddaraf Ofcom ar y BBC 2025-2026.
Daw adroddiad heddiw ar adeg dyngedfennol i'r BBC. Gyda phroses adolygu'r Siarter ar y gweill ac wrth i arweinyddiaeth newydd y BBC geisio gwneud arbedion sylweddol wrth ailddylunio’r ffordd y mae'n cyrraedd ac yn cyflawni cynulleidfaoedd yn nhirwedd gynyddol ddigidol heddiw, mae'n rhaid i'r gorfforaeth wneud dewisiadau gofalus ynghylch buddsoddi, comisiynu a dosbarthu cynnwys.
Mae ein adroddiad yn canfod, ar y cyfan, fod y BBC yn parhau i berfformio'n gryf yn erbyn ei gylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus ac yn parhau i fod yn boblogaidd gyda'r cyhoedd. Yn dilyn her Ofcom i'r BBC arloesi a chymryd risgiau wrth sicrhau bod cynnwys deniadol ar gael yn y mannau lle mae pobl eisiau ei wylio, mae arwyddion hefyd fod newid yn y dull strategol yn dechrau cael effaith. I grynhoi:
- mae wyth o bob deg oedolyn yn y DU (80%) yn dweud eu bod yn defnyddio gwasanaethau'r BBC yn wythnosol;
- mae cynnwys y BBC yn cyfrif am tua un rhan o bump o'r holl fideos a gaiff eu gwylio yn y cartref;
- ·gwelwyd cynnydd o 21% yn nifer fideos y BBC a gafodd eu gwylio ar YouTube yn ystod y flwyddyn ddiwethaf;
- mae 77% o oedolion yn defnyddio gwasanaethau’r BBC i gael newyddion bob mis, gan godi i 80% wrth ystyried cynnwys newyddion y BBC sy’n cael ei weld ar lwyfannau trydydd parti;
- mae 43% o bobl 16-24 oed yn dweud eu bod wedi dod ar draws cynnwys newyddion y BBC ar gyfryngau cymdeithasol;
- mae 63% o oedolion yn rhoi sgôr uchel i’r BBC am ystod, ansawdd a chreadigrwydd y rhaglenni;
- arhosodd cyrhaeddiad cynnwys CBBC a CBeebies yn sefydlog dros y flwyddyn ddiwethaf, a chynyddodd faint o gynnwys roedd plant yn ei wylio ar BBC iPlayer;
- mae cynnwys BBC Bitesize yn parhau i gael ei werthfawrogi'n fawr, gyda 86% o ddefnyddwyr o’r farn ei fod yn ddefnyddiol.
Heriau ar y gorwel
Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at yr heriau sylweddol parhaus sy'n wynebu'r BBC a sut y mae'n ymateb, yn ogystal â nodi meysydd sydd angen ei ffocws parhaus.
Mae newyddion – ac ymddiriedaeth y cyhoedd – yn hanfodol i genhadaeth y BBC. Fel darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill a sefydliadau newyddion, mae'r BBC yn gweithredu mewn amgylchedd anodd, gydag ymddygiad y gynulleidfa'n newid yn gyflym ac ymddiriedaeth mewn newyddion a sefydliadau’n dirywio.
Y BBC yw’r darparwr newyddion a ddefnyddir fwyaf yn y DU o hyd, gyda 65% o gynulleidfaoedd newyddion y BBC yn rhoi sgôr uchel iddo am gywirdeb a 63% am ddibynadwyedd , er bod canfyddiadau o ddidueddrwydd y BBC yn is,54%. Mae data'r BBC ei hun yn dangos gostyngiadau ar draws pob un o'r tri mesur ymhlith oedolion yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, nid yw hyn yn anghyson â'r tueddiadau a welir gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill.
Mae tystiolaeth yn ein hadroddiad blynyddol a'r adolygiad cysylltiedig ar Ymddiriedaeth yn newyddion y BBC yn dangos, yng nghanol pryderon cynyddol am dwyllwybodaeth a chamwybodaeth, fod newyddion dibynadwy gyda adroddiadau clir, cywir a gwrthrychol yn parhau i fod yn hanfodol. Mae'r BBC mewn sefyllfa unigryw i chwarae'r rôl hon, a bydd cynnal ymddiriedaeth yn hanfodol i'w genhadaeth gwasanaeth cyhoeddus ac i ba mor berthnasol y bydd at y dyfodol.
Mae presenoldeb cynyddol y BBC ar gyfryngau cymdeithasol a phlatfformau rhannu fideos hefyd yn cynnig cyfleoedd pellach i gyrraedd a chysylltu â chynulleidfaoedd ehangach ac arloesi yn y ffordd y caiff newyddion ei gyflwyno ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae cynulleidfaoedd yn parhau i raddio'r BBC yn llai ffafriol o ran cynrychiolaeth a phortread. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r BBC wedi symud ei ffocws comisiynu tuag at raglenni trawiadol sy'n adrodd straeon lleol ac yn adlewyrchu diwylliannau ledled y DU. Mae sioeau fel Blue Lights a This City is Ours yn dangos sut y gall cynnwys sydd â gwreiddiau lleol ddod â chynulleidfaoedd ynghyd a darparu gwerth cyhoeddus helaeth.
Ond nid yw'r newidiadau hyn eto wedi helpu i newid canfyddiadau ynghylch pa mor dda y mae'r BBC yn cynrychioli ac yn portreadu pob cymuned, ac mae’r rhain ymhlith y meysydd perfformiad sy’n sgorio isaf. Mae gan wasanaethau lleol a chenhedloedd y BBC rôl bwysig i'w chwarae yma. Ac er bod rhai arwyddion fod ei apêl yn cynyddu ymhlith cynulleidfaoedd incwm is, mae'r canfyddiadau'n parhau i fod yn wannach ar gyfer y grwpiau hyn hefyd. O’r herwydd, dylai'r BBC barhau i geisio gwella'r ffordd y mae'n cyflawni i gynulleidfaoedd o bob cefndir, ar draws y DU gyfan.
Rhaid i'r BBC gydbwyso trawsnewid a gwneud arbedion, â darparu ar gyfer cynulleidfaoedd. Mae'r BBC wedi cyhoeddi cynlluniau i gyflawni arbedion o £500m erbyn 2028 wrth iddo ymateb i bwysau ariannol sylweddol, costau cynyddol ac arferion cynulleidfaoedd sy'n newid. Mae'r cynigion yn cynnwys newidiadau i'w adrannau cynnwys, newyddion a gwledydd, ynghyd â chau sawl gwasanaeth darlledu llinol a thorri hyd at 2,000 o swyddi.
Mae'r newidiadau arfaethedig hyn yn sylweddol a bydd yr effaith yn ymestyn y tu hwnt i weithlu'r BBC, gydag effaoith debygol ar gynulleidfaoedd, cynhyrchwyr a'r sector creadigol ehangach. Yn gynharach y mis hwn, ysgrifennom at y BBC yn gofyn iddo nodi sut y bydd yn yn gwneud yr arbedion ac yn asesu’r effaith ar gynulleidfaoedd, gan bwysleisio pwysigrwydd diogelu cynnwys unigryw, newyddion dibynadwy a gwasanaethau sy’n cysylltu â chynulleidfaoedd ledled y DU. Byddwn yn parhau i asesu goblygiadau’r cynigion ac yn disgwyl i’r BBC egluro sut y bydd yn parhau i wasanaethu’r cynulleidfaoedd hynny y bydd y newidiadau’n effeithio fwyaf arnynt.
Sicrhau safonau ar draws cynnwys ar-lein y BBC
Yn dilyn newidiadau i Gytundeb Fframwaith y BBC ym mis Rhagfyr 2025, mae gan Ofcom bellach bwerau i osod a gorfodi safonau ar gyfer deunydd ar-lein y BBC am y tro cyntaf.
Heddiw, rydym yn cyhoeddi Cod Deunydd Ar-lein newydd y BBC, ynghyd â gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion a chymryd camau gorfodi. Mae'r fframwaith newydd yn disodli'r Cytundeb y BBC Ar-lein presennol ac yn sefydlu sut y bydd Ofcom yn rheoleiddio safonau ar draws gwasanaethau ar-lein y BBC.
Mae'r Cod yn cwmpasu meysydd gan gynnwys: diogelu plant; niwed a sarhad; lleferydd casineb; crefydd; didueddrwydd dyledus a chywirdeb dyledus, a sylw i etholiadau. Mae'n cyd-fynd yn agos â'r Cod Darlledu, ac wedi’i deilwra i adlewyrchu natur cynnwys ar-lein a sut y mae cynulleidfaoedd yn ei gyrchu a'i ddefnyddio.
Cynnwys cysylltiedig